Glesni Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' ===Glesni Jones, Llandwrog=== Telynores a fu’n arweinydd Parti Lleu o 1977 hyd at ddechrau’r ganrif bresennol. Ganwyd a magwyd hi yn Llanuwchllyn,...' |
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
==Glesni Jones, Llandwrog== | |||
Telynores a fu’n arweinydd Parti Lleu o 1977 hyd at ddechrau’r ganrif bresennol. | Telynores a fu’n arweinydd Parti Lleu o 1977 hyd at ddechrau’r ganrif bresennol. | ||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Daeth cryn lwyddiant i Barti Lleu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dan ei harweiniad. Fe’i sefydlwyd gan Carys Puw Williams i gystadlu yn Eisteddfod Cricieth a’r Cylch yn 1975 ond a roddodd y gorau iddo pan ymgymerodd ei gŵr, y Parchedig Meurwyn Williams, â gofal eglwys arall yng Nghaerdydd. Cymerwyd awenau’r Parti gan Glesni, gan ddod i’r brig ar y gystadleuaeth i bartïon cerdd dant yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979. Bu 1980 a 1981 yr un mor llwyddiannus gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn gyson o hynny ymlaen. Bu’n cystadlu hefyd yn yr Ŵyl Cerdd Dant o’r wyth degau ymlaen gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn bur aml. | Daeth cryn lwyddiant i Barti Lleu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dan ei harweiniad. Fe’i sefydlwyd gan Carys Puw Williams i gystadlu yn Eisteddfod Cricieth a’r Cylch yn 1975 ond a roddodd y gorau iddo pan ymgymerodd ei gŵr, y Parchedig Meurwyn Williams, â gofal eglwys arall yng Nghaerdydd. Cymerwyd awenau’r Parti gan Glesni, gan ddod i’r brig ar y gystadleuaeth i bartïon cerdd dant yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979. Bu 1980 a 1981 yr un mor llwyddiannus gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn gyson o hynny ymlaen. Bu’n cystadlu hefyd yn yr Ŵyl Cerdd Dant o’r wyth degau ymlaen gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn bur aml. | ||
Yn y naw degau roedd y Parti wedi datblygu’n gôr – Côr Arianrhod – ac o dan arweiniad Glesni daethant i’r drydedd safle yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1997 a’r ail safle yn 1999. | Yn y naw degau roedd y Parti wedi datblygu’n gôr – Côr Arianrhod – ac o dan arweiniad Glesni daethant i’r drydedd safle yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1997 a’r ail safle yn 1999. | ||
==Cyfeiriadau== | |||
Allan o Canrif o Gân, Cyfrol 2: Datblygiad Cerdd Dant ym M&oncirc;, Arfon, LLŷn ac Eifionydd, Maldwyn a De-orllewin Cwm Tawe a'r De-ddwyrain gan Aled Lloyd Davies, (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru), 2000 | |||
a gwybodaeth bersonol. |
Fersiwn yn ôl 20:56, 10 Mawrth 2024
Glesni Jones, Llandwrog
Telynores a fu’n arweinydd Parti Lleu o 1977 hyd at ddechrau’r ganrif bresennol. Ganwyd a magwyd hi yn Llanuwchllyn, yn ferch i Einion Edwards, Tyddynronnen, datgeinydd cerdd dant poblogaidd ac aelod o Gôr Godre’r Aran o’r dechrau. Mae hi wedi cartrefu yn Llandwrog ac yn briod ag Osborn Jones.
Daeth cryn lwyddiant i Barti Lleu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dan ei harweiniad. Fe’i sefydlwyd gan Carys Puw Williams i gystadlu yn Eisteddfod Cricieth a’r Cylch yn 1975 ond a roddodd y gorau iddo pan ymgymerodd ei gŵr, y Parchedig Meurwyn Williams, â gofal eglwys arall yng Nghaerdydd. Cymerwyd awenau’r Parti gan Glesni, gan ddod i’r brig ar y gystadleuaeth i bartïon cerdd dant yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979. Bu 1980 a 1981 yr un mor llwyddiannus gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn gyson o hynny ymlaen. Bu’n cystadlu hefyd yn yr Ŵyl Cerdd Dant o’r wyth degau ymlaen gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn bur aml. Yn y naw degau roedd y Parti wedi datblygu’n gôr – Côr Arianrhod – ac o dan arweiniad Glesni daethant i’r drydedd safle yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1997 a’r ail safle yn 1999.
Cyfeiriadau
Allan o Canrif o Gân, Cyfrol 2: Datblygiad Cerdd Dant ym M&oncirc;, Arfon, LLŷn ac Eifionydd, Maldwyn a De-orllewin Cwm Tawe a'r De-ddwyrain gan Aled Lloyd Davies, (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru), 2000 a gwybodaeth bersonol.