Adar Drws-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 14: Llinell 14:

===== Aderyn y To =====
===== Aderyn y To =====
Yn y flwyddyn 1916 yr oedd ugeiniau lawer o’r adar yma yn nythu yn y pileri cerrig a adeiladwyd i ddal cafnau oedd yn cario dŵr i droi olwynion y gwaith copr yn Nrws-y-coed. Yr un flwyddyn daeth peirianwyr o gwmni John Fowler o Leeds i wneud ychydig o waith ar dracsion y gwaith, a phob cyfle a gawsent byddent allan yn anelu am yr adar hyn gyda ffyn-taflu a cherrig.   Ac er yr adeg hynny ni welwyd yr un aderyn y to yn Nrws-y-coed.

===== Asgell Goch =====
===== Asgell Goch =====
Llinell 20: Llinell 20:

===== Asgell Fraith =====  
===== Asgell Fraith =====  
Aderyn bychan hardd, yn enwedig y ceiliog. Un agos atoch, fel y byddem yn dweud, o’r braidd yn ddigywilydd weithiau. Ym misoedd y gaeaf bydd dwsin neu bymtheg ohonynt yn fy ngwylio yn paratoi bwyd i’r cŷn a deuant o fewn llai na dwylath i mi i fwyta ohono.  Ond, chwarae teg iddynt, byddant sicr o dalu amdano gyda chân fach bert.                                                                                                                                         

Cerddwn un diwrnod o Ddolserau sydd oddeutu tair milltir o Ddolgellau, i fyny llwybr cul trwy goedwig yn ystod haf 1972.  Tra’n cerdded trwy’r coed, o’m blaen ehedai un o’r adar hyn, o frigyn i frigyn rhyw ddegllath o’m blaen o hyd, a chanu yn soniarus. Gwnaeth felly hyd nes y deuthum allan o’r goedwig ar ffordd Dinas Mawddwy. Tybed a oeddwn yn rhy ddiniwed wrth feddwl ei fod yn fy adnabod, a’i fod yntau fel un arall o ‘adar’ Dyffryn Nantlle yno ar ei wyliau, a’i fod yn un o’r adar a oedd yn bwyta bwyd y cŷn yn y gaeaf? Pwy a ŷr ynte?  Gresynaf na fu i mi ddiolch iddo am ei gân y diwrnod hwnnw.  
Cerddwn un diwrnod o Ddolserau sydd oddeutu tair milltir o Ddolgellau, i fyny llwybr cul trwy goedwig yn ystod haf 1972.  Tra’n cerdded trwy’r coed, o’m blaen ehedai un o’r adar hyn, o frigyn i frigyn rhyw ddegllath o’m blaen o hyd, a chanu yn soniarus. Gwnaeth felly hyd nes y deuthum allan o’r goedwig ar ffordd Dinas Mawddwy. Tybed a oeddwn yn rhy ddiniwed wrth feddwl ei fod yn fy adnabod, a’i fod yntau fel un arall o ‘adar’ Dyffryn Nantlle yno ar ei wyliau, a’i fod yn un o’r adar a oedd yn bwyta bwyd y c^wn yn y gaeaf? Pwy a ŷr ynte?  Gresynaf na fu i mi ddiolch iddo am ei gân y diwrnod hwnnw.  

===== Boda =====
===== Boda =====
Llinell 163: Llinell 163:
===== Pela’r Helyg =====
===== Pela’r Helyg =====
Aderyn bychan ac iddo gynffon hir.
Aderyn bychan ac iddo gynffon hir.
===== Pia Bach =====
Aderyn bychan eto, ei gefn yn llwydlas, ei frest yn laswyn, a llinell ddu ar draws ei lygaid.  Aderyn yr haf.
===== Pibydd y Coed =====
Ymwelydd misoedd y haf.
===== Pibydd y Dŵr ===== a
===== Pibydd y Graig =====
Mae y ddau aderyn yma yn debyg iawn i’w gilydd ac yn fwy na Pibydd y Coed a’r Ehedydd. Gwelais un ohonynt ar lan Llyn Bryn Meirch y dydd o’r blaen.
===== Pioden =====
Aderyn lluosog iawn tua’r un maintioli â’r frân. Gorffen ei nyth ar goed drain gan amlaf, a hynny cyn i’r goeden ddeilio. Wedi iddi ddeilio ni ddichon gweld y nyth.  Mae’n rhaid gwylio hon hefyd ar dymor geni ŵyn: mae yn un o’u prif ladron.
===== Robin Goch =====
Dyma, mae’n debyg, anwylyd pob teulu.
===== Siglen Las =====
Bu ceiliog un gaeaf yn pigo ar ffenestr ein tŷy ni am rai dyddiau ac yn y gwanwyn gwelais ef ar asgell y car yn ymladd â’i lun yn y drych.
===== Sigl-i-gwt =====
Byddaf yn hoff iawn o’r aderyn yma a daw ar riniog y drws i ymofyn bwyd.
===== Sgrech =====
Dyma’r enw a glywais i erioed am yr aderyn yma, ond gelwir ef yn Dresglen gan rai. Mae ychydig yn fwy na’r aderyn du a’i big ychydig yn fwy er iddo allu ei wthio i’r ddaear i chwilio am ei fwyd.  Gwyliwn un ar ddeg ohonynt un diwrnod yn niwedd Awst 1972, yn y cae nepell o ben allt Drws-y-coed. Hawdd canfod eu bod hwythau yn fy ngwylio innau. Trannoeth, yn yr un fan, yr oedd o leiaf hanner cant ohonynt. Cofiaf nyth Sgrech ar goeden yn ymyl Capel Drws-y-coed, a dringodd un o’r bechgyn i fyny ato. Pan oedd bron â’i gyrraedd daeth yr aderyn o gyfeiriad y graig gyferbyn, aeth heibio ei ben yn beryglus o agos, ac amlwg iddo gael dychryn.
===== Siglen Lwyd =====
Aderyn tebyg iawn i Sigl-i-Gwt a Brith y Fuches.
===== Tingoch =====
Gwelaf yr aderyn yma bob gwanwyn yn prysur gasglu deunydd i wneud ei nyth o gwmpas adfeilion y gwaith copr.
===== Tinwen y Garreg =====
Bydd y rhai hyn yn uchel hyd lethrau’r ffriddoedd a’r mynydd. Ei ben yn ddu gyda smotyn gwyn a’i fron yn wyn a gwawr goch drwyddi, a phen ei gynffon yn wyn.
===== Titw Tomos Las =====
Aderyn bychan eto. Ei adenydd, ei gynffon a chopa ei ben o liw glas a gweddill ei gorff yn llwyd a gwyn.
===== Titw Tomos Las Mawr =====
Bydd hwn gyda ni drwy’r flwyddyn. Mae yn aderyn hardd a hoff yw o fod o gwmpas y tŷy.
===== Trochwr =====
Fel y dynoda ei enw, aderyn y dŵr yw ac ni chrwydra ymhell oddi wrth afon. Aderyn o liw du gyda brest wen a chynffon fer ganddo.
===== Troellwr =====
Pan oeddwn yn hogyn, clywn hwn yn canu yn nhir y Gelli, yng nghefn Capel Drws-y-coed. Canai ei g&#acirc;n undonog am oriau gyda’r nos yn ystod yr haf.  Ni chlywais ef byth er hynny.
===== Tylluan Fach =====
Gwelais hon gyntaf erioed yn clwydo ar goeden griafol. Ei lliw yn unlliw bron â lliw rhisgl y goeden lle y clwydai. Clwyda yn aml ar wifren drydan ac fe’i gwelir allan yn aml yn ystod y dydd.
===== Ydfran =====
Credaf mai nid celwydd yw dweud y byddai miloedd o ydfrain i’w cael yn y coed uchel o gwmpas Plas Tal-y-sarn gynt.  Gresyn bod lliw hon yn ddu, oherwydd yr wyf yn sicr ei bod o werth mawr i amaethwyr ond gan ei bod yn anodd ei hadnabod rhagor na brân dyddyn y mae cannoedd ohonynt wedi cael eu saethu yn flynyddol. A brain coesgoch hefyd o ran hynny.  Cofiaf weld cannoedd o ydfrain yn dod yn rheolaidd o gyfeiriad Nantlle yn foreol, ac yn mynd ar dir garw ar ochr y mynydd i grafu am fwyd, ac o’r herwydd yn llacio tir caled y mynydd cyn dychwelyd drachefn gyda’r nos yn drefnus. Gwrandewais droeon ar drwst eu clebran o goed Plas Tal-y-sarn, a’r rheswm pennaf am y twrw oedd na all ydfran (mwy nag unrhyw aderyn arall o ran hynny), pan a fydd yn clwydo, oddef pen y frân agosaf ati i edrych yr un ffordd â hi. Felly, cyn y ceir tawelwch rhaid i’r brain fod yn edrych i gyfeiriad gwahanol bob yn ail o hyd.
Un gyda’r nos, ychydig amser yn ôl, euthum draw ar dro heibio i goed yr hen Blas. Erys y coed o hyd i warchod yr adfeilion, ond nid oes yno mwyach ddim trwst ydfrain. Ac ni welais yr un nyth ychwaith. Gofynnais i mi fy hun i ba le yr aethant, tybed? Credaf, am eu bod mor hoff o gwmni pobl, iddynt ddiflannu o goed y Plas pan fu i’r chwareli llechi beidio gweithio.  A gwelaf beunydd ddarnau o fynydd-dir sydd wedi tystio i weithgarwch yr ydfrain gynt.  Bron na fu iddynt godi “daear las ar wyneb anial dir”.  Colled ar eu holau oherwydd gwnaent lawer iawn mwy o les na llanastr.
===== Ysguthan =====
Nytha rhai o’r ysguthanod o gwmpas yr ardal ac yn achlysurol deuai rhai ugeiniau ohonynt gyda’i gilydd i’r ardal.  Eleni (1972) ni chofiaf eu gweld o gwbl. Tybed fod a wnelo y gwanwyn oer a gafwyd rywbeth â hynny?
    Gwelais rai adar eraill o gwmpas yr ardal ond oherwydd eu bod yn wyllt ni allwn gael golwg iawn arnynt. Synnais a rhyfeddais lawer tro at gyfoeth yr ardal hon yn ei bywyd adaryddol.  A beio fy hun na fuaswn wedi sylwi arnynt ynghynt. ‘Roedd y ffurflen honno a ddaeth o’r Weinyddiaety Amaeth naw mlynedd yn ôl yn dwyn pleser digymysg i mi yn ei sgil, beth bynnag am ffurflenni eraill!

