Hedfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 13: Llinell 13:


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
<ref>Allan o Hywel Tudur, 1840-1922, Bardd.Pregethwr.Dyfeisydd Golygwyd gan Catrin Pari Huws. Argraffwyd gan Wasg Pantycelyn, Caernarfon. (1993)    Yn y llyfr hwn ceir y manylion llawn a anfonwyd at y Swyddfa Batent a llun o'r ddyfais.</ref>
<ref>Allan o '''Hywel Tudur, 1840-1922, Bardd.Pregethwr.Dyfeisydd Golygwyd gan Catrin Pari Huws.''' Argraffwyd gan Wasg Pantycelyn, Caernarfon. (1993)    Yn y llyfr hwn ceir y manylion llawn a anfonwyd at y Swyddfa Batent a llun o'r ddyfais.</ref>

Fersiwn yn ôl 19:29, 20 Ionawr 2018

Hywel Tudur


Un a ymddiddorai yn fawr yng ngwyddor hedfan oedd Hywel Tudur (Hywel Roberts (1840-1922), Clynnog Fawr.

Yn ôl Dr Gwilym Arthur Jones: "Bu wrthi am dros chwarter canrif yn pendroni uwchben y broblem a threulio misoedd bwygilydd ymhliath adar, chwilod a gwenyn yn dyfal wylio eu symudiadau trwy ddefnyddio chwyddwydr neu "fwyadur" fel y galwai ef. Y broblem a'i hwynebai oedd - pam fod ganddynt gyrff mor drwm ac adenydd mor fychain?

"Cafodd y syniad o ddyfeisio propelar ac aeth ati i osod y cynllun ar bapur. Nid hynny'n unig ond penderfyn0odd anfon y cynllun at arbenigwyr y swyddfa batent yn Llundain. Daeth ateb yn dweud iddynt dderbyn ei gynlluniau cyntaf r gyfer 'A propellor or Driving Wheel to put in motion vehicles, boats and flying machines' ar Hydref 14, 1916. Ymhen blwyddyn derbyniwyd y cyfan o'i syniadau.

"Ceir ganddo ddisgrifiad manwl o'r ddyfais ynghyd â diagram.

"Bu yn ei fryd gynllunio a saernïo awyren (gleidar, yn ôl ei wyres) a dywedir i rai gwŷr tra phwysig ymweld ag ef ynglŷn â'r fenter ond, o ddiffyg cefnogaeth ariannol, llesteiriwyd y bwriad." [1]

Cyfeiriadau

[2]

  1. Allan o Hywel Tudur, 1840-1922, Bardd.Pregethwr.Dyfeisydd Golygwyd gan Catrin Pari Huws. Argraffwyd gan Wasg Pantycelyn, Caernarfon. (1993)
  2. Allan o Hywel Tudur, 1840-1922, Bardd.Pregethwr.Dyfeisydd Golygwyd gan Catrin Pari Huws. Argraffwyd gan Wasg Pantycelyn, Caernarfon. (1993) Yn y llyfr hwn ceir y manylion llawn a anfonwyd at y Swyddfa Batent a llun o'r ddyfais.