Brwydr Bron-yr-erw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Ar ôl y frwydr ffoes Gruffudd yn ôl i Iwerddon lle cafodd ymgeledd yn Llwch Garman (''Wexford''). | Ar ôl y frwydr ffoes Gruffudd yn ôl i Iwerddon lle cafodd ymgeledd yn Llwch Garman (''Wexford''). | ||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Milwrol]] | |||
[[Categori:Brwydrau]] |
Fersiwn yn ôl 15:45, 29 Mawrth 2018
Ymladdwyd Brwydr Bron yr Erw, ar safle ger Clynnog Fawr, ym 1075 rhwng byddin Gruffudd ap Cynan a lluoedd Trahaearn ap Caradog. Fe'i cofnodir ym Mrut y Tywysogion a Hanes Gruffudd ap Cynan.
Ar farwolaeth Bleddyn ap Cynfyn, brenin teyrnas Powys, yn gynharach yn y flwyddyn, meddianwyd ei deyrnas gan Trahaearn, arglwydd Arwystli a Cynwrig ap Rhiwallon o Faelor. Ceisiodd Trahaearn a Chynwrig sefydlu eu hawdurdod yn Llŷn gyda'r bwriad o reoli teyrnas Gwynedd yn y pen draw.
Daeth Gruffudd ap Cynan drosodd o Ddulyn gyda mintai o filwyr cyflogedig o Lychlynwyr. Glaniodd yn Abermenai a chafodd fuddugoliaethau ysgubol yn erbyn Trahaearn a Chynwrig (a laddwyd) ac yn erbyn y Normaniaid dan Robert o Ruddlan hefyd, ond lladdwyd y Llychlynwyr a adawsai yn Llŷn a dychwelodd Gruffudd yno o Ruddlan gyda byddin gymharol fechan.
Arweiniodd Trahaearn ei gefnogwyr yn Llŷn a'i fyddin o wŷr Powys, yn cynnwys ei gynghreiriad Gwrgenau ap Seisyllt, yn erbyn Gruffudd. Trechodd y cynghreiriaid fyddin Gruffudd ap Cynan ym Mron yr Erw gyda cholledion trwm.
Ar ôl y frwydr ffoes Gruffudd yn ôl i Iwerddon lle cafodd ymgeledd yn Llwch Garman (Wexford).