Morglawdd Dinas Dinlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Twiglet48 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Twiglet48 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Y morglawdd.jpeg|thumb|Y morglawdd - Morfa Dinlle ar y dde a'r Foryd ar y chwith]]  
[[Delwedd:Y morglawdd.jpeg|thumb|Y morglawdd - Rhan o'r morglawdd, yn arwain tuag at Belan]]  
[[Delwedd:Llifddor.jpg|thumb|Dilyw'r forfa yn rhedeg allan trwy'r llifddor i'r Foryd]]Rhan o'r morglawdd
[[Delwedd:Llifddor.jpg|thumb|Dilyw'r forfa yn rhedeg allan trwy'r llifddor i'r Foryd]]Rhan o'r morglawdd
[[Delwedd:Y Foryd.jpeg|thumb|Trai ar y Foryd]]
[[Delwedd:Y Foryd.jpeg|thumb|Trai ar y Foryd]]

Fersiwn yn ôl 10:05, 22 Ionawr 2018

Y morglawdd - Rhan o'r morglawdd, yn arwain tuag at Belan
Dilyw'r forfa yn rhedeg allan trwy'r llifddor i'r Foryd

Rhan o'r morglawdd

Trai ar y Foryd

Yn ôl J A Steers, cafodd nerth llif llanw’r Fenai rhwng Niwbwrch a Dinas Dinlle yr effaith o dyddodi tywod gan ffurfio Morfa Dinlle ar y naill ochr a Warren Niwbwrch ar y llall. Ychwanegodd y llanw a’r gwyntoedd de-orllewinol at yr effaith ar y tir a, gydag amser, fe dyfodd y tafod o dywod.

Yn 1806 gwelwyd cyfle i ennill mwy o dir ar Forfa Dinas Dinlle, ac ar Fehefin 13eg, anfonwyd cais, o dan y ‘Ddeddf Amgau Tir’, at y Brenin Siôr III a’i Senedd, i adeiladu morglawdd rhwng yr afon Foryd a’r môr ym Mae Foryd.

Yr ymgeiswyr oedd: “Sir Robert Williams, Baronet, Lord of the Manor of Nanthwynant The Right Reverend William, Lord Bishop of Bangor, Lord of the manor of Castellmai The Right Honourable Thomas, Lord Newborough, Sir Hugh Owen Bt Thomas Assheton-Smith Esquire And several other persons” 

Comisiynwyd y gwaith gan Walter Jones, Cefn Rhug, Corwen, byddai ef yn gyfrifol am osod allan a rhannu’r tir a ennillwyd. Roedd bwriad i adeiladu llifddorau yn y morglawdd er mwyn rhwystro’r môr rhag lifo i mewn dros y tir ar y llanw, ac i ganiatau i’r afon Foryd lifo allan i’r bae ar y trai, - ac, wrth gwrs, i ychwanegu at dirfeddiant yr ymgeiswyr. Derbynwyd caniatad i weithredu’r brosiect ar 31ain Awst 1808. Ysgrifennodd Walter Jones lythyr (X/POOLE/1396) at O A Poole, twrne o Gaernarfon, yn datgan ei fod wedi derbyn cynllun o’r morglawdd ac amcanbris o’r gost i’w adeiladu. Yr oedd yn ymwybodol bod £1000 mewn llaw tuag at y costau ond byddai angen £1500 ychwanegol cyn dechrau ar y gwaith o’i adeiladu; ni welai anhawster morgeisio’r morfa, a gellid dechrau ar y brosiect tua diwedd Medi 1808. Roedd yn ofynnol i ddaliaid y rhandiroedd gyfrannu tuag at gynhaliaeth y morglawdd, - sef deg swllt yr un am y flwyddyn gyntaf. Cytunodd pob un o’r daliaid onibai am un, sef Bodvel Roberts Ysw. Mae tystiolaeth (XD2/9139, XD2/10109 ac XD11509) bod y morglawdd wedi cael ei hatgyweirio nifer o weithiau: 29 Mawrth 1838, cais i’r Arglwydd Newborough gasglu treth o £24-4-3 i atgyweirio oddiwrth daliaid rhandir 1 Park Mawr; 2 Vaynol Marsh; 3 Modryn Marsh; 4 a 5 Garnon’s Park; 6 Bwlan Marsh; 7 Gwernyfala Marsh; 8 Modryn Marsh; 9 a 10 Warren. Talwyd y swm ar 6ed Ebrill 1838 trwy law David Williams. 17 Mai 1844, cais i’r Arglwydd Newborough gasglu 1/- yn y bunt o’r cyfanswm o £217-13-4 oddiwrth daliaid rhandiroedd rhifau 31-38, 60 a 76. Talwyd £10-17-8 ar 24ain o Orffennaf 1844 trwy law John Jones, casglwr trethi Plwyf Llandwrog. 1906, Siamber Wen Charity; 1914, 1918, 1938-39/40. Yn ystod yr ail rhyfel byd sefydlwyd gwersyll hyfforddi i’r Awyrlu ar y Morfa ac atgyweirwyd y morglawdd yn 1942, yn ystod eu presenoldeb yn yr ardal. Yn ystod gaeaf 2011/2012 cauwyd y llwybr cyhoeddus a redai am 800 medr ar hyd y morglawdd am rai misoedd er mwyn ei atgyweirio; arweinwyd y dasg gan Asiantaeth yr Amgylchedd (sydd erbyn hyn wedi ymuno â’r Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cefn Gwlad i ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru). Mae’r strwythur yn diogelu 117 erw o borfa a thwyni tywod sy’n cynnwys maes awyr, 42 o gartrefi a maes carafanau rhag gorlifiadau. Roedd y morglawdd angen ei atgyweirio oherwydd difrod gan gwnhingod a mamaliaid eraill, hefyd roedd angen tynnu allan y cable BT a redai drwyddo - roedd wedi ei gorchuddio âg asbestos. Codwyd lefel y morglawdd wrth gloddio pridd i fyny oddiar y tir cyfochrog, ac ar yr un pryd yn darparu man bwydo delfrydol i adar hirgoes, y gornchwiglen yn enwedig, ynghyd â’r pibydd coeswerdd, pibydd coesgoch, gïach bach, morwennol a chwiwell . Mae’r tir o’i gwmpas erbyn hyn yn Warchodfa dan ofal yr RSPB a Glastir (sydd wedi ei sefydlu yn lle Tir Gofal, Tir Cynnal, Tir Mynydd, Organic Farming Scheme a Better Woodlands for Wales). Adnewyddwyd dwy llifddor sy’n rheoli’r llanw rhag llifo i mewn tuag at y tir, ac yn caniatau llif yr afon Foryd allan i Fae Foryd gyda’r trai. Yn ôl y sôn fe gostiodd y brosiect £180,000.

Ffynonellau

• Steers J.A. The Coastline of England and Wales

X/POOLE/1396, XD2/9139, XD2/10109 ac XD11509 Rhifau'r dogfennau sydd i'w gweld yn Archifdy Caernarfon