Ffynnon Ddigwg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Ffynnon Ddigwg''' ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] nid nepell o fferm [[Pennarth]], rhwng [[Aberdesach]] a Chlynnog. Nid oes dim ar ôl i'w weld heddiw, ond pant corsiog heb unrhyw olion o adeiladwaith hynafol.<ref>Comisiwm Henebion Cymru, ''Caernarvonshire", Cyf.II, (Llundain, 1960) t.57</ref>
Mae '''Ffynnon Ddigwg''' ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] nid nepell o fferm [[Pennarth]], rhwng [[Aberdesach]] a Chlynnog. Nid oes dim ar ôl i'w weld heddiw, ond pant corsiog heb unrhyw olion o adeiladwaith hynafol. ,<ref>Comisiwm Henebion Cymru, ''Caernarvonshire", Cyf.II, (Llundain, 1960) t.57</ref> Ar adegau gwlyb, mae pwll sylweddol yn ffurfio, fodd bynnag, wedi ei bwydo gan ddwy ffrwd neu ffynnon.<ref>https://wellhopper.wordpress.com/2015/11/14/ffynnon-digwg-clynnog/</ref>


Mae nifer o hanesion anodd eu credu neu goelion gwrach yn perthyn i'r ffynnon hon. Yn ôl llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol, honnai un hen ferch bod rhywbeth tebyg i orennau wedi arfer tyfu ar waelod y ffynnon, ond nad oedd neb wedi llwyddo i godi un o'r dŵr. Mae Myrddin Fardd yn nodi mai enw amgen ar y ffynnon oedd ''Ffynnon Gwtig'' neu ''Ffynnon Gyttig''. Dywedodd fod pinau a wyau yn cael eu cyflwyno yno; fod y dŵr yn gallu gwella defaid ar y croen; a bod rhywun wedi honni unwaith iddo weld creaduriaid tebyg i ddraenogod heb ddrain yn nŵr y ffynnon.<ref>Francis Jones ''The Holy Wells of Wales'', (Caerdydd, 1954), t.155</ref>.
Mae nifer o hanesion anodd eu credu neu goelion gwrach yn perthyn i'r ffynnon hon. Yn ôl llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol, honnai un hen ferch bod rhywbeth tebyg i orennau wedi arfer tyfu ar waelod y ffynnon, ond nad oedd neb wedi llwyddo i godi un o'r dŵr. Mae Myrddin Fardd yn nodi mai enw amgen ar y ffynnon oedd ''Ffynnon Gwtig'' neu ''Ffynnon Gyttig''. Dywedodd fod pinau a wyau yn cael eu cyflwyno yno; fod y dŵr yn gallu gwella defaid ar y croen; a bod rhywun wedi honni unwaith iddo weld creaduriaid tebyg i ddraenogod heb ddrain yn nŵr y ffynnon.<ref>Francis Jones ''The Holy Wells of Wales'', (Caerdydd, 1954), t.155</ref>.

Fersiwn yn ôl 17:39, 1 Ebrill 2018

Mae Ffynnon Ddigwg ym mhlwyf Clynnog Fawr nid nepell o fferm Pennarth, rhwng Aberdesach a Chlynnog. Nid oes dim ar ôl i'w weld heddiw, ond pant corsiog heb unrhyw olion o adeiladwaith hynafol. ,[1] Ar adegau gwlyb, mae pwll sylweddol yn ffurfio, fodd bynnag, wedi ei bwydo gan ddwy ffrwd neu ffynnon.[2]

Mae nifer o hanesion anodd eu credu neu goelion gwrach yn perthyn i'r ffynnon hon. Yn ôl llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol, honnai un hen ferch bod rhywbeth tebyg i orennau wedi arfer tyfu ar waelod y ffynnon, ond nad oedd neb wedi llwyddo i godi un o'r dŵr. Mae Myrddin Fardd yn nodi mai enw amgen ar y ffynnon oedd Ffynnon Gwtig neu Ffynnon Gyttig. Dywedodd fod pinau a wyau yn cael eu cyflwyno yno; fod y dŵr yn gallu gwella defaid ar y croen; a bod rhywun wedi honni unwaith iddo weld creaduriaid tebyg i ddraenogod heb ddrain yn nŵr y ffynnon.[3].

Ymysg yr ofergoelion eraill yn gysylltiedig â'r ffynnon hon, credid y byddai mellt a tharannau'n cael eu hachosi pe cwympwyd coeden ddraenen wen a dyfai gerllaw. Hen hen ofergoel baganaidd yw hon, sydd yn awgrymu bod Ffynnon Ddigwg wedi bod yn safle o bwysigrwydd crefyddol cyn dyddiau Cristionogaeth.[4]

Stori arall yn gysylltiedig â'r ffynnon oedd un a adroddwyd gan Myrddin Fardd. Credid bod trysor wedi ei guddio yn Ffynnon Ddigwg, ond nid oedd ond un math ar berson a fyddai'n gallu dod o hyd i'r arian, sef geneth wallt coch a oedd yn hel defaid ar y pryd.[5]

Mae stori ar gael hefyd sydd yn ceisio esbonio enw'r ffynnon. Roedd gweithiwr o Ynys Môn yn gweithio yn llys Brenin Ynyr, Brenin Gwent, ac fe sicrhaodd fod y Brenin yn meddwl cymaint amdano fel y byddai'n rhoi ei ferch, Digwg, iddo'n wraig. Ar eu ffordd adref, roedd y gŵr yn poeni y byddai ei wraig y dywysoges yn darganfod pa mor ddistadl oedd ei statws cymdeithasol. Arhosent ger Bennarth i dreulio'r nos a thra oedd y ferch yn cysgu, torrodd ei gŵr ei phen hi i ffwrdd. Y foment honno, llifodd ffynnon o'r ddaear yn y man lle cyffyrddodd ei gwaed hi â'r ddaear. Mae Francis Jones yn nodi bod hon yn ffurf ar stori gyffredin a'r elfennau arhosol yw: merch neu wyryf sy'n ceisio ffoi oddi wrth un a fyddai'n gariad iddi ac sydd yn torri ei phen i ffwrdd - a ffynnon yn codi lle gwnaethpwyd yr anfadwaith. Weithio mae'r ferch yn cael ei hatgyfodi gan sant flynyddoedd wedyn. Adroddir stori cyffelyb am Sant Beuno mewn cysylltiad â Gwenffrewi, parthed Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint.[6]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Comisiwm Henebion Cymru, Caernarvonshire", Cyf.II, (Llundain, 1960) t.57
  2. https://wellhopper.wordpress.com/2015/11/14/ffynnon-digwg-clynnog/
  3. Francis Jones The Holy Wells of Wales, (Caerdydd, 1954), t.155
  4. Francis Jones, op.cit., t.19.
  5. Francis Jones, op.cit., t.134
  6. Francis Jones, op.cit., t.38.