Fersiwn yn ôl 22:30, 3 Ionawr 2024

Adar Drws-y-coed

gan William Lloyd Williams yn 1972.

Ar fferm o’r enw Drws-y-coed Isaf y treuliais fy oes o’r bron. Hon yw y fferm uchaf yn Nyffryn Nantlle, a naw mlynedd yn ôl fe’i dewiswyd gan y Weinyddiaethy Amaeth (ac eraill yma ac acw ledled y sir), er iddynt gael rhyw amcan am luosogrwydd y pla yn y sir, a’u cynefin. Yr oedd amryw o gwestiynau ar ffurflen a rhai o’r cwestiynau hynny yn ymwneud ag adar. Daeth peth gwrid i’m hwyneb pan sylweddolais cyn lleied a wyddwn am fywyd oedd o’m cwmpas yn ddyddiol ond cododd hyn ddiddordeb mawr ynof ......

Mynnwch ddod i adnabod yr adar sydd yn eich hardal eich hun ac fe synnwch cymaint sydd yna ohonynt na fu i chwi erioed sylwi arnynt cynt. Rhai bach eu maint, rhai mwy, a rhai mawr, a’r cwbl tu hwnt i’ch dychymyg o hardd. ’Rwy’n sicr bod cymaint amrywiaeth mewn adar o fôr i fynydd yn Nyffryn Nantlle nag odid unrhyw fan a cheisiaf ddweud ychydig am yr adar a welais yng nghwr uchaf y Dyffryn.

Aderyn Du

Aderyn o’r un maintioli â’r fronfraith: ei liw yn ddu a phig melyn ganddo, ond yr iâr yn oleuach ei lliw. Hoffaf gân hwn hefyd.

Aderyn y To

Yn y flwyddyn 1916 yr oedd ugeiniau lawer o’r adar yma yn nythu yn y pileri cerrig a adeiladwyd i ddal cafnau oedd yn cario dŵr i droi olwynion y gwaith copr yn Nrws-y-coed. Yr un flwyddyn daeth peirianwyr o gwmni John Fowler o Leeds i wneud ychydig o waith ar dracsion y gwaith, a phob cyfle a gawsent byddent allan yn anelu am yr adar hyn gyda ffyn-taflu a cherrig. Ac er yr adeg hynny ni welwyd yr un aderyn y to yn Nrws-y-coed.

