Ffynnon Edliw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Yr oedd y ffynnon hon yn un o'r ffynhonnau a gyfrifid yn sanctaidd gan bererinion y Canol Oesoedd pan oeddynt ar eu taith o Fangor i Ynys Enlli<ref>http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffynhonnau%27r_pererinion.htm</ref>. Nid syndod hyn, ac ystyried fod safleoedd crefyddol arall gerllaw, sef Eglwys Llandwrog ryw dri lled cau i ffwrdd, a safle hen fetws [[Betws Gwernrhiw]] bron gyferbyn â'r ffynnon yr ochr arall i'r ffordd fodern.
Yr oedd y ffynnon hon yn un o'r ffynhonnau a gyfrifid yn sanctaidd gan bererinion y Canol Oesoedd pan oeddynt ar eu taith o Fangor i Ynys Enlli<ref>http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffynhonnau%27r_pererinion.htm</ref>. Nid syndod hyn, ac ystyried fod safleoedd crefyddol arall gerllaw, sef Eglwys Llandwrog ryw dri lled cau i ffwrdd, a safle hen fetws [[Betws Gwernrhiw]] bron gyferbyn â'r ffynnon yr ochr arall i'r ffordd fodern.


Am luniau o'r ffynnon, a mwy o'r hanes, gellir edrych ar wefan Wellhopper:<ref>https://wellhopper.wordpress.com/2016/11/13/ffynnon-edliw-llandwrog/</ref>
Am luniau o'r ffynnon, a mwy o'r hanes, gellir edrych ar wefan Wellhopper<ref>https://wellhopper.wordpress.com/2016/11/13/ffynnon-edliw-llandwrog/</ref>. Yn y fan honno, nodir mai [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]], yw'r awdurdod sy'n cyplysu'r ffynnon âthaith y pererinion.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 17:23, 26 Mawrth 2018

Mae Ffynnon Edliw, a rhoi'r enw mwyaf cyfarwydd ar y ffynnon hon ym mhlwyf Llandwrog, yn hen ffynnon heb fawr o hanes iddi, ond eto mae hi'n hen iawn. Enwau eraill a arddelid ar y ffynnon hon yn y gorffennol oedd Ffynnon Odliw a Ffynnon Adliw. Ni chynhwysir mohoni yn rhestr bur gyflawn Francis Jones yn ei lyfr[1]

Mae'n sefyll nid nepell o borthdy mawr Glynllifon, yr ochr arall i'r lôn bost iddo, ac ychydig i'r de, mewn darn o goedwig a elwir yn "Goed Ffynnon-edliw" ar fapiau Ordnans (cyf SH 44915539). Mae waliau o waith cerrig a charreg fawr o lechen ar ei phen yn golygu ei bod yn cael ei gadw'n weddol amlwg. Mae pwll o fewn terfynnau'r wal, tua 4 troedfedd wrth 2 droedfedd a hanner.[2]

Yr oedd y ffynnon hon yn un o'r ffynhonnau a gyfrifid yn sanctaidd gan bererinion y Canol Oesoedd pan oeddynt ar eu taith o Fangor i Ynys Enlli[3]. Nid syndod hyn, ac ystyried fod safleoedd crefyddol arall gerllaw, sef Eglwys Llandwrog ryw dri lled cau i ffwrdd, a safle hen fetws Betws Gwernrhiw bron gyferbyn â'r ffynnon yr ochr arall i'r ffordd fodern.

Am luniau o'r ffynnon, a mwy o'r hanes, gellir edrych ar wefan Wellhopper[4]. Yn y fan honno, nodir mai Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, yw'r awdurdod sy'n cyplysu'r ffynnon âthaith y pererinion.

Cyfeiriadau

  1. Francis Jones, The Holy Wells of Wales, (Caerdydd, 1954)
  2. Comisaiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf 2, t.198.
  3. http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffynhonnau%27r_pererinion.htm
  4. https://wellhopper.wordpress.com/2016/11/13/ffynnon-edliw-llandwrog/