Bodellog (trefgordd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Cyfeirir at '''Bodellog''' fel trefgordd a phentrefan, a leolir yn ardal [[Dinas]], [[Llanwnda]].  
Cyfeirir at '''Bodellog''' fel trefgordd a phentrefan, a leolir yn ardal [[Dinas]], [[Llanwnda]].  


Mae cyfeiriad cynnar iawn o’r lle hwn yn y ‘''Record of Carnarvon''’ o 1470 fel ‘''Botelok''’. Yr oedd y tref hwn yn cynnwys y tir rhwng Afon Gochoer ac Afon Faig, yn ôl [[Eben Fardd]]. Yr oedd Bodychain, Caer Du a Nantcall oll o fewn cyffiniau’r tref hwn, yn ogystal a Melin Bryn y Gro – a wasanaethodd fel eu melin.  
Mae cyfeiriad cynnar iawn o’r lle hwn yn y ‘''Record of Carnarvon''’ o 1470 fel ‘''Botelok''’. Yr oedd y tref hwn yn cynnwys y tir rhwng Afon Gochoer ac Afon Faig, yn ôl [[Eben Fardd]]. Yr oedd Bodychain, Caer Du a Nantcall oll o fewn cyffiniau’r tref hwn, yn ogystal â Melin Bryn y Gro – a wasanaethodd fel eu melin.  


Dadleuai [[W. Gilbert Williams]] fod camddealltwriaeth ynglŷn â’r datganiad uchod, gan fod ‘''Bodellog''’ yn hen enw ar ‘[[Plas y Bont]]’ hefyd, ac fod melin Bontnewydd yn cael eu chymysgu â Melin Bryn y Gro.  
Dadleuai [[W. Gilbert Williams]] fod camddealltwriaeth ynglŷn â’r datganiad uchod, gan fod ‘''Bodellog''’ yn hen enw ar ‘[[Plas y Bont]]’ hefyd, ac fod [[Melin y Bontnewydd]] yn cael eu chymysgu â Melin Bryn y Gro, gan mai enwau hŷn am felin y Bontnewydd, sef yr enw ar dafod-leferydd yn y 17g, oedd [[Melin Bodellog]] a enwid hefyd yn [[Felin y Groes|Melin y Groes]]. Hawdd gweld sut y gellir cymysgu enwau ''melin y gro'' a ''melin y groes''.  


Roedd hefyd achos o gwmpas yr unfed ganrif ar bymtheg, pan ddaru William Glyn y Siarsiant geisio meddiannu’r lle hwn, a chafodd wrthwynebiad ffyrnig oddi wrth William ap Madog o’r [[Pengwern]], Llanwnda.
Roedd hefyd achos o gwmpas yr unfed ganrif ar bymtheg, pan ddaru William Glyn y Siarsiant geisio meddiannu’r lle hwn, a chafodd wrthwynebiad ffyrnig oddi wrth William ap Madog o’r [[Pengwern]], Llanwnda.

Fersiwn yn ôl 19:17, 9 Mawrth 2018

Cyfeirir at Bodellog fel trefgordd a phentrefan, a leolir yn ardal Dinas, Llanwnda.

Mae cyfeiriad cynnar iawn o’r lle hwn yn y ‘Record of Carnarvon’ o 1470 fel ‘Botelok’. Yr oedd y tref hwn yn cynnwys y tir rhwng Afon Gochoer ac Afon Faig, yn ôl Eben Fardd. Yr oedd Bodychain, Caer Du a Nantcall oll o fewn cyffiniau’r tref hwn, yn ogystal â Melin Bryn y Gro – a wasanaethodd fel eu melin.

Dadleuai W. Gilbert Williams fod camddealltwriaeth ynglŷn â’r datganiad uchod, gan fod ‘Bodellog’ yn hen enw ar ‘Plas y Bont’ hefyd, ac fod Melin y Bontnewydd yn cael eu chymysgu â Melin Bryn y Gro, gan mai enwau hŷn am felin y Bontnewydd, sef yr enw ar dafod-leferydd yn y 17g, oedd Melin Bodellog a enwid hefyd yn Melin y Groes. Hawdd gweld sut y gellir cymysgu enwau melin y gro a melin y groes.

Roedd hefyd achos o gwmpas yr unfed ganrif ar bymtheg, pan ddaru William Glyn y Siarsiant geisio meddiannu’r lle hwn, a chafodd wrthwynebiad ffyrnig oddi wrth William ap Madog o’r Pengwern, Llanwnda.


Ffynonellau

Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llyn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011)

Williams, W. Gilbert Bodellog Cymru, 1915 (Cyf. 48)