Dinas Franog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mewn cofnodion rhwng 1757 a 1839 ceir sawl cyfeiriad at le o'r enw '''Dinas Franog''' ar dir ''Rhedynogfelen Fawr'' ym mhlwyf Llanwnda. Hawdd yw eglur...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mewn cofnodion rhwng 1757 a 1839 ceir sawl cyfeiriad at le o'r enw '''Dinas Franog''' ar dir ''Rhedynogfelen Fawr'' ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Hawdd yw egluro'r elfen gyntaf, sef ''dinas'', yn golygu caer neu amddiffynfa. Ymddengys mai ansoddair yw'r ''branog'' yn yr ail elfen. Ni nodir ''branog'' yn ''Geiriadur Prifysgol Cymru'', ond yng ngeiriadur William Owen Pughe (1832) ceir ''branawg'' a'i ystyr medd Pughe yw 'o natur brân'. Nid oedd damcaniaethau Pughe ar dir cadarn bob amser yn sicr, ond os yw ei ddehongliad yn gywir, gallai ''branog'' gyfeirio at rywle lle byddai brain yn ymgasglu neu fe allai fod yn enw dirmygus ar rywle sydd wedi mynd a'i ben iddo ac yn addas i ddim ond brain. Ym 1793-5 cyfeiriodd yr hynafiaethydd Peter Bailey Williams at ''Dinas Efrog or Franog near Collfryn in Llandwrog''. Er bod Collfryn ym mhlwyf [[Llandwrog]] a Rhedynogfelen Fawr ym mhlwyf Llanwnda, mae'r ddau dŷ yn ddigon agos at ei gilydd i awgrymu mai'r un lle oedd hwnnw. Cyfeiriodd [[W.Gilbert Williams]] hefyd at y lle fel 'Dinas Efrog neu Franog', ond cyfeiriodd ato hefyd fel 'Dinas Ffranog' gan ddweud ei bod yn 'ddinas Rufeinig' (caer mae'n debyg) ar lan afon [[Carrog]].<sup>[1]</sup>
Mewn cofnodion rhwng 1757 a 1839 ceir sawl cyfeiriad at le o'r enw '''Dinas Franog''' ar dir ''Rhedynogfelen Fawr'' ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Hawdd yw egluro'r elfen gyntaf, sef ''dinas'', yn golygu caer neu amddiffynfa. Ymddengys mai ansoddair yw'r ''branog'' yn yr ail elfen. Ni nodir ''branog'' yn ''Geiriadur Prifysgol Cymru'', ond yng ngeiriadur William Owen Pughe (1832) ceir ''branawg'' a'i ystyr medd Pughe yw 'o natur brân'. Nid oedd damcaniaethau Pughe ar dir cadarn bob amser yn sicr, ond os yw ei ddehongliad yn gywir, gallai ''branog'' gyfeirio at rywle lle byddai brain yn ymgasglu neu fe allai fod yn enw dirmygus ar rywle sydd wedi mynd a'i ben iddo ac yn addas i ddim ond brain. Ym 1793-5 cyfeiriodd yr hynafiaethydd Peter Bailey Williams at ''Dinas Efrog or Franog near Collfryn in Llandwrog''. Er bod Collfryn ym mhlwyf [[Llandwrog]] a Rhedynogfelen Fawr ym mhlwyf Llanwnda, mae'r ddau dŷ yn ddigon agos at ei gilydd i awgrymu mai'r un lle oedd hwnnw. Cyfeiriodd [[W. Gilbert Williams]] hefyd at y lle fel 'Dinas Efrog neu Franog', ond cyfeiriodd ato hefyd fel 'Dinas Ffranog' gan ddweud ei bod yn 'ddinas Rufeinig' (caer mae'n debyg) ar lan ''Afon Carrog''.<sup>[1]</sup>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.138-9.
1. Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.138-9.

Fersiwn yn ôl 15:42, 13 Mawrth 2024

Mewn cofnodion rhwng 1757 a 1839 ceir sawl cyfeiriad at le o'r enw Dinas Franog ar dir Rhedynogfelen Fawr ym mhlwyf Llanwnda. Hawdd yw egluro'r elfen gyntaf, sef dinas, yn golygu caer neu amddiffynfa. Ymddengys mai ansoddair yw'r branog yn yr ail elfen. Ni nodir branog yn Geiriadur Prifysgol Cymru, ond yng ngeiriadur William Owen Pughe (1832) ceir branawg a'i ystyr medd Pughe yw 'o natur brân'. Nid oedd damcaniaethau Pughe ar dir cadarn bob amser yn sicr, ond os yw ei ddehongliad yn gywir, gallai branog gyfeirio at rywle lle byddai brain yn ymgasglu neu fe allai fod yn enw dirmygus ar rywle sydd wedi mynd a'i ben iddo ac yn addas i ddim ond brain. Ym 1793-5 cyfeiriodd yr hynafiaethydd Peter Bailey Williams at Dinas Efrog or Franog near Collfryn in Llandwrog. Er bod Collfryn ym mhlwyf Llandwrog a Rhedynogfelen Fawr ym mhlwyf Llanwnda, mae'r ddau dŷ yn ddigon agos at ei gilydd i awgrymu mai'r un lle oedd hwnnw. Cyfeiriodd W. Gilbert Williams hefyd at y lle fel 'Dinas Efrog neu Franog', ond cyfeiriodd ato hefyd fel 'Dinas Ffranog' gan ddweud ei bod yn 'ddinas Rufeinig' (caer mae'n debyg) ar lan Afon Carrog.[1]

Cyfeiriadau

1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.138-9.