Braich y Trigwr a Llac y Lleidr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Rhwng pentrefi'r [[Groeslon]] a [[Rhostryfan]] ceir anheddau o'r enw ''Braich Trigwr Bach'', ''Braich Trigwr Mawr'' a ''Braich Trigwr Uchaf''. Yn y cofnodion cynharaf o ffurf yr enw yn yr 17g, dywed Glenda Carr nad ''braich'' a geir ond ''bach'', megis ''bach try gwr'' ym 1658 (Casgliad Mostyn, Prifysgol Bangor). Ystyr ''bach'' yw 'cilfach', sy'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd. Hefyd, nid yw'r elfen ''trigwr'' yn gwneud llawer o synnwyr, a'r ffurf a gofnodwyd ym 1614-15 (Bangor) oedd ''Bach y Drygwr Isaf / Bach y Drygwr Uchaf''. Mae 'drygwr' yn hen air Cymraeg am 'ddihiryn' neu 'ddrwgweithredwr', neu hyd yn oed y Diafol. Felly, gallai'r enw gyfeirio at gilfach neu ymguddfan rhyw ddrwgweithredwr. Ceir ''Cil Drygwr'' yn Golan, ger Garndolbenmaen. Gallai hefyd gyfeirio at dir mor wael fel y credid ei fod yn eiddo i'r Diafol ei hun. Tua dechrau'r 19g y dechreuodd y ffurf ''trigwr'' ddisodli ''drygwr'' mewn ymgais efallai i barchuso'r enw.  

Yn Rhestr Pennu'r Degwm plwyf [[Llandwrog]] ym 1842 nodir cae o'r enw '''Llac y Lleidr''' ar dir fferm Tryfan Fawr. Ym 1696 fe'i nodir fel ''Llettu Lleidir alias Llacke Lleidir'' (Casgliad Mostyn, Prifysgol Bangor). Mae ''llac'' yma, fel ''bach'' a ''cil'', yn golygu llecyn neu gilfach y gallai troseddwr ymguddio ynddo, fel mae ''llettu'' hefyd yn ei gyfleu. Ystyr digon tebyg i ''Bach y Drygwr'' felly sydd i enw'r cae hwn.<sup>1</sup>
Yn Rhestr Pennu'r Degwm plwyf [[Llandwrog]] ym 1842 nodir cae o'r enw '''Llac y Lleidr''' ar dir fferm [[Tryfan Fawr]]. Ym 1696 fe'i nodir fel ''Llettu Lleidir alias Llacke Lleidir'' (Casgliad Mostyn, Prifysgol Bangor). Mae ''llac'' yma, fel ''bach'' a ''cil'', yn golygu llecyn neu gilfach y gallai troseddwr ymguddio ynddo, fel mae ''llettu'' hefyd yn ei gyfleu. Ystyr digon tebyg i ''Bach y Drygwr'' felly sydd i enw'r cae hwn.<sup>1</sup>

== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Ceir ymdriniaeth lawn yn: Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.41-2.
Ceir ymdriniaeth lawn yn: Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.41-2.
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 21:05, 14 Chwefror 2024

Rhwng pentrefi'r Groeslon a Rhostryfan ceir anheddau o'r enw Braich Trigwr Bach, Braich Trigwr Mawr a Braich Trigwr Uchaf. Yn y cofnodion cynharaf o ffurf yr enw yn yr 17g, dywed Glenda Carr nad braich a geir ond bach, megis bach try gwr ym 1658 (Casgliad Mostyn, Prifysgol Bangor). Ystyr bach yw 'cilfach', sy'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd. Hefyd, nid yw'r elfen trigwr yn gwneud llawer o synnwyr, a'r ffurf a gofnodwyd ym 1614-15 (Bangor) oedd Bach y Drygwr Isaf / Bach y Drygwr Uchaf. Mae 'drygwr' yn hen air Cymraeg am 'ddihiryn' neu 'ddrwgweithredwr', neu hyd yn oed y Diafol. Felly, gallai'r enw gyfeirio at gilfach neu ymguddfan rhyw ddrwgweithredwr. Ceir Cil Drygwr yn Golan, ger Garndolbenmaen. Gallai hefyd gyfeirio at dir mor wael fel y credid ei fod yn eiddo i'r Diafol ei hun. Tua dechrau'r 19g y dechreuodd y ffurf trigwr ddisodli drygwr mewn ymgais efallai i barchuso'r enw.

Yn Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llandwrog ym 1842 nodir cae o'r enw Llac y Lleidr ar dir fferm Tryfan Fawr. Ym 1696 fe'i nodir fel Llettu Lleidir alias Llacke Lleidir (Casgliad Mostyn, Prifysgol Bangor). Mae llac yma, fel bach a cil, yn golygu llecyn neu gilfach y gallai troseddwr ymguddio ynddo, fel mae llettu hefyd yn ei gyfleu. Ystyr digon tebyg i Bach y Drygwr felly sydd i enw'r cae hwn.1

Cyfeiriadau

Ceir ymdriniaeth lawn yn: Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.41-2.