Lôn Newydd, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Am flynyddoedd maith dim ond un lôn oedd yn mynd i lawr o briffordd Pwllheli>Caernarfon i bentref [[Trefor]], ac ardal yr Hendra cyn bodolaeth y pentref chwarelyddol. Hon oedd yr Hen Lôn (a dyna ei henw o hyd i'r trigolion) gul a throellog sy'n cychwyn o Ben Lôn ac yn mynd ymlaen i ganol y pentref ar Ben Hendra. Bu galw am ddegawdau am well ffordd i'r pentref ac ym mis Mawrth 1936 dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd lydan a syth bin i lawr o'r briffordd i Drefor, a honno rhyw hanner milltir yn nes i Gaernarfon na'r hen ffordd gan fynd heibio i ffermydd Capas Lwyd a Tir Du. Cyngor Sir Gaernarfon oedd tu ôl i'r cynllun a'r bwriad oedd rhoi gwaith i rai o'r chwarelwyr ynghanol y tri-degau llwm. Fodd bynnag, yn ôl [[Gwilym Owen]] ychydig o'r chwarelwyr lleol a gyflogwyd ar y cynllun yn y diwedd. Rhoddwyd y tir yn rhad gan Ystad Broom Hall, Aber-erch a chwmni'r chwarel, y [[Penmaenmawr & Welsh Granite Company]]. Goruchwyliwyd y gwaith ar ran y Cyngor Sir gan David Owen Jones, a fu ar un adeg yn Gynghorydd Sirol ac yn Ysgrifennydd cangen yr undeb yn [[Chwarel yr Eifl]].<ref>Gwilym Owen, ''Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl'', Penrhyndeudraeth, 1972, tt.84-5.</ref> Er ei bod bellach bron yn 90 oed (2025) gelwir y ffordd hon o hyd yn Lôn Newydd a'r fan lle mae'n cychwyn o'r briffordd yn Ben Lôn Newydd.  
Am flynyddoedd maith dim ond un lôn oedd yn mynd i lawr o briffordd Pwllheli - Caernarfon i bentref [[Trefor]], ac ardal yr [[Yr Hendref (Llanaelhaearn)|Hendra]] cyn bodolaeth y pentref chwarelyddol. Hon oedd yr Hen Lôn (a dyna ei henw o hyd i'r trigolion) gul a throellog sy'n cychwyn o Ben Lôn ac yn mynd ymlaen i ganol y pentref ar [[Pen Hendra, Trefor|Ben Hendra]]. Bu galw am ddegawdau am well ffordd i'r pentref ac ym mis Mawrth 1936 dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd lydan a syth bin i lawr o'r briffordd i Drefor, a honno rhyw hanner milltir yn nes i Gaernarfon na'r hen ffordd gan fynd heibio i ffermydd Capas Lwyd a Tir Du. [[Cyngor Sir Gaernarfon]] oedd tu ôl i'r cynllun a'r bwriad oedd rhoi gwaith i rai o'r chwarelwyr ynghanol y tri-degau llwm. Fodd bynnag, yn ôl [[Gwilym Owen]] ychydig o'r chwarelwyr lleol a gyflogwyd ar y cynllun yn y diwedd. Rhoddwyd y tir yn rhad gan Ystad Broom Hall, Aber-erch a chwmni'r chwarel, y [[Penmaenmawr & Welsh Granite Company]]. Goruchwyliwyd y gwaith ar ran y Cyngor Sir gan David Owen Jones, a fu ar un adeg yn Gynghorydd Sirol ac yn Ysgrifennydd cangen yr undeb yn [[Chwarel yr Eifl]].<ref>Gwilym Owen, ''Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl'', Penrhyndeudraeth, 1972, tt.84-5.</ref> Er ei bod bellach bron yn 90 oed (2025) gelwir y ffordd hon o hyd yn Lôn Newydd a'r fan lle mae'n cychwyn o'r briffordd yn Ben Lôn Newydd.  


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Fersiwn yn ôl 13:57, 27 Mawrth 2025

Am flynyddoedd maith dim ond un lôn oedd yn mynd i lawr o briffordd Pwllheli - Caernarfon i bentref Trefor, ac ardal yr Hendra cyn bodolaeth y pentref chwarelyddol. Hon oedd yr Hen Lôn (a dyna ei henw o hyd i'r trigolion) gul a throellog sy'n cychwyn o Ben Lôn ac yn mynd ymlaen i ganol y pentref ar Ben Hendra. Bu galw am ddegawdau am well ffordd i'r pentref ac ym mis Mawrth 1936 dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd lydan a syth bin i lawr o'r briffordd i Drefor, a honno rhyw hanner milltir yn nes i Gaernarfon na'r hen ffordd gan fynd heibio i ffermydd Capas Lwyd a Tir Du. Cyngor Sir Gaernarfon oedd tu ôl i'r cynllun a'r bwriad oedd rhoi gwaith i rai o'r chwarelwyr ynghanol y tri-degau llwm. Fodd bynnag, yn ôl Gwilym Owen ychydig o'r chwarelwyr lleol a gyflogwyd ar y cynllun yn y diwedd. Rhoddwyd y tir yn rhad gan Ystad Broom Hall, Aber-erch a chwmni'r chwarel, y Penmaenmawr & Welsh Granite Company. Goruchwyliwyd y gwaith ar ran y Cyngor Sir gan David Owen Jones, a fu ar un adeg yn Gynghorydd Sirol ac yn Ysgrifennydd cangen yr undeb yn Chwarel yr Eifl.[1] Er ei bod bellach bron yn 90 oed (2025) gelwir y ffordd hon o hyd yn Lôn Newydd a'r fan lle mae'n cychwyn o'r briffordd yn Ben Lôn Newydd.

Cyfeiriadau

  1. Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, Penrhyndeudraeth, 1972, tt.84-5.