Symeon o Glynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
'''Symeon o Glynnog''' (m.1152) oedd yr ail Archddiacon Bangor y mae ei enw wedi goroesi; roedd yn olynydd i'r Archddiacon Maurice, ac fe'i penodwyd i'r swydd cyn 1137.<ref>M.L. Clarke, ''Bangor Cathedral'' (Caerdydd, 1969), t.110</ref> Ar y pryd, un archddiaconiaeth oedd yn esgobaeth Bangor ac felly bu i Symeon ddal swydd o bwys a dylanwad. Gwyddwn ei fod o, ynghyd ag Esgob Dafydd o Fangor a Phrior St Werburgh, Caer, wrth wely angau Gruffydd ap Cynan ym 1137. Yn hanes y digwyddiad hwnnw fe'i disgrifir fel "Symeon archdiacon gwr addfed o oed a doethineb".<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf.II, t.469</ref> Ni allwn fod yn sicr pam y'i gelwid yn Symeon o Glynnog; mae'n bosibl wrth gwrs ei fod wedi hanu o [[Clynnog-fawr|Glynnog-fawr]], ond llawn mor debygol oedd idi fod yn un o offeiriaid neu fynaich y Clas a leolid yng Nghlynnog.
'''Symeon o Glynnog''' (m.1152) oedd yr ail Archddiacon Bangor y mae ei enw wedi goroesi; roedd yn olynydd i'r Archddiacon Maurice, ac fe'i penodwyd i'r swydd cyn 1137.<ref>M.L. Clarke, ''Bangor Cathedral'' (Caerdydd, 1969), t.110</ref> Ar y pryd, un archddiaconiaeth oedd yn esgobaeth Bangor ac felly bu i Symeon ddal swydd o bwys a dylanwad. Gwyddom ei fod o, ynghyd â'r Esgob Dafydd o Fangor a Phrior St Werburgh, Caer, wrth wely angau Gruffydd ap Cynan ym 1137. Yn hanes y digwyddiad hwnnw fe'i disgrifir fel "Symeon archddiacon gŵr aeddfed o oed a doethineb".<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf.II, t.469</ref> Ni allwn fod yn sicr pam y'i gelwid yn Symeon o Glynnog; mae'n bosibl wrth gwrs ei fod wedi hanu o [[Clynnog-fawr|Glynnog-fawr]], ond llawn mor debygol oedd iddo fod yn un o offeiriaid neu fynaich y Clas a leolid yng Nghlynnog.


Wedi marw'r Esgob Dafydd ym 1139, penodwyd dyn o'r enw Meurig yn esgob yn ei le. Yr arfer yn ôl trefn gwlad ac eglwys yr oes honno oedd bod esgobion, cyn iddynt esgyn i'w swydd, yn datgan eu teyrngarwch i frenin Lloegr - y Brenin Steffan yr adeg honno. Yn y lle cyntaf, fodd bynnag, gwrthododd Meurig wneud hynny, gan brotestio fod Symeon, dyn yr oedd ganddo'r parch mwyaf ato, wedi ei rybuddio rhag dangos teyrngarwch i'r brenin. Cafodd ei berswadio yn y diwedd i fynd yn groes i gyfarwyddyd Symeon ei mwyn cael ei godi'n esgob cydnabyddedig, a ddigwyddodd ym 1140. Mae'r stori hon yn tueddu awgrymu'n gryf fod Symeon yn Gymro cadarn a'i deyrngarwch yn llwyr tuag at y teulu brenhonol Cymreig.<ref>J.E. Lloyd, ''op.cit.'', t.483 a nodyn</ref>
Wedi marw'r Esgob Dafydd ym 1139, penodwyd dyn o'r enw Meurig yn esgob yn ei le. Yr arfer yn ôl trefn gwlad ac eglwys yr oes honno oedd bod esgobion, cyn iddynt esgyn i'w swydd, yn datgan eu teyrngarwch i frenin Lloegr - y Brenin Steffan yr adeg honno. Yn y lle cyntaf, fodd bynnag, gwrthododd Meurig wneud hynny, gan brotestio fod Symeon, dyn yr oedd ganddo'r parch mwyaf ato, wedi ei rybuddio rhag dangos teyrngarwch i'r brenin. Cafodd ei berswadio yn y diwedd i fynd yn groes i gyfarwyddyd Symeon ei mwyn cael ei godi'n esgob cydnabyddedig, a ddigwyddodd ym 1140. Mae'r stori hon yn tueddu i awgrymu'n gryf fod Symeon yn Gymro cadarn a'i deyrngarwch yn llwyr i'r teulu brenhinol Cymreig.<ref>J.E. Lloyd, ''op.cit.'', t.483 a nodyn</ref>


