Maengwyn, Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Maengwyn''' yn cael ei godi yn ystod y 1820au wrth ochr ffordd dyrpeg newydd o Gaernarfon i Bwllheli, nid nepell o bentref presennol [[Llanwnda]]. Mae'r Map Degwm (1843) yn dangos fod nifer o gaeau o bobtu'r ffordd fawr yn perthyn i'r tŷ. Mae'n debyg na | Roedd '''Maengwyn''' yn cael ei godi yn ystod y 1820au wrth ochr ffordd dyrpeg newydd o Gaernarfon i Bwllheli, nid nepell o bentref presennol [[Llanwnda]]. Mae'r Map Degwm (1843) yn dangos fod nifer o gaeau o bobtu'r ffordd fawr yn perthyn i'r tŷ. Mae'n debyg na chyfrifid Maengwyn yn fferm, ond byddai'r caeau'n ddefnyddiol fel caeau pori ar gyfer ceffyl ac ati, gan fod yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio fwy nag unwaith fel cartref i'r ficer lleol. Mae'n debyg i'r tŷ gael ei godi gan rywun proffesiynol. Saif ar draws y ffordd fawr i dŷ diweddarach, [[Graeanfryn]], ac yn wir am gyfnod sylweddol yn ystod y 19g., mae'n ymddangos fod y tŷ'n cael ei adnabod gan y naill enw neu'r llall. | ||
Mae'r tŷ wedi ei restru'n radd II gan Cadw.<ref>Gwefan Coflein [https://coflein.gov.uk/en/site/301409/], cyrchwyd 16.10.2024</ref> | Mae'r tŷ wedi ei restru'n radd II gan Cadw.<ref>Gwefan Coflein [https://coflein.gov.uk/en/site/301409/], cyrchwyd 16.10.2024</ref> |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:08, 29 Hydref 2024
Roedd Maengwyn yn cael ei godi yn ystod y 1820au wrth ochr ffordd dyrpeg newydd o Gaernarfon i Bwllheli, nid nepell o bentref presennol Llanwnda. Mae'r Map Degwm (1843) yn dangos fod nifer o gaeau o bobtu'r ffordd fawr yn perthyn i'r tŷ. Mae'n debyg na chyfrifid Maengwyn yn fferm, ond byddai'r caeau'n ddefnyddiol fel caeau pori ar gyfer ceffyl ac ati, gan fod yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio fwy nag unwaith fel cartref i'r ficer lleol. Mae'n debyg i'r tŷ gael ei godi gan rywun proffesiynol. Saif ar draws y ffordd fawr i dŷ diweddarach, Graeanfryn, ac yn wir am gyfnod sylweddol yn ystod y 19g., mae'n ymddangos fod y tŷ'n cael ei adnabod gan y naill enw neu'r llall.
Mae'r tŷ wedi ei restru'n radd II gan Cadw.[1]
Am hanes trigolion y tŷ, gweler yr erthygl ar Graeanfryn.