Isaac B. Williams (Llew Deulyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Adroddwr, canwr ac arweinydd poblogaidd ar gyngherddau ac eisteddfodau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] tua dechrau'r ganrif diwethaf oedd '''Isaac B. Williams''', [[Nantlle]]. Fe'i adweinid yn eang fel Llew Deulyn. Teithiodd ledled y sir a phelled a Lerpwl yn canu ac adrodd mewn cyngherddau ac mewn eisteddfodau, gan ennill yn y rheiny'n fynych. | Adroddwr, canwr ac arweinydd poblogaidd ar gyngherddau ac eisteddfodau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] tua dechrau'r ganrif diwethaf oedd '''Isaac B. Williams''', [[Nantlle]]. Fe'i adweinid yn eang fel Llew Deulyn. Teithiodd ledled y sir a phelled a Lerpwl yn canu ac adrodd mewn cyngherddau ac mewn eisteddfodau, gan ennill yn y rheiny'n fynych. cyhoeddodd rywfaint o farddoniaeth ddigon trefnus os braidd yn ystrydebol a rhigymllyd.<ref>Er enghraifft, "Dial y Cam", ''Yr Herald Cymraeg'', 17.1.1914, t.7</ref> | ||
Fe aned, mae'n debyg, mewn tŷ yn Rhesdai Pen-yr-orsedd, Nantlle ym 1871, yn fab i Thomas B. a Hannah Williams. Roedd ei dad yn chwarelwr ac yn is-bostfeistr Nantlle, swyddi a ddaliodd am ugain mlynedd a mwy. Ar ôl tyfu'n ddigon hen, aeth Isaac i'r chwarel hefyd. Fe briododd Mary Jones, dynes yr un oed ag ef, ac o'r un ardal, ym 1893, gan ymgartrefu yn 7 Rhesdai Nantlle; yn y man, symudodd y teulu i 18 Rhes Victoria.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1911; Mynegai Priodasau Cymru a Lloegr, 1893; gwefan FindMyPast</ref> Parhaodd i weithio yn y chwarel, agn ddod yn lladmerydd dros chwareli llechi ac yn gryn arbenigwr ar eu ffyniant.<ref>Gweler, er enghraifft, ''Cambrian News'', 19.5.1916, t.5, lle sonnir am lyuthyr gan Llew Deulyn am "Slate Quarrying and Science".</ref> | Fe aned, mae'n debyg, mewn tŷ yn Rhesdai Pen-yr-orsedd, Nantlle ym 1871, yn fab i Thomas B. a Hannah Williams. Roedd ei dad yn chwarelwr ac yn is-bostfeistr Nantlle, swyddi a ddaliodd am ugain mlynedd a mwy. Ar ôl tyfu'n ddigon hen, aeth Isaac i'r chwarel hefyd. Fe briododd Mary Jones, dynes yr un oed ag ef, ac o'r un ardal, ym 1893, gan ymgartrefu yn 7 Rhesdai Nantlle; yn y man, symudodd y teulu i 18 Rhes Victoria.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1911; Mynegai Priodasau Cymru a Lloegr, 1893; gwefan FindMyPast</ref> Parhaodd i weithio yn y chwarel, agn ddod yn lladmerydd dros chwareli llechi ac yn gryn arbenigwr ar eu ffyniant.<ref>Gweler, er enghraifft, ''Cambrian News'', 19.5.1916, t.5, lle sonnir am lyuthyr gan Llew Deulyn am "Slate Quarrying and Science".</ref> |
Fersiwn yn ôl 19:44, 2 Mawrth 2025
Adroddwr, canwr ac arweinydd poblogaidd ar gyngherddau ac eisteddfodau yn Nyffryn Nantlle tua dechrau'r ganrif diwethaf oedd Isaac B. Williams, Nantlle. Fe'i adweinid yn eang fel Llew Deulyn. Teithiodd ledled y sir a phelled a Lerpwl yn canu ac adrodd mewn cyngherddau ac mewn eisteddfodau, gan ennill yn y rheiny'n fynych. cyhoeddodd rywfaint o farddoniaeth ddigon trefnus os braidd yn ystrydebol a rhigymllyd.[1]
Fe aned, mae'n debyg, mewn tŷ yn Rhesdai Pen-yr-orsedd, Nantlle ym 1871, yn fab i Thomas B. a Hannah Williams. Roedd ei dad yn chwarelwr ac yn is-bostfeistr Nantlle, swyddi a ddaliodd am ugain mlynedd a mwy. Ar ôl tyfu'n ddigon hen, aeth Isaac i'r chwarel hefyd. Fe briododd Mary Jones, dynes yr un oed ag ef, ac o'r un ardal, ym 1893, gan ymgartrefu yn 7 Rhesdai Nantlle; yn y man, symudodd y teulu i 18 Rhes Victoria.[2] Parhaodd i weithio yn y chwarel, agn ddod yn lladmerydd dros chwareli llechi ac yn gryn arbenigwr ar eu ffyniant.[3]
Canodd G.W. Francis englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y Dinesydd ym 1919:
- Llith i'r Llew
- Lew i'n deffro, Llew ein Dyffryn – Llew doeth
- Llew dewr i'n hamddiffyn,
- Llew mawr gwlad, Llew mwya'r glyn,
- Llew dwywlad yw Llew Deulyn."
- G.W. Francis[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Er enghraifft, "Dial y Cam", Yr Herald Cymraeg, 17.1.1914, t.7
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1911; Mynegai Priodasau Cymru a Lloegr, 1893; gwefan FindMyPast
- ↑ Gweler, er enghraifft, Cambrian News, 19.5.1916, t.5, lle sonnir am lyuthyr gan Llew Deulyn am "Slate Quarrying and Science".
- ↑ Y Dinesydd Cymreig, 17.12.1919, t.2