Isaac B. Williams (Llew Deulyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Adroddwr, canwr ac arweinydd poblogaidd cyngherddau ac eisteddfodau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] tua dechrau'r ganrif | Adroddwr, canwr ac arweinydd poblogaidd cyngherddau ac eisteddfodau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] tua dechrau'r ganrif ddiwethaf oedd '''Isaac B. Williams''', [[Nantlle]] (1871-1932). Fe'i hadwaenid yn eang fel Llew Deulyn. Teithiodd led-led y sir a chyn belled â Lerpwl i ganu ac adrodd mewn cyngherddau ac eisteddfodau, gan ennill yn y rheiny'n fynych. Cyhoeddodd rywfaint o farddoniaeth ddigon trefnus, os braidd yn ystrydebol a rhigymllyd.<ref>Er enghraifft, "Dial y Cam", ''Yr Herald Cymraeg'', 17.1.1914, t.7</ref> | ||
Fe | Fe'i ganed, mae'n debyg, mewn tŷ yn Rhesdai Pen-yr-orsedd, Nantlle ym 1871, yn fab i Thomas B. a Hannah Williams. Roedd ei dad yn chwarelwr ac yn is-bostfeistr Nantlle, swyddi a ddaliodd am ugain mlynedd a mwy. Ar ôl tyfu'n ddigon hen, aeth Isaac i'r chwarel hefyd. Fe briododd â Mary Jones, dynes yr un oed ag ef, ac o'r un ardal, ym 1893, gan ymgartrefu yn 7 Rhesdai Nantlle; yn y man, symudodd y teulu i 18 Rhes Victoria.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1911; Mynegai Priodasau Cymru a Lloegr, 1893; gwefan FindMyPast</ref> Parhaodd i weithio yn y chwarel, gan ddod yn lladmerydd dros chwareli llechi ac yn gryn arbenigwr ar eu ffyniant.<ref>Gweler, er enghraifft, ''Cambrian News'', 19.5.1916, t.5, lle sonnir am lythyr gan Llew Deulyn am "Slate Quarrying and Science".</ref> | ||
Canodd [[Griffith William Francis|G.W. Francis]] englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y ''Dinesydd'' ym 1919: | Canodd [[Griffith William Francis|G.W. Francis]] englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y ''Dinesydd'' ym 1919: |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:24, 5 Mawrth 2025
Adroddwr, canwr ac arweinydd poblogaidd cyngherddau ac eisteddfodau yn Nyffryn Nantlle tua dechrau'r ganrif ddiwethaf oedd Isaac B. Williams, Nantlle (1871-1932). Fe'i hadwaenid yn eang fel Llew Deulyn. Teithiodd led-led y sir a chyn belled â Lerpwl i ganu ac adrodd mewn cyngherddau ac eisteddfodau, gan ennill yn y rheiny'n fynych. Cyhoeddodd rywfaint o farddoniaeth ddigon trefnus, os braidd yn ystrydebol a rhigymllyd.[1]
Fe'i ganed, mae'n debyg, mewn tŷ yn Rhesdai Pen-yr-orsedd, Nantlle ym 1871, yn fab i Thomas B. a Hannah Williams. Roedd ei dad yn chwarelwr ac yn is-bostfeistr Nantlle, swyddi a ddaliodd am ugain mlynedd a mwy. Ar ôl tyfu'n ddigon hen, aeth Isaac i'r chwarel hefyd. Fe briododd â Mary Jones, dynes yr un oed ag ef, ac o'r un ardal, ym 1893, gan ymgartrefu yn 7 Rhesdai Nantlle; yn y man, symudodd y teulu i 18 Rhes Victoria.[2] Parhaodd i weithio yn y chwarel, gan ddod yn lladmerydd dros chwareli llechi ac yn gryn arbenigwr ar eu ffyniant.[3]
Canodd G.W. Francis englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y Dinesydd ym 1919:
- Llith i'r Llew
- Llew i'n deffro, Llew ein Dyffryn – Llew doeth
- Llew dewr i'n hamddiffyn,
- Llew mawr gwlad, Llew mwya'r glyn,
- Llew dwywlad yw Llew Deulyn."
- G.W. Francis[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Er enghraifft, "Dial y Cam", Yr Herald Cymraeg, 17.1.1914, t.7
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1911; Mynegai Priodasau Cymru a Lloegr, 1893; gwefan FindMyPast
- ↑ Gweler, er enghraifft, Cambrian News, 19.5.1916, t.5, lle sonnir am lythyr gan Llew Deulyn am "Slate Quarrying and Science".
- ↑ Y Dinesydd Cymreig, 17.12.1919, t.2