Brwydr Brynderwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:

Mae Bryn Dewin yn ymyl [[Bwlch Dau Fynydd]] yn ucheldir plwyf [[Clynnog Fawr]] yng nghantref [[Arfon]] ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn' a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn  i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5</ref>

Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn ''Llyfr Coch Hergest'' o ''Brut y Tywysogion'':
Yn y dyddiau hynny magwyd terfysg mawr a anogwyd gan y Diafol rhwng meibion Gruffudd ap Llywelyn, sef, Owain Goch a Dafydd, ar un ochr, a Llywelyn, ar yr ochr arall.
Ac yna arhosodd Llywelyn a’i wyr, gan ymddiried yn Nuw, yn ddiofn ar Fryn Derwin am ddyfodiad ei frodyr, a llu mawr iawn gyda hwy. A chyn pen awr, cipiwyd Owain Goch
[Owain ap Gruffudd] a ffodd Dafydd, wedi i lawer o’i lu gael eu lladd, i eraill gael eu cipio a’r gweddill ffoi. Ac yna carcharwyd Owain, a chafodd Llywelyn feddiant ar
diriogaeth Owain a Dafydd heb wrthwynebiad iddo. <ref>Gwefan Meysydd brwydro omisiwn Henebion Cymru [http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/collections/getrecord/402322] Adalwyd 29.03.2018</ref>

Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:
Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:

Fersiwn yn ôl 17:31, 29 Mawrth 2018

Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Daydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd Brwydr Bryn Derwin. Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.

Mae Bryn Dewin yn ymyl Bwlch Dau Fynydd yn ucheldir plwyf Clynnog Fawr yng nghantref Arfon ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn' a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.[1]

Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn Llyfr Coch Hergest o Brut y Tywysogion:

Yn y dyddiau hynny magwyd terfysg mawr a anogwyd gan y Diafol rhwng meibion Gruffudd ap Llywelyn, sef, Owain Goch a Dafydd, ar un ochr, a Llywelyn, ar yr ochr arall. 
Ac yna arhosodd Llywelyn a’i wyr, gan ymddiried yn Nuw, yn ddiofn ar Fryn Derwin am ddyfodiad ei frodyr, a llu mawr iawn gyda hwy. A chyn pen awr, cipiwyd Owain Goch 
[Owain ap Gruffudd] a ffodd Dafydd, wedi i lawer o’i lu gael eu lladd, i eraill gael eu cipio a’r gweddill ffoi. Ac yna carcharwyd Owain, a chafodd Llywelyn feddiant ar 
diriogaeth Owain a Dafydd heb wrthwynebiad iddo. [2]

Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:

   Gwelai wawr ar wŷr lliosydd,
   Fal gŵr yn gwrthladd cywilydd,
   A welai Lywelyn, lewenydd - dragon,
   Yng nghymysg Arfon ac Eifionydd.
   Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd,
   Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.[3]

Llyfryddiaeth

J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.

Cyfeiriadau

  1. J.E. Lloyd, A History of Wales, Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5
  2. Gwefan Meysydd brwydro omisiwn Henebion Cymru [1] Adalwyd 29.03.2018
  3. Wicipedia [2] adalwyd 29.03.2018