Ellis W. Hughes (Llyfnwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Ellis W. Hughes''' (ganed 1870) yn frawd i'r bardd a'r telynor [[Llyfni Huws]], ac yn blentyn i William a Jane Hughes, 30 Stryd y Bedyddwyr, [[Pen-y-groes]]. Fe'i | Roedd '''Ellis W. Hughes''' (ganed 1870) yn frawd i'r bardd a'r telynor [[Llyfni Huws]], ac yn blentyn i William a Jane Hughes, 30 Stryd y Bedyddwyr, [[Pen-y-groes]]. Fe'i ganed mewn bwthyn ar fferm [[Pant Du]], [[Pen-y-groes]]. Fel ei dad o'i flaen, enillai ei gyflog fel chwarelwr.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871 a 1901</ref> Fel ei frawd William, roedd Ellis hefyd yn fardd ac fe'i derbyniwyd i'r Orsedd trwy arholiad ym 1895, gan fabwysiadu'r enw barddol "Llyfnwy".<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 26.7.1895, t.7</ref> Roedd natur grefyddol i beth o'i waith yn ystod cyfnod y Diwygiad, a chyhoeddwyd emyn rhagorol o'i eiddo dan y teitl "Profiad y Pechadur" yng nghylchgrawn ''Llais Rhyddid''.<ref>''Llais Rhyddid'', Cyf.IV, (1905), t.21</ref> | ||
Bu hefyd yn bridio | Bu hefyd yn bridio cŵn defaid ac yn eu dangos mewn sioeau cyn iddo briodi, gan lwyddo i gael canmoliaeth yn Sioe Llŷn ym 1901.<ref>''Cambrian News'', 12.4.1901, t.2</ref> | ||
Priododd Claudia Hughes, o Stryd Berry, Conwy, 30 Awst 1901, yng nghapel Pendref (A), Caernarfon.<ref>''Caeranarvon and Denbigh Herald'', 6.9.1901, t.8</ref> Dichon mai clerc yn Swyddfa Bost Conwy ydoedd, a aned i deulu o gryddion o Langernyw.<ref>Cyfrifiad plwyf Conwy, 1901 a Chyfrifiad plwyf Llansannan, 1891</ref> | Priododd â Claudia Hughes, o Stryd Berry, Conwy, 30 Awst 1901, yng nghapel Pendref (A), Caernarfon.<ref>''Caeranarvon and Denbigh Herald'', 6.9.1901, t.8</ref> Dichon mai clerc yn Swyddfa Bost Conwy ydoedd hi, a aned i deulu o gryddion o Langernyw.<ref>Cyfrifiad plwyf Conwy, 1901 a Chyfrifiad plwyf Llansannan, 1891</ref> | ||
Ni ddylid cymysgu rhyngddo ef a'r hanesydd a'r bardd Cymraeg o ardal Granville, Pa., U.D.A., Thomas Llyfnwy Morgan (Llyfnwy) (1831-1895), a hanodd yn wreiddiol o'r As Fawr, Bro Morgannwg | Ni ddylid cymysgu rhyngddo ef a'r hanesydd a'r bardd Cymraeg o ardal Granville, Pa., U.D.A., Thomas Llyfnwy Morgan (Llyfnwy) (1831-1895), a hanodd yn wreiddiol o'r As Fawr, Bro Morgannwg. <ref>''Y Drych'', 17.1.1895, t.1</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:10, 4 Mai 2025
Roedd Ellis W. Hughes (ganed 1870) yn frawd i'r bardd a'r telynor Llyfni Huws, ac yn blentyn i William a Jane Hughes, 30 Stryd y Bedyddwyr, Pen-y-groes. Fe'i ganed mewn bwthyn ar fferm Pant Du, Pen-y-groes. Fel ei dad o'i flaen, enillai ei gyflog fel chwarelwr.[1] Fel ei frawd William, roedd Ellis hefyd yn fardd ac fe'i derbyniwyd i'r Orsedd trwy arholiad ym 1895, gan fabwysiadu'r enw barddol "Llyfnwy".[2] Roedd natur grefyddol i beth o'i waith yn ystod cyfnod y Diwygiad, a chyhoeddwyd emyn rhagorol o'i eiddo dan y teitl "Profiad y Pechadur" yng nghylchgrawn Llais Rhyddid.[3]
Bu hefyd yn bridio cŵn defaid ac yn eu dangos mewn sioeau cyn iddo briodi, gan lwyddo i gael canmoliaeth yn Sioe Llŷn ym 1901.[4]
Priododd â Claudia Hughes, o Stryd Berry, Conwy, 30 Awst 1901, yng nghapel Pendref (A), Caernarfon.[5] Dichon mai clerc yn Swyddfa Bost Conwy ydoedd hi, a aned i deulu o gryddion o Langernyw.[6]
Ni ddylid cymysgu rhyngddo ef a'r hanesydd a'r bardd Cymraeg o ardal Granville, Pa., U.D.A., Thomas Llyfnwy Morgan (Llyfnwy) (1831-1895), a hanodd yn wreiddiol o'r As Fawr, Bro Morgannwg. [7]
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871 a 1901
- ↑ Caernarvon and Denbigh Herald, 26.7.1895, t.7
- ↑ Llais Rhyddid, Cyf.IV, (1905), t.21
- ↑ Cambrian News, 12.4.1901, t.2
- ↑ Caeranarvon and Denbigh Herald, 6.9.1901, t.8
- ↑ Cyfrifiad plwyf Conwy, 1901 a Chyfrifiad plwyf Llansannan, 1891
- ↑ Y Drych, 17.1.1895, t.1