Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ceir isod adysgrif '''Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol''' Clerigwyr Esgobaeth Bangor, sef  Cyfieithiad rhannol o tt.226-7 “Record of Caernarvon” <ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696''. (Llundain, 1838), tt.226-7</ref> Un o roliau y Drysorlys yw'r ddogfen, ac er nad yw'n cynnwys dyddiad, mae awdur rhagair i'r ''Record of Caernarvon'' yn awgrymu ei fod yn hanu o ail hanner y 14g., yn ystod oes y brenin Rhisiart II.<ref>''op. cit,'', t.iv</ref>
Ceir isod adysgrif '''Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol''' Clerigwyr Esgobaeth Bangor, sef  Cyfieithiad rhannol o tt.226-7 “Record of Caernarvon” <ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696''. (Llundain, 1838), tt.226-7</ref> Un o roliau y Drysorlys yw'r ddogfen, ac er nad yw'n cynnwys dyddiad, credir ei fod yn nodi'r manylion a geir mewn dogfen a elwir yn "Taxatio Lincoln" neu "Taxatio'r Pab Nicholas II", dyddiedig 1291.<ref>Archdiacon Bangor, "The Re-opening of Clynnog Fawr in Arfon", ''Welsh Outlook", Cyf.16, Rhif 7 (Gorffennaf 1929), t.14; </ref> Nodir yn ''Archaeologia Cambrensis'' mai Anian Goch oedd enw'r profost ar y pryd.<ref>Adroddiad am anerchiad Harold Hughes yng Nghlynnog Fawr yn ''Archaeologia Cambrensis'', Cyfres 7, Cyf. 6 (1929), t.476</ref>





Fersiwn yn ôl 11:40, 30 Hydref 2024

Ceir isod adysgrif Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol Clerigwyr Esgobaeth Bangor, sef Cyfieithiad rhannol o tt.226-7 “Record of Caernarvon” [1] Un o roliau y Drysorlys yw'r ddogfen, ac er nad yw'n cynnwys dyddiad, credir ei fod yn nodi'r manylion a geir mewn dogfen a elwir yn "Taxatio Lincoln" neu "Taxatio'r Pab Nicholas II", dyddiedig 1291.[2] Nodir yn Archaeologia Cambrensis mai Anian Goch oedd enw'r profost ar y pryd.[3]


Manylion Deoniaeth Arfon

Credir mai'r isod yn cyfeirio at gyfranogwyr eglwys golegol Clynnog Fawr ac yn rhestru'r cydgyfranogwyr. Dangosir yma hefyd unig fanylion eraill am Ddeoniaeth Arfon, sef yr hyn a gesglid gan Eglwys Llanbeblig. Un Anian Ruffy oedd y prif glerigwr y sefydliad, a elwid yn rheithor neu brofost.

D.S.(1) Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol argraffedig sydd yn adysgrif o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, a honno ei hun yn gopi o'r gwreiddiol. Wrth wneud y cyfieithiad rhydd hwn ni chyfeiriwyd at y ddogfen wreiddiol. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiwn argraffedig.

D.S. (2): Mae dotiau "...." yn dynodi rhannau sydd yn ymwneud ag ardaloedd eraill ac sydd felly heb gael eu cyfieithu.

Y Testun

Adysgrif Cofnod o fanylion Asesiad o incwm eglwysig a thymhorol Clerigwyr Esgobaeth Bangor ar ran Drysorlys yr Arglwydd Frenin Lloegr presennol.
....
Archddeoniaeth Bangor

....

Dyma asesiad Deoniaeth Arfon gan Ddeon a rheithwyr eraill y Ddeoniaeth hon.


* Cyfran Meistr Anian Ruffy yn deillio o Eglwys Clynnog Fawr	9½ marc	12s. 8c.
* Cyfrannau sy’n dod i William a rhoddion hefyd	8 marc	10s. 8c.
*Cyfran Caplan Mathew yn deillio o’r uchod	7½ marc	10s. 0c.
* Cyfran Caplan Ioan yn deillio o’r uchod	7½ marc	10s. 0c.
* Cyfran Caplan Dafydd yn deillio o’r uchod	7 marc	9s. 4c.
* Eglwys Llanbeblig	8½ marc	11s. 4c.

Cyfanswm: £32  Y degwm yn deillio o hyn: 64s.

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.226-7
  2. Archdiacon Bangor, "The Re-opening of Clynnog Fawr in Arfon", Welsh Outlook", Cyf.16, Rhif 7 (Gorffennaf 1929), t.14;
  3. Adroddiad am anerchiad Harold Hughes yng Nghlynnog Fawr yn Archaeologia Cambrensis, Cyfres 7, Cyf. 6 (1929), t.476