Ysgol Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Sefydlwyd '''Ysgol Frytanaidd Llanllyfni''' yn y pentref ym 1863, a chynhaliwyd canmlwyddiant ei sefydlu fis Mehefin 1963, pan oedd Mr Glyn Owen yn brifathro. Mae’r ysgol, a elwir bellach yn Ysgol Gynradd Llanllyfni, yn dal yn agored gyda thua 90 o ddisgyblion. Dysgir trwy gyfrwng y Gymraeg. | Sefydlwyd '''Ysgol Frytanaidd Llanllyfni''' yn y pentref ym 1863, a chynhaliwyd canmlwyddiant ei sefydlu fis Mehefin 1963, pan oedd Mr Glyn Owen yn brifathro. Mae’r ysgol, a elwir bellach yn Ysgol Gynradd Llanllyfni, yn dal yn agored gyda thua 90 o ddisgyblion. Dysgir trwy gyfrwng y Gymraeg. | ||
Athro cyntaf yr ysgol oedd [[Howell Roberts (Hywel Tudur)]] ar ôl dwy flynedd fel athro [[Ysgol Clynnog]]. Er ei fod yn fardd a chynganeddwr nodedig yn ei ddydd ac yn ŵr o ddiwylliant, <ref>W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.86</ref>ymfalchïodd yn ei ddefnydd o'r "Welsh Not" a'i lwyddiant mewn alltudio'r Gymraeg o'r ysgol.<ref>Gweler erthygl y Cof amdano</ref> | Athro cyntaf yr ysgol oedd [[Howell Roberts (Hywel Tudur)]] ar ôl dwy flynedd fel athro [[Ysgol Gynradd Clynnog Fawr]]. Er ei fod yn fardd a chynganeddwr nodedig yn ei ddydd ac yn ŵr o ddiwylliant, <ref>W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.86</ref>ymfalchïodd yn ei ddefnydd o'r "Welsh Not" a'i lwyddiant mewn alltudio'r Gymraeg o'r ysgol.<ref>Gweler erthygl y Cof amdano</ref> | ||
Yn wreiddiol, roedd Ysgol Llanllyfni yn gorfod derbyn plant o ardal [[Pen-y-groes]] ond fel y tyfodd yr ardal honno, teimlid fod rhaid cael ysgol newydd yno, ac ar ddechrau’r 1870au codwyd [[Ysgol Bro Lleu|ysgol newydd]] yno gan y Gymdeithas Ysgolion Brytanaidd.<ref>''North Wales Chronicle'', 5.6.1869, t.3</ref> | Yn wreiddiol, roedd Ysgol Llanllyfni yn gorfod derbyn plant o ardal [[Pen-y-groes]] ond fel y tyfodd yr ardal honno, teimlid fod rhaid cael ysgol newydd yno, ac ar ddechrau’r 1870au codwyd [[Ysgol Bro Lleu|ysgol newydd]] yno gan y Gymdeithas Ysgolion Brytanaidd.<ref>''North Wales Chronicle'', 5.6.1869, t.3</ref> |
Fersiwn yn ôl 08:48, 22 Mai 2024
Sefydlwyd Ysgol Frytanaidd Llanllyfni yn y pentref ym 1863, a chynhaliwyd canmlwyddiant ei sefydlu fis Mehefin 1963, pan oedd Mr Glyn Owen yn brifathro. Mae’r ysgol, a elwir bellach yn Ysgol Gynradd Llanllyfni, yn dal yn agored gyda thua 90 o ddisgyblion. Dysgir trwy gyfrwng y Gymraeg.
Athro cyntaf yr ysgol oedd Howell Roberts (Hywel Tudur) ar ôl dwy flynedd fel athro Ysgol Gynradd Clynnog Fawr. Er ei fod yn fardd a chynganeddwr nodedig yn ei ddydd ac yn ŵr o ddiwylliant, [1]ymfalchïodd yn ei ddefnydd o'r "Welsh Not" a'i lwyddiant mewn alltudio'r Gymraeg o'r ysgol.[2]
Yn wreiddiol, roedd Ysgol Llanllyfni yn gorfod derbyn plant o ardal Pen-y-groes ond fel y tyfodd yr ardal honno, teimlid fod rhaid cael ysgol newydd yno, ac ar ddechrau’r 1870au codwyd ysgol newydd yno gan y Gymdeithas Ysgolion Brytanaidd.[3]
Ym mis Hydref 1873 trosglwyddwyd Ysgol Llanllyfni o’r Gymdeithas Brytanaidd i ofal Bwrdd Ysgol newydd etholedig plwyf Llanllyfni. Aed ati i wella’r adeilad nes y gellid ei ddisgrifio yn y papur newydd fel “a very good and convenient schoolroom”, ac fe agorodd ar ei newydd wedd fis Ionawr 1874. James Evans, a ddaeth o Goleg Normal Bangor, gafodd ei benodi’n brifathro, a phenodwyd un Miss Hughes a oedd gynt yn athro-ddisgybl yng Nghaergybi, yn athrawes gynorthwyol.[4].
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma