Antur Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10: Llinell 10:

Traddodwyd darlith ar yr hanes gan Alun Ffred Jones yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes, Tachwedd 10fed 2016 ar achlysur dathlu Antur Nantlle yn 25 oed.  [Anturiwn ymlaen — Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes, 2016. Fe’i cyhoeddwyd gan Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Cyngor Gwynedd.  Pris £3.  Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol / ISBN 0 904007 03 0]

[[Categori:Diwydiant a Masnach]]

Fersiwn yn ôl 21:29, 31 Ionawr 2018

Cwmni cymunedol bywiog a blaengar yn Nyffryn Nantlle yw Antur Nantlle. Fe'i sefydlwyd yn 1991 fel Cwmni Cyfyngedig Trwy Warant. Golyga hynny fod unrhyw elw a wneir yn cael ei gadw yng nghoffrau’r cwmni ei hun yn hytrach na’i drosglwyddo i’r cyfarwyddwyr sy’n rhoi eu gwasanaeth o’u gwirfodd. Logo yr Antur yw “Gweithio er lles yr ardal”.

Y cam cyntaf yn 1991 oedd ceisio darbwyllo Cyngor Bwrdeistref Arfon i drosglwyddo i’r Antur ddepo ei Adran Dai a oedd ar fin cau ym Mhen-y-groes. Cytunodd y Cyngor a dyna gychwyn cyfres o fentrau a barodd i’r Antur ddatblygu o nerth i nerth nes ei bod yn 2017 yn berchen 16 uned busnes, 15 swyddfa, 2 siop, iard, fflat i’w gosod ac yn darparu ystafell hyfforddiant cyfrifiadurol ac ystafell gyfarfod a chanolfan awyr agored. Trwy hyn paratoir mannau gwaith i 60 o bobl.

Yn 1996 enillodd yr Antur wobr Menter Gymunedol trwy gyfrwng y Gymraeg, Banc y Midland. A thystysgrif cymeradwyaeth am y defnydd mwyaf cynhyrchiol o dechnoleg newydd mewn menter gymunedol. Derbyniodd ddwy wobr arall genedlaethol yn 1998 a daeth ymweliadau gan wleidyddion o’r Cynulliad ac Ewrop, yn gyffredin.

Mentrau'r Antur

Gweler Hanes y Cwmni ar wefan yr Antur [[1]]