Asgell Goch

Gwelais hwn am y tro cyntaf erioed yn Nhachwedd 1970. Nid dyma y tro cyntaf iddo ddod yma o bosibl, ond yr adeg hynny bu i mi brynu ysbienddrych newtydd a bu hon yn gymorth mawr i mi i ddod i adnabod llawer o’r adar hyn. Ymwelydd y gaeaf yw hwn a gwelais ef laweroedd o weithiau yn ystod y gaeaf, gan amlaf yn bwyta ffrwythau drain gwynion. Ar ei ochrau y mae’r cochni, nid ar ei esgyll.

Asgell Fraith

Aderyn bychan hardd, yn enwedig y ceiliog. Un agos atoch, fel y byddem yn dweud, o’r braidd yn ddigywilydd weithiau. Ym misoedd y gaeaf bydd dwsin neu bymtheg ohonynt yn fy ngwylio yn paratoi bwyd i’r cŷn a deuant o fewn llai na dwylath i mi i fwyta ohono. Ond, chwarae teg iddynt, byddant sicr o dalu amdano gyda chân fach bert. Cerddwn un diwrnod o Ddolserau sydd oddeutu tair milltir o Ddolgellau, i fyny llwybr cul trwy goedwig yn ystod haf 1972. Tra’n cerdded trwy’r coed, o’m blaen ehedai un o’r adar hyn, o frigyn i frigyn rhyw ddegllath o’m blaen o hyd, a chanu yn soniarus. Gwnaeth felly hyd nes y deuthum allan o’r goedwig ar ffordd Dinas Mawddwy. Tybed a oeddwn yn rhy ddiniwed wrth feddwl ei fod yn fy adnabod, a’i fod yntau fel un arall o ‘adar’ Dyffryn Nantlle yno ar ei wyliau, a’i fod yn un o’r adar a oedd yn bwyta bwyd y c^wn yn y gaeaf? Pwy a ŷr ynte? Gresynaf na fu i mi ddiolch iddo am ei gân y diwrnod hwnnw.

Boda

Mae amryw ohonynt i’w gweld o gwmpas creigiau Drws-y-coed. Pan aiff boda yn hen ni chaiff aros gyda y rhai ieuanc a bydd eu hymddygiad tuag at yr oedranus yn greulon. Byddaf yn gweld hen foda yn ddyddiol yn llercian gyda gwaelodion y dyffryn. Mae cryn wahaniaeth yn lliw yr hen a’r ieuanc hefyd. Pan eheda yr hen foda drwy waelod y dyffryn yma gallaf weld ei gefn weithiau os digwydd i mi fod yn weddol uchel ar y llethrau. Byddaf yn ei weld yn debyg i liw côt frethyn cartref fy nhaid: wedi cochi braidd ac ôl blynyddoedd o wisgo arni.

Brân Goesgoch

Pan oeddwn hogyn ysgol yr oedd rhai cannoedd o’r brain hyn yn nythu ar Glogwyn Barcud ac er bod saethu yn aml yn y gwaith copr a’r mwynwyr yn cerdded ôl a blaen heibio iddynt ni chynhyrfai hynny ddim arnynt. Yr oedd yma ddigonedd o siafftiau wedi peidio â’u gweithio yn lleoedd wrth fodd eu calon i nythu ynddynt. Cofiaf un digwyddiad diddorol gyda’r brain coesgoch hyn. Llythyrgludydd o’r enw Dic, (Dic Tyddyn-bengam i bobl Drws-y-coed), yn dod ar ei feic yn ddyddiol o Ben-y-groes i Ddrws-y-coed ar bob tywydd. Dechreuai ddosbarthu llythyrau yn fferm Y Ffridd, Nantlle, ac yna i bob tŷ a fferm (os byddai llythyrau) hyd y dyffryn gan orffen yn y Tŷ Newydd oddeutu naw o’r gloch bob bore. Yna treuliai’r dydd mewn cwt bychan a wnaed ar ei gyfer yn Nrws-y-coed hyd bump o’r gloch, er cael mynd â’r llythyrau oedd yn cael eu hanfon o Ddrws-y-coed gydag ef. Un diwrnod aeth Dic gyda’i wn i dir y Gelli, yng nghefn Capel Drws-y-coed, lle yr arferai llawer o’r brain coesgoch ymgasglu yn ddyddiol. Saethodd i’w canol, ac er mor niferus oeddynt ni laddodd ond un ohonynt, ac aeth yno i’w chyrchu. Gydag iddo ei chodi, dyma weddill y brain yn bwrw eu hunain arno o’r awyr gan ei guro yn ei ben gyda’u hadenydd. Bu raid iddo roi ei gôt am ei ben a rhedeg i geisio cysgod.

Brân Dyddyn

Dyma, yn ddi-os, un o elynion mwyaf y ffermwr mynyddig, gan y gwna hon a’i chymheiriaid gymaint difrod ar dymor geni ŵyn. Bob amser yn bâr, byddant yn gwylio dafad yn geni oen, ac os na bydd y ddafad yn eithaf sydyn i godi at yr oen byddant wedi tynnu ei lygaid a thorri ymaith ei dafod. A phe byddai digwydd i’r ddafad fod yn wael a methu codi, ni phetrusant ddim cyn gwneud yr un peth iddi hithau.

Brân Lwyd

Mae gwddf a bron y frân yma yn llwyd. Gwelais hi gyntaf ryw bedair blynedd yn ôl, yn agos i ben allt Drws-y-coed. Bu ei hun am flwyddyn neu ddwy ac ni symudai fawr o’r lle. Ar ddiwedd 1970 gwelais iddi gael cymar ac yng ngwanwyn 1971 gwelais hwy yn nythu ar goeden fedw nepell o’r fan.

Bras yr ŷd

Aderyn hoff o’r wlad yw hwn. Gwelir ef ar dir uchel yn ogystal ag ar lan y môr.

Brych y Cae

Mae yr aderyn yma gyda ni gydol y flwyddyn ac yn y gaeaf gwelir ef yn bwyta gyda’r ieir.

Bronfraith

Ei chefn yn llwyd-ddu a’i bron o liw golau gyda gwawr felyn, ysmotiog. Un o’r cantorion gorau.

Caseg y Ddrycin

Dyma aderyn y gaeaf eto. Yn yr un amser ag y bu i mi weld yr Asgell Goch y gwelais hwn gyntaf hefyd. Safai ar ganol y cae gan wthio ei big i’r ddaear i chwilio am ei fwyd.

Cigfran

Mae y cigfrain wedi bod yn llawer mwy niferus nag ydynt heddiw. Deuant yn y bore o gyfeiriad clogwyni Drws-y-coed gan roi digon o rybudd i’r holl adar eraill eu bod yn dod. Gwelais gigfran yn gwrthod i wylan y môr fynd yn agos at Glogwyn y Garreg un tro. Bu herio maith cyn i’r wylan roi i fyny yr ymdrech.

Clegr y Garreg

Un arall o adar bychan. Ychydig o liw gwyn o gwmpas ei ben, a’i gynffon yn wyn. Gweddill ei gorff yn gochddu.

Cnocell y Cnau

Cynffon fer sydd gan hwn a phig miniog. Ei liw yn llwydlas ac oddi tano yn wyn gyda gwawr felyn. Pan oeddwn blentyn gwyddwn am nyth y gnocell mewn twll yn y wal gerrig a pharhaodd ei epil i nythu yn yr un lle am drigain mlynedd a mwy.

Cnocell y Coed

Dyma aderyn hardd: ei gefn y felynwyrdd a bôn ei gynffon yn felyn golau; ychydig o ddu o gwmpas ei lygaid a’i gorun yn goch. Tylla yn aml gyda’ibig cryf i bolion trydan a pholion teligraff yn ogystal â choed i chwilio am bryfetach.

Coch y Berllan

Gwelir hwn yn yr ardd ym mysg coed a llwyni.

Cog

Dyma, yn sicr, yr aderyn mwyaf poblogaidd, hwyrach am fod ei thymor gyda ni mor fyr, a’i chân mor soniarus. Pan ddaw’r gwanwyn, ychydig o bobl a ofyn: “A welsoch chi wennol?” o gymharu â’r nifer a ofyn “A glywsoch chi’r gog?” A llawenydd i lawer yw cael byw i glywed y gog.

Corfran

Aderyn mawr. Mae iddo big hir a thro at i lawr yn ei flaen. Ei liw yn ddu, ac eithrio mymryn o wyn o bobtu ei ben.

Corhwyaden

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma gwelais amryw o’r rhai hyn ar Lyn y Dywarchen ac ar Lyn Bryn Meirch, a dyma yr hwyaden leiaf yn Iwrop. Ni wn y rheswm paham