Nantlle (pentref): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Dyma un o’r cerddi poblogaidd a genid ganddynt, o waith Griffith W. Francis. Gelliffrydiau, Nantlle, yw’r Gelli y cyfeirir ati a Wil y Ffridd, yr heliwr yw William Hughes, Y Ffridd, Nantlle: | Dyma un o’r cerddi poblogaidd a genid ganddynt, o waith Griffith W. Francis. Gelliffrydiau, Nantlle, yw’r Gelli y cyfeirir ati a Wil y Ffridd, yr heliwr yw William Hughes, Y Ffridd, Nantlle: | ||
CYN GOLLWNG CŴN Y GELLI | CYN GOLLWNG CŴN Y GELLI |
Fersiwn yn ôl 15:22, 16 Mawrth 2018
Y Brodyr Francis 1876 – 1936 Dau frawd a gysylltir â Nantlle oedd Griffith William Francis (1876-1936) ac Owen William Francis (1879-1936). Fe’u ganed ym/yn Mron-y-Wern,/Bron-y-Wern, Cwm Pennant. Mudodd y teulu oddi yno i’r Clogwyn Brwnt, Drws-y-coed, yna i’r Gelliffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle.
Roeddent yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled y wlad a thu hwnt yn y 1920au a’r 1930au. Byddai’r capeli a’r neuaddau dan eu sang. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i’w ddarlledu ar y radio – a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927. Griffith Francis oedd wedi cyfansoddi nifer o’r cerddi a genid ganddynt ond roeddent hefyd yn canu gwaith T. Gwynn Jones, Eifion Wyn, Crwys, R. Williams Parry ac eraill. Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Owen Francis oedd cyfansoddwr rhai o’r alawon a’r emyn donau a ganent (galwodd rai ohonynt yn Nantlle, Glyn a Meira (dau o’i blant). Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.
Cyhoeddwyd Telyn Eryri, cyfrol o gerddi Griffith Francis, gan Hughes a’i Fab yn 1932 gyda Rhagair gan E. Morgan Humphreys.
Dyma un o’r cerddi poblogaidd a genid ganddynt, o waith Griffith W. Francis. Gelliffrydiau, Nantlle, yw’r Gelli y cyfeirir ati a Wil y Ffridd, yr heliwr yw William Hughes, Y Ffridd, Nantlle:
CYN GOLLWNG CŴN Y GELLI
Pan gloid y Mynydd Mawr gan iâ,
A'r eira’n toi Eryri:
Pan geisiai’r lloer oleuo’r nos
I aros i’r haul godi;
Âi’r llwynog castiog dan ei bwn
Cyn gollwng cŵn y Gelli.
Fe ddygodd lawer oenyn gwan,
O’r Geulan wedi nosi,
Ac ieir Caeronwy lusgodd draw
I’w genaw dros glogwyni,
I fewn i’w ffau, heb ofni ffyn,
Cyn gollwng cŵn y Gelli.
Lladratodd wyddau Blaen-y-Garth
O’r buarth cyn eleni,
Ac o’r Ysgubor lawer haid
O hwyaid wedi ’u pesgi;
Fe lanwai groen ei fol yn grwn
Cyn gollwng cŵn y Gelli.
Ond ar ryw fore oerllyd iawn,
Tros dalar mawn y meini,
Fe lamai’r cadno coch i lawr
O’r Mynydd Mawr yn heini:
A chroesi’r Bala rhwng Dau Lyn
Cyn gollwng cŵn y Gelli.
Ar ddôl y ffrynt ‘roedd Wil y Ffridd,
A’r gwas, ym mhridd oer gwysi,
A gweiddi, — “Llwynog ! Byth o’r fan !
Hwi ! dal o, Ffan, myn diawch-i,”—
Ac archai’r gwas i gyrchu gwn,
Cyn gollwng cŵn y Gelli.
Cadd cadno frecwast i bils plwm,
A chroesaw Cwm ddaeargi,
Ac yn lle blingo oen bach tlws—
Ei groen ar ddrws y beudy ;
A chwarddai Wil wrth gadw’r gẁn,
Cyn gollwng cŵn y Gelli. GWF