Bryscyni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 2: Llinell 2:


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:56, 29 Mawrth 2024

Saif ffermdy Bryscyni Uchaf ar y llethrau i'r dwyrain o bentref Clynnog. Erbyn hyn Bryscyni Uchaf yn unig a geir ar y map Ordnans, ond ar fap Ordnans 1920 nodir Bryscyni-uchaf, Bryscyni-ganol a Bryscyni-isaf. Mae'r elfen gyntaf prys wedi troi'n brys ers cryn amser ond ceir y ffurf wreiddiol mewn rhai cofnodion, megis Pryscyni ym 1775 (Casgliad Newborough, Glynllifon). Ystyr prys yw llwyn neu lwyni o goed mân - fe'i gwelir hefyd yn yr enw prysgwydd. Mae'n ymddangos mai enw personol gwrywaidd Cyni yw'r ail elfen yn yr enw. Mae'n enw tra anghyffredin ond roedd dyn o'r enw Cyni Williams yn byw ym mhentref Trefor (bu farw oddeutu 1967) a chredaf ei fod yn hanu o hen deulu Bryscyni. Yr unig bosibilrwydd arall yw'r enw cyffredin cyni yn yr ystyr o galedi neu drallod. Pe cyplysid yr ystyr hwn â ffurf megis tyddyn neu cae i gyfleu tlodi byddai'n gwneud mwy o synnwyr, ond anodd rhywsut yw cysylltu'r ystyr hwn â llwyni goed mân. Felly, yr enw priod yw'r ystyr mwyaf tebygol. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011),tt. 221-2.