Grafog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae annedd o'r enw '''Grafog''' i'r de o bentref Y Groeslon. Mewn rhai achosion mae ''crafog'' i'w gael fel ansoddair, ond yma enw benywaidd unigol yd...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 2: Llinell 2:


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:11, 18 Mawrth 2024

Mae annedd o'r enw Grafog i'r de o bentref Y Groeslon. Mewn rhai achosion mae crafog i'w gael fel ansoddair, ond yma enw benywaidd unigol ydyw - 'y Grafog', sef man lle mae llawer o graf neu arlleg gwyllt yn tyfu. Mae craf yn elfen weddol gyffredin mewn enwau lleoedd. Cyfeiriwyd at y Grafog ym mhlwyf Llandwrog fel Kay y Gravok ym 1556 (Casgliad Newborough, Glynllifon). Griafog a nodir ar fap Ordnans 1838 a Grafog bob tro ar ôl hynny.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.174