Yn sicr, nid oedd Esgob Bernard o Dŷ Ddewi wedi plesio efo gweithred Meurig, gan ei gyhuddo o fynd i mewn i Eglwys Deiniol Sant "fel lleidr". Ac os yr oedd Meurig yn honni fod ganddo'r parch mwyaf at Symeon, mae'n sicr fod gan Esgob Bernard feddwl uchel ohono, a'i gymreictod. Roedd Bernard yn ymgyrchu dros gyfnod hir i'r Eglwys yng Nghymru fod â'i harchesgob ei hun, a gwnaed cais ganddo i gyngor yr Eglwys a gynhaliwyd yn Rheims ym 1148 i hynny digwydd - er y gwrthodwyd y cais hwnnw gan y cyngor. Roedd meibion Gruffydd ap Cynan yn sicr o blaid hyn, ac anfonodd Bernard lythyr at Symeon yn gofyn am ei gefnogaeth yntau i'r cais.<ref>Edward Charles Knight, ''The LIfe and Career of Bishop Bernard of St David's (1100-1148)'', Traethawd PhD Prifysgol Abertawe 2006 [https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa42284], cyrchwyd 8.12.2025</ref>
Yn sicr, nid oedd yr Esgob Bernard o Dŷ Ddewi wedi ei blesio efo gweithred Meurig, gan ei gyhuddo o fynd i mewn i Eglwys Deiniol Sant "fel lleidr". Ac os oedd Meurig yn honni fod ganddo'r parch mwyaf at Symeon, mae'n sicr fod gan Esgob Bernard feddwl uchel ohono, a'i Gymreictod. Ymgyrchodd Bernard dros gyfnod hir i'r Eglwys yng Nghymru gael ei harchesgob ei hun, a gwnaed cais ganddo i'r perwyl hwnnw i Gyngor yr Eglwys a gynhaliwyd yn Rheims ym 1148 - er y gwrthodwyd y cais gan y Cyngor. Roedd meibion Gruffydd ap Cynan yn sicr o blaid hyn, ac anfonodd Bernard lythyr at Symeon yn gofyn am ei gefnogaeth yntau i'r cais.<ref>Edward Charles Knight, ''The Life and Career of Bishop Bernard of St David's (1100-1148)'', Traethawd PhD Prifysgol Abertawe 2006 [https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa42284], cyrchwyd 8.12.2025</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:01, 10 Rhagfyr 2025

Symeon o Glynnog (m.1152) oedd yr ail Archddiacon Bangor y mae ei enw wedi goroesi; roedd yn olynydd i'r Archddiacon Maurice, ac fe'i penodwyd i'r swydd cyn 1137.[1] Ar y pryd, un archddiaconiaeth oedd yn esgobaeth Bangor ac felly bu i Symeon ddal swydd o bwys a dylanwad. Gwyddom ei fod o, ynghyd â'r Esgob Dafydd o Fangor a Phrior St Werburgh, Caer, wrth wely angau Gruffydd ap Cynan ym 1137. Yn hanes y digwyddiad hwnnw fe'i disgrifir fel "Symeon archddiacon gŵr aeddfed o oed a doethineb".[2] Ni allwn fod yn sicr pam y'i gelwid yn Symeon o Glynnog; mae'n bosibl wrth gwrs ei fod wedi hanu o Glynnog-fawr, ond llawn mor debygol oedd iddo fod yn un o offeiriaid neu fynaich y Clas a leolid yng Nghlynnog.

Wedi marw'r Esgob Dafydd ym 1139, penodwyd dyn o'r enw Meurig yn esgob yn ei le. Yr arfer yn ôl trefn gwlad ac eglwys yr oes honno oedd bod esgobion, cyn iddynt esgyn i'w swydd, yn datgan eu teyrngarwch i frenin Lloegr - y Brenin Steffan yr adeg honno. Yn y lle cyntaf, fodd bynnag, gwrthododd Meurig wneud hynny, gan brotestio fod Symeon, dyn yr oedd ganddo'r parch mwyaf ato, wedi ei rybuddio rhag dangos teyrngarwch i'r brenin. Cafodd ei berswadio yn y diwedd i fynd yn groes i gyfarwyddyd Symeon ei mwyn cael ei godi'n esgob cydnabyddedig, a ddigwyddodd ym 1140. Mae'r stori hon yn tueddu i awgrymu'n gryf fod Symeon yn Gymro cadarn a'i deyrngarwch yn llwyr i'r teulu brenhinol Cymreig.[3]

Yn sicr, nid oedd yr Esgob Bernard o Dŷ Ddewi wedi ei blesio efo gweithred Meurig, gan ei gyhuddo o fynd i mewn i Eglwys Deiniol Sant "fel lleidr". Ac os oedd Meurig yn honni fod ganddo'r parch mwyaf at Symeon, mae'n sicr fod gan Esgob Bernard feddwl uchel ohono, a'i Gymreictod. Ymgyrchodd Bernard dros gyfnod hir i'r Eglwys yng Nghymru gael ei harchesgob ei hun, a gwnaed cais ganddo i'r perwyl hwnnw i Gyngor yr Eglwys a gynhaliwyd yn Rheims ym 1148 - er y gwrthodwyd y cais gan y Cyngor. Roedd meibion Gruffydd ap Cynan yn sicr o blaid hyn, ac anfonodd Bernard lythyr at Symeon yn gofyn am ei gefnogaeth yntau i'r cais.[4]

Cyfeiriadau

  1. M.L. Clarke, Bangor Cathedral (Caerdydd, 1969), t.110
  2. J.E. Lloyd, A History of Wales, Cyf.II, t.469
  3. J.E. Lloyd, op.cit., t.483 a nodyn
  4. Edward Charles Knight, The Life and Career of Bishop Bernard of St David's (1100-1148), Traethawd PhD Prifysgol Abertawe 2006 [1], cyrchwyd 8.12.2025