Gwilym R. Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
* Gohebydd i bapurau'r ''Herald'', Caernarfon (cyflog: "punt am wythnos o 60 o oriau o waith caled".) | * Gohebydd i bapurau'r ''Herald'', Caernarfon (cyflog: "punt am wythnos o 60 o oriau o waith caled".) | ||
* Golygydd ''Herald Mô | * Golygydd ''Herald Môn'' am ddwy flynedd, hyd at 1931. Byw ym Mhorthaethwy. | ||
* Golygydd ''Y Brython'' yn Lerpwl, 1931-1939. | * Golygydd ''Y Brython'' yn Lerpwl, 1931-1939. | ||
* Golygydd y ''North Wales Times'' ac Is-olygydd ''Y Faner'' yng Ngwasg Gee, Dinbych. Derbyniodd y gwahoddiad hwn ar sail hen gyfeillgarwch rhwng Morris T. Williams, priod Kate Roberts ac yntau. "Bychan oedd y cyflog y gallai Morris ei gynnig imi...ond roedd yna bethau pwysicach nag arian.. fy edmygedd i o fenter Morris a Kate a'u cenedlgarwch nhw..."<ref>Allan o ''Rhodd Enbyd,Hunangofiant Gwilym R. Jones; Llyfrau'r Faner, (1983).</ref> Dechreuodd yno ym mis Mawrth 1939. | * Golygydd y ''North Wales Times'' ac Is-olygydd ''Y Faner'' yng Ngwasg Gee, Dinbych. Derbyniodd y gwahoddiad hwn ar sail hen gyfeillgarwch rhwng Morris T. Williams, priod Kate Roberts ac yntau. "Bychan oedd y cyflog y gallai Morris ei gynnig imi...ond roedd yna bethau pwysicach nag arian.. fy edmygedd i o fenter Morris a Kate a'u cenedlgarwch nhw..."<ref>Allan o ''Rhodd Enbyd,Hunangofiant Gwilym R. Jones; Llyfrau'r Faner, (1983).</ref> Dechreuodd yno ym mis Mawrth 1939. |
Fersiwn yn ôl 20:49, 19 Mawrth 2018
Bardd, newyddiadurwr a golygydd y cylchgrawn wythnosol Y Faner am 32 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (Gwilym R. Jones) (24 Mawrth 1903 – 29 Gorffennaf 1993).
Chwarelwr oedd ei dad, John William Jones, brodor o Rostryfan, ac un o Uwchmynydd oedd ei fam, Ann Jones. Cadwent siop bapurau newydd, Cloth Hall, ond y fam a fyddai'n bennaf cyfrifol amdani gan y byddai'r tad yn ei waith yn y chwarel erbyn 6 o'r gloch y bore ac yno y byddai am 12 awr. Dywedid y byddai llawer o'r chwarelwyr yn gorfod disgyn ar hyd canllath a mwy o ysgolion i waelod twll chwarel Dorothea cyn dechrau gweithio a dringo'r un ysgolion sythion ar derfyn diwrnod o waith.
Yn blant ysgol byddai Gwilym R. a'i frawd Dic yn gwerthu ugeiniau o filoedd o gopiau o'r Genedl,Yr Herald Cymraeg, Y Dinesydd, Y Werin, Yr Eco a Phapur Pawb ar strydoedd Tal-y-sarn ac wrth gatiau Chwarel Dorothea, a daeth Gwilym R. yn fuan i ddanfon newyddion lleol yr ardal i swyddfeydd y papurau newydd yng Nghaernarfon. Nid yw'n rhyfedd iddo ddod yn newyddiadurwr.
Ei yrfa, yn fras:
- Gohebydd i bapurau'r Herald, Caernarfon (cyflog: "punt am wythnos o 60 o oriau o waith caled".)
- Golygydd Herald Môn am ddwy flynedd, hyd at 1931. Byw ym Mhorthaethwy.
- Golygydd Y Brython yn Lerpwl, 1931-1939.
- Golygydd y North Wales Times ac Is-olygydd Y Faner yng Ngwasg Gee, Dinbych. Derbyniodd y gwahoddiad hwn ar sail hen gyfeillgarwch rhwng Morris T. Williams, priod Kate Roberts ac yntau. "Bychan oedd y cyflog y gallai Morris ei gynnig imi...ond roedd yna bethau pwysicach nag arian.. fy edmygedd i o fenter Morris a Kate a'u cenedlgarwch nhw..."[1] Dechreuodd yno ym mis Mawrth 1939.
- Ymhelaethodd ar ei gyflog ar dud. 115 o'i Hunangofiant: "...Y swm o £5 yn wythnosol a allai perchenogion Y Faner ei gynnig imi fel cyflog am fod yn olygydd y North Wales Times (Dinbych) ym 1939, a rhyw bunt yn ychwanegol oedd cyflog golygydd Y Faner ym 1945. Sut, felly, y gallodd pobl fel Mr. Mathonwy Hughes, yr is-olygydd, a mi ddal ati i geisio cynhyrchu'r fath wythnosolyn yn ystod y blynyddoedd argyfyngus hynny (câi ef lai o £1.00 na mi bob wythnos)? Gorfu inni weithio'n hwyr y nos i lywio Dosbarthiadau Addysg y Gweithwyr ac Adran Allanol y Brifysgol mewn ardaloedd diarffordd, teleffonio "straeon" i'r papurau Saesneg a gyrru sgriptiau i'r BBC. A daeth ein cyfaill caredig, y Prifardd Rhydwen Williams, i'r adwy......"
- Ar ôl marw Morris T. Williams aeth Y Faner i afael cwmni dieithr a daliodd cyflwr economaidd Y Faner i waethygu.
- Y diwedd fu i'r cwmni gynnig y papur am "gini" i'r Dr. Huw T. Edwards.
- Symudwyd Y Faner i Wasg y Sir, Y Bala, a oedd yn eiddo i Idris Evans a'i ddau fab, Gwyn ac Eifion. Bu eu cefnogaeth i'r papur, a'u haberth, yn eithriadol o hynny ymlaen.
- Gwerthodd Dr. Huw T. Edwards y papur i'r Wasg hon ac i Gwilym R. Jones a Mathonwy Hughes. Parhaodd Gwilym R. i fyw yn Ninbych.
- Methiant fu cais y papur i gael cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a'r unig gam ymlaen yn y diwedd fu iddynt wneud hynny ar yr amod y byddai'n peidio â bod yn newyddiadur ond yn gylchgrawn, ac felly y byddai'n rhaid penodi Golygydd newydd. Rhaid, felly, oedd i Gwilym R. Jones ymddeol yn y flwyddyn 1977 i wneud lle i'r Golygydd newydd.
cyfeiriadau
- ↑ Allan o Rhodd Enbyd,Hunangofiant Gwilym R. Jones; Llyfrau'r Faner, (1983).