John Jones (Sion Caeronwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Er bod '''John Jones, neu Sion Caeronwy''', bron yn gwbl anllythrennog, roedd yn fardd gwlad medrus a rhwydd a oedd yn byw tua diwedd y 18g. yn fferm Caer...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Er bod '''John Jones, neu Sion Caeronwy''', bron yn gwbl anllythrennog, roedd yn fardd gwlad medrus a rhwydd a oedd yn byw tua diwedd y 18g. yn fferm Caeronwy, ar lethrau [[Mynydd Mawr]] ym mhlwyf [[Llandwrog]]. | Er bod '''John Jones, neu Sion Caeronwy''', bron yn gwbl anllythrennog, roedd yn fardd gwlad medrus a rhwydd a oedd yn byw tua diwedd y 18g. yn fferm Caeronwy, ar lethrau [[Mynydd Mawr]] ym mhlwyf [[Llandwrog]]. | ||
Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan [[Dafydd Ddu Eryri]] ym [[Betws Garmon|Metws Garmon]] er mwyn | Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan [[Dafydd Ddu Eryri]] i gyfarfod ym [[Betws Garmon|Metws Garmon]] er mwyn sefydlu trefn o gyfarfodydd, neu seiadau, i feirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "gywion" fel y gelwid hwy.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref> Roedd Dafydd yn ei gyfrif yn well nag ef ei hun am fywiogrwydd ei awen a rhwyddineb ei allu i gyfansoddi, yn arbennig cyfansoddi cerddi dychan. Oherwydd ei ddiffyg addysg, fodd bynnag, dywedir nad oedd y drefn a’r coethder angenrheidiol yn ei gerddi iddynt gael eu cynnwys yn llyfr Dafydd Ddu, ''Corff y Gainc'', a gyhoeddwyd tua 1810. | ||
Gan nad oedd yn medru ysgrifennu, pan fyddai ganddo gerddi yr oedd yn awyddus i’w cadw arferai groesi’r mynydd i gartref Dafydd Ddu yn | Gan nad oedd yn medru ysgrifennu, pan fyddai ganddo gerddi yr oedd yn awyddus i’w cadw arferai groesi’r mynydd i gartref Dafydd Ddu yn Y Waunfawr, lle byddai Dafydd yn eu gosod i lawr ar bapur. | ||
Arferai ffermio Caeronwy, ond wedi i’r | Arferai ffermio Caeronwy, ond wedi i’r rhent godi’n sylweddol, gadawyd y fferm a chodi tŷ ac amgáu ychydig o gaeau o’r comin gerllaw, gan alw’r lle yn [[Castell Caeronwy|Gastell Caeronwy]] ar ôl olion hen amddiffynfa o’r Oes Haearn a oedd gerllaw.<ref> W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), tt.61-2</ref> | ||
==Cyfeiriadau= | ==Cyfeiriadau= | ||
[[Categori:Beirdd]] | [[Categori:Beirdd]] | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:55, 14 Mehefin 2024
Er bod John Jones, neu Sion Caeronwy, bron yn gwbl anllythrennog, roedd yn fardd gwlad medrus a rhwydd a oedd yn byw tua diwedd y 18g. yn fferm Caeronwy, ar lethrau Mynydd Mawr ym mhlwyf Llandwrog.
Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri i gyfarfod ym Metws Garmon er mwyn sefydlu trefn o gyfarfodydd, neu seiadau, i feirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "gywion" fel y gelwid hwy.[1] Roedd Dafydd yn ei gyfrif yn well nag ef ei hun am fywiogrwydd ei awen a rhwyddineb ei allu i gyfansoddi, yn arbennig cyfansoddi cerddi dychan. Oherwydd ei ddiffyg addysg, fodd bynnag, dywedir nad oedd y drefn a’r coethder angenrheidiol yn ei gerddi iddynt gael eu cynnwys yn llyfr Dafydd Ddu, Corff y Gainc, a gyhoeddwyd tua 1810.
Gan nad oedd yn medru ysgrifennu, pan fyddai ganddo gerddi yr oedd yn awyddus i’w cadw arferai groesi’r mynydd i gartref Dafydd Ddu yn Y Waunfawr, lle byddai Dafydd yn eu gosod i lawr ar bapur.
Arferai ffermio Caeronwy, ond wedi i’r rhent godi’n sylweddol, gadawyd y fferm a chodi tŷ ac amgáu ychydig o gaeau o’r comin gerllaw, gan alw’r lle yn Gastell Caeronwy ar ôl olion hen amddiffynfa o’r Oes Haearn a oedd gerllaw.[2]