Robert Gwyneddon Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Robert Gwyneddon Davies''' (1870-1928) yn gyfreithiwr yng Nghaernarfon a ymddiddorodd yn llenyddiaeth Cymru yn ei amser hamdden. Mab ydoedd i John Davies (Gwyneddon) (1832-1904), argraffydd a newyddiadurwr o Fangor a symudodd wedyn i Gaernarfon lle sefydlodd wasg, gan argraffu a golygu papur enwadol ''Y Goleuad''.
Roedd '''Robert Gwyneddon Davies''' (1870-1928), a aned yng Nghaernarfon, yn gyfreithiwr yng Nghaernarfon a ymddiddorodd yn llenyddiaeth Cymru yn ei amser hamdden. Mab ydoedd i John Davies (Gwyneddon) (1832-1904), argraffydd a newyddiadurwr o Fangor a symudodd wedyn i Gaernarfon lle sefydlodd wasg, gan argraffu a golygu papur enwadol ''Y Goleuad''. Ei fam oedd Mary Davies, yn wreiddiol o Langwnnadl (g.1836).


Y tu allan i'w waith pob dydd, roedd yn gasglwr llawysgrifau, ac y mae amryw o'r rhain yn llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor, yn cynnwys rhai a brynwyd oddi wrth deulu'r Parch. Peter Bailey Williams.<ref>''Y Bywgraffiadur ar-lein'', erthygl am ei dad [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-JOH-1832]</ref> Roedd hefyd yn ynad heddwch, yn aelod o'r Cyngor Sir, cadeirydd y Pwyllgor Addysg, ac yn ei dro'n Uchel Siryf y sir.
Y tu allan i'w waith pob dydd, roedd yn gasglwr llawysgrifau, ac y mae amryw o'r rhain yn llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor, yn cynnwys rhai a brynwyd oddi wrth deulu'r Parch. Peter Bailey Williams.<ref>''Y Bywgraffiadur ar-lein'', erthygl am ei dad [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-JOH-1832]</ref> Roedd hefyd yn ynad heddwch, yn aelod o'r Cyngor Sir, cadeirydd y Pwyllgor Addysg, ac yn ei dro'n Uchel Siryf y sir.

Fersiwn yn ôl 18:58, 14 Hydref 2024

Roedd Robert Gwyneddon Davies (1870-1928), a aned yng Nghaernarfon, yn gyfreithiwr yng Nghaernarfon a ymddiddorodd yn llenyddiaeth Cymru yn ei amser hamdden. Mab ydoedd i John Davies (Gwyneddon) (1832-1904), argraffydd a newyddiadurwr o Fangor a symudodd wedyn i Gaernarfon lle sefydlodd wasg, gan argraffu a golygu papur enwadol Y Goleuad. Ei fam oedd Mary Davies, yn wreiddiol o Langwnnadl (g.1836).

Y tu allan i'w waith pob dydd, roedd yn gasglwr llawysgrifau, ac y mae amryw o'r rhain yn llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor, yn cynnwys rhai a brynwyd oddi wrth deulu'r Parch. Peter Bailey Williams.[1] Roedd hefyd yn ynad heddwch, yn aelod o'r Cyngor Sir, cadeirydd y Pwyllgor Addysg, ac yn ei dro'n Uchel Siryf y sir.

Gwraig iddo oedd y gantores a'r arbenigwraig ar alawon gwerin Cymreig, Grace Gwyneddon Davies, (1878-1944). Priododd y ddau ym 1909 yng Nghapel Charing Cross, Llundain, a hynny ar ôl cwrdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1906. Ysywaeth, ni chafodd y cwpl blant. Sefydlodd y cwpl yn Graeanfryn, Llanwnda, gan ddod yn aelodau amlwg a gweithgar o'r capel lleol, Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda. Daeth Graeanfryn yn ganolfan ddiwylliannol i'r ardal, a chynhelid nosweithiau cerddorol yno'n rheolaidd. Atyniad pellach oedd yr ardd nodedig. Yr oedd David Lloyd George a gwleidyddion amlwg eraill yn ymwelwyr cyson â Graeanfryn.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur ar-lein, erthygl am ei dad [1]
  2. Y Bywgraffiadur ar-lein, erthygl am Grace Gwyneddon Davies [2]