Rhosnenan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Rhosnennan i Rhosnenan heb adael dolen ailgyfeirio |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 13:13, 2 Ebrill 2018
Dolnennan oedd hen enw'r tir lle saif y rhan fwyaf o bentref Y Groeslon heddiw, cyn i'r pentref ei hun gael ei ffurfio a gwmpas yr orsaf a agorwyd gan Reilffordd Nantlle ym 1828. Y pryd hynny, dim ond croesffordd oedd yno lle croesai'r ffordd o Gaernarfon i gyfeiriad [[Dyffryn Nantlle][] y ffordd o'r mynydd i ffermydd llawr gwlad plwyf Llandwrog.
Mae'r elfen Nennan yn parhau mewn nifer o enwau tai uwch i fyny'r allt na'r lôn bost, megis Bryn-nennan a Phenrhos Nennan. Mae hen fapiau Ordnans yn dangos yr enw Rhosnennan ar draws y tir gweddol wastad ar ben yr allt o bobtu'r ffordd sy'n arwain i gyfeiriad Carmel, a dichon bod yr holl enwau yn y darn hwnnw o'r Groeslon megis Bryn-rhos, Uwchlaw'r Rhos a Chefn Rhos hefyd yn cyfeirio at Rosnennan.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma