Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ceir isod adysgrif '''Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol''' Clerigwyr Esgobaeth Bangor, sef Cyfieithiad rhannol o tt.226-7 “Record of Caernarvon” <ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696''. (Llundain, 1838), tt.226-7</ref> Un o roliau y Drysorlys yw'r ddogfen, ac er nad yw'n cynnwys dyddiad, credir ei fod yn nodi'r manylion a geir mewn dogfen a elwir yn "Taxatio Lincoln" neu "Taxatio'r Pab Nicholas II", dyddiedig 1291.<ref>Archdiacon Bangor, "The Re-opening of Clynnog Fawr in Arfon", ''Welsh Outlook", Cyf.16, Rhif 7 (Gorffennaf 1929), t.14; </ref> Nodir yn ''Archaeologia Cambrensis'' mai Anian Goch oedd enw'r profost ar y pryd.<ref>Adroddiad am anerchiad Harold Hughes yng Nghlynnog Fawr yn ''Archaeologia Cambrensis'', Cyfres 7, Cyf. 6 (1929), t.476</ref> | Ceir isod adysgrif '''Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol''' Clerigwyr Esgobaeth Bangor, sef Cyfieithiad rhannol o tt.226-7 “Record of Caernarvon” <ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696''. (Llundain, 1838), tt.226-7</ref> Un o roliau y Drysorlys yw'r ddogfen, ac er nad yw'n cynnwys dyddiad, credir ei fod yn nodi'r manylion a geir mewn dogfen a elwir yn "Taxatio Lincoln" neu "Taxatio'r Pab Nicholas II", dyddiedig 1291.<ref>Archdiacon Bangor, "The Re-opening of Clynnog Fawr in Arfon", ''Welsh Outlook", Cyf.16, Rhif 7 (Gorffennaf 1929), t.14; </ref> Nodir yn ''Archaeologia Cambrensis'' mai Anian Goch oedd enw'r profost ar y pryd.<ref>Adroddiad am anerchiad Harold Hughes yng Nghlynnog Fawr yn ''Archaeologia Cambrensis'', Cyfres 7, Cyf. 6 (1929), t.476</ref> | ||
Yn y Lladin fe'i gelwid yn Anian Rufi; sef "rufus", neu gochaidd. | |||
Llinell 25: | Llinell 25: | ||
* Cyfran Meistr Anian | * Cyfran Meistr Anian Goch yn deillio o Eglwys Clynnog Fawr 9½ marc 12s. 8c. | ||
* Cyfrannau sy’n dod i William a rhoddion hefyd 8 marc 10s. 8c. | * Cyfrannau sy’n dod i William a rhoddion hefyd 8 marc 10s. 8c. | ||
*Cyfran Caplan Mathew yn deillio o’r uchod 7½ marc 10s. 0c. | *Cyfran Caplan Mathew yn deillio o’r uchod 7½ marc 10s. 0c. |
Fersiwn yn ôl 11:47, 30 Hydref 2024
Ceir isod adysgrif Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol Clerigwyr Esgobaeth Bangor, sef Cyfieithiad rhannol o tt.226-7 “Record of Caernarvon” [1] Un o roliau y Drysorlys yw'r ddogfen, ac er nad yw'n cynnwys dyddiad, credir ei fod yn nodi'r manylion a geir mewn dogfen a elwir yn "Taxatio Lincoln" neu "Taxatio'r Pab Nicholas II", dyddiedig 1291.[2] Nodir yn Archaeologia Cambrensis mai Anian Goch oedd enw'r profost ar y pryd.[3] Yn y Lladin fe'i gelwid yn Anian Rufi; sef "rufus", neu gochaidd.
Manylion Deoniaeth Arfon
Credir mai'r isod yn cyfeirio at gyfranogwyr eglwys golegol Clynnog Fawr ac yn rhestru'r cydgyfranogwyr. Dangosir yma hefyd unig fanylion eraill am Ddeoniaeth Arfon, sef yr hyn a gesglid gan Eglwys Llanbeblig. Un Anian Ruffy oedd y prif glerigwr y sefydliad, a elwid yn rheithor neu brofost.
D.S.(1) Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol argraffedig sydd yn adysgrif o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, a honno ei hun yn gopi o'r gwreiddiol. Wrth wneud y cyfieithiad rhydd hwn ni chyfeiriwyd at y ddogfen wreiddiol. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiwn argraffedig.
D.S. (2): Mae dotiau "...." yn dynodi rhannau sydd yn ymwneud ag ardaloedd eraill ac sydd felly heb gael eu cyfieithu.
Y Testun
Adysgrif Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol Clerigwyr Esgobaeth Bangor ar ran Drysorlys yr Arglwydd Frenin Lloegr presennol. ....
Archddeoniaeth Bangor
....
Dyma asesiad Deoniaeth Arfon gan Ddeon a rheithwyr eraill y Ddeoniaeth hon.
* Cyfran Meistr Anian Goch yn deillio o Eglwys Clynnog Fawr 9½ marc 12s. 8c. * Cyfrannau sy’n dod i William a rhoddion hefyd 8 marc 10s. 8c. *Cyfran Caplan Mathew yn deillio o’r uchod 7½ marc 10s. 0c. * Cyfran Caplan Ioan yn deillio o’r uchod 7½ marc 10s. 0c. * Cyfran Caplan Dafydd yn deillio o’r uchod 7 marc 9s. 4c. * Eglwys Llanbeblig 8½ marc 11s. 4c. Cyfanswm: £32 Y degwm yn deillio o hyn: 64s.
Cyfeiriadau
- ↑ Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.226-7
- ↑ Archdiacon Bangor, "The Re-opening of Clynnog Fawr in Arfon", Welsh Outlook", Cyf.16, Rhif 7 (Gorffennaf 1929), t.14;
- ↑ Adroddiad am anerchiad Harold Hughes yng Nghlynnog Fawr yn Archaeologia Cambrensis, Cyfres 7, Cyf. 6 (1929), t.476