Capel Seion (MC), Gurn Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Capel Seion, Gyrn Goch (MC) i Capel Seion (MC), Gurn Goch heb adael dolen ailgyfeirio |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 08:54, 29 Mawrth 2018
Capel Methodist yn ardal Gurn Goch yw Capel Seion.
Credir i’r addoldy hwn ei adeiladu o ganlyniad diwygiad 1818. Cwblhawyd y gwaith adeiladu yn 1826 a rhoddwyd prydles o 101 mlynedd ar y Capel am 6 swllt y flwyddyn. Cyn addoli yn y Capel hwn, roedd Methodistiaid yr ardal yn mynychu annedd-dŷ’r Hen Derfyn gyda’r ysgol Sul yn cael ei gynnal yn nhai gwahanol aelodau o’r gymuned.
Ail-adeiladwyd y Capel a chodwyd tŷ ar y safle yn 1875, gyda cost o £700. Credir i’r ddyled ei dalu yn ôl i gyd o fewn 7 mlynedd o agor y Capel[1].
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) t. 66-73