Sinema'r Plaza: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
{eginyn}} | {eginyn}} | ||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} |
Fersiwn yn ôl 17:47, 22 Mawrth 2018
Safai Sinema'r Plaza ar ffordd Llanllyfni, Pen-y-groes, bron gyferbyn â thafarn y Victoria. Dyma oedd yr unig sinema yn y cwmwd. Fe agorodd ddydd Llun y Pasg, 17 Ebrill 1933, gyda dangosiadau o Tell Me To-night, gyda Jan Kiepura am dair noson; ac wedyn am dair noson, Anna Neagle yn The Flag Lieutenant. Broliai'r rheolwr ei "Western Electric Sound System", ac wrth gwrs rhaid oedd wrth system sain arbennig gan fod y ffilmiau a ddangoswyd oedd rhai o ffilmiau sain ("talkies") newydd y cyfnod. Ymysg y ffilmiau olaf i'w dangos oedd Charlton Heston yn Planet of the Apes.
Y rheolwr am holl oes y sinema oedd Gwilym Arthurs, gya'i wraig Megan Arthurs yn gwerthu'r ticedi ac ati, a Glyn Morris, Stryd Fawr ac Emlyn Jones yn daflunwyr.
Henry Jones, adeiladydd, Cricieth gododd yr adeilad hardd yn ystod 1932-3, gyda tu blaen mewn arddull y cyfnod, a chanopi fetel dros y fynedfa. Y perchennog oedd y Cadben W. Elias Pritchard, Y Maes, Cricieth.
Fe gaeodd y sinema'n derfynnol ym 1964, a chafodd ei dymchwel yn weddol fuan wedyn.[1]
{eginyn}}
Cyfeiriadau
- ↑ Cafwyd y rhan fwyaf o ffeithiau o gasgliad o raglenni, lluniau a nodiadau sydd wedi eu fframio ar wal Neuadd Goffa Pen-y-groes