Ysgol Gynradd Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ysgol addysg gynradd oedd '''Ysgol Gynradd Clynnog-fawr'''. Agorwyd yr ysgol oddeutu 1863, a gelwir hi bryd hynny yn ''Clynnog National School''. ==Ffy...'
 
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ysgol addysg gynradd oedd '''Ysgol Gynradd Clynnog-fawr'''.
Yr Ysgol Genedlaethol y gelwid yr ysgol hon ar y dechrau.

Agorwyd yr ysgol oddeutu 1863, a gelwir hi bryd hynny yn ''Clynnog National School''.  
Fe'i hagorwyd ar 2 Hydref 1850, fel y cofnododd Eben Fardd yn ei ddyddiadur.*
 
Erbyn 1889, fodd bynnag, roedd safon yr addysg yn druenus o isel a theimlai’r rhieni fod eu plant yn cael cam dybryd.** 
 
Y Ficer oedd yn “gofalu” am yr ysgol ond trwy weithgarwch Mr Acland, A.S. (a drigai ym Mhlas-y-bryn am gyfnodau o’r flwyddyn), boneddigion eraill (yn eu plith:  Y Parch. J. Evans, B.A.; Capten Griffith, Frondirion; Mr. J. Owen, Tycerrig; Mr David Williams, Pontlyfni; a Hywel Tudur), a thrwy gydsyniad y ficer, trefnwyd cyfarfod cyhoeddus i ystyried y camre i geisio codi'r safon. Awgrymodd Mr Acland  benodi pwyllgor o bum trethdalwr i arolygu’r ysgol ac i’r Ficer ddewis tri o’i ochr ei hun. Gwrthododd y ficer gan honni mai ganddo ef yr oedd yr hawl i weithredu fel y mynnai, ond fe fodlonai ar roi cynnig ar bedwar o bob ochr am flwyddyn.  Gohiriwyd y cyfarfod am rai dyddiau.
 
Mynnai’r Ficer gychwyn yr ail gyfarfod trwy ddarllen rhestr o’r tanysgrifiadau tuag at gynhaliaeth yr ysgol a chynigiodd ef ei hun dalu punt. Tynnwyd ei sylw at y ffaith mai dewis pwyllgor oedd pwrpas y cyfarfod.  Awgrymodd y Ficer wedyn y buasai ef a Mr Acland yn cyfrannu £5 yr un.  Gwrthododd Mr Acland gan mai dewis pwyllgor oedd y pwrpas y cyfarfod.
 
Bu rhagor o ymgecru ac edliwiwyd i Mr Price, y Ficer, fod pobl yn talu cannoedd o bunnau yn flynyddol tuag at ei gadw ef i bregethu i ryw 20 neu 30 o’r plwyfolion. Honnwyd ei fod newydd dderbyn 180 punt o godiad yn ei gyflog a nodwyd ei fod yn derbyn y swm o 500 punt y flwyddyn. Gwadu wnaeth y Ficer a daeth y cyfarfod i ben heb unrhyw benderfyniad.
 
Ceir adroddiad llawn am yr hanes cyffrous hwn gan “Carwr Cyfiawnder” yn Y Genedl Gymreig, 13 Chwefror 1889. (Papurau newydd ar-lein Cymru).
 
==Ffynonellau==
==Ffynonellau==

Llyfrau log Ysgol Gynradd Clynnog (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) '''XES1/53''' [1863-1970]

* Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968. Golygwyd gan E.G. Millward)
** Ceir adroddiad llawn am yr hanes hwn gan “Carwr Cyfiawnder” dan y pennawd ''Addysg yng Nghlynnog  Cyfarfodydd brwdfrydig a chynhyrfus'' yn Y Genedl Gymreig, 13 Chwefror 1889. (Papurau newydd ar-lein Cymru).

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 21:31, 11 Mawrth 2018

Yr Ysgol Genedlaethol y gelwid yr ysgol hon ar y dechrau.

Fe'i hagorwyd ar 2 Hydref 1850, fel y cofnododd Eben Fardd yn ei ddyddiadur.*

Erbyn 1889, fodd bynnag, roedd safon yr addysg yn druenus o isel a theimlai’r rhieni fod eu plant yn cael cam dybryd.**

Y Ficer oedd yn “gofalu” am yr ysgol ond trwy weithgarwch Mr Acland, A.S. (a drigai ym Mhlas-y-bryn am gyfnodau o’r flwyddyn), boneddigion eraill (yn eu plith: Y Parch. J. Evans, B.A.; Capten Griffith, Frondirion; Mr. J. Owen, Tycerrig; Mr David Williams, Pontlyfni; a Hywel Tudur), a thrwy gydsyniad y ficer, trefnwyd cyfarfod cyhoeddus i ystyried y camre i geisio codi'r safon. Awgrymodd Mr Acland benodi pwyllgor o bum trethdalwr i arolygu’r ysgol ac i’r Ficer ddewis tri o’i ochr ei hun. Gwrthododd y ficer gan honni mai ganddo ef yr oedd yr hawl i weithredu fel y mynnai, ond fe fodlonai ar roi cynnig ar bedwar o bob ochr am flwyddyn. Gohiriwyd y cyfarfod am rai dyddiau.

Mynnai’r Ficer gychwyn yr ail gyfarfod trwy ddarllen rhestr o’r tanysgrifiadau tuag at gynhaliaeth yr ysgol a chynigiodd ef ei hun dalu punt. Tynnwyd ei sylw at y ffaith mai dewis pwyllgor oedd pwrpas y cyfarfod. Awgrymodd y Ficer wedyn y buasai ef a Mr Acland yn cyfrannu £5 yr un. Gwrthododd Mr Acland gan mai dewis pwyllgor oedd y pwrpas y cyfarfod.

Bu rhagor o ymgecru ac edliwiwyd i Mr Price, y Ficer, fod pobl yn talu cannoedd o bunnau yn flynyddol tuag at ei gadw ef i bregethu i ryw 20 neu 30 o’r plwyfolion. Honnwyd ei fod newydd dderbyn 180 punt o godiad yn ei gyflog a nodwyd ei fod yn derbyn y swm o 500 punt y flwyddyn. Gwadu wnaeth y Ficer a daeth y cyfarfod i ben heb unrhyw benderfyniad.

Ceir adroddiad llawn am yr hanes cyffrous hwn gan “Carwr Cyfiawnder” yn Y Genedl Gymreig, 13 Chwefror 1889. (Papurau newydd ar-lein Cymru).

Ffynonellau

Llyfrau log Ysgol Gynradd Clynnog (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/53 [1863-1970]

  • Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968. Golygwyd gan E.G. Millward)
    • Ceir adroddiad llawn am yr hanes hwn gan “Carwr Cyfiawnder” dan y pennawd Addysg yng Nghlynnog Cyfarfodydd brwdfrydig a chynhyrfus yn Y Genedl Gymreig, 13 Chwefror 1889. (Papurau newydd ar-lein Cymru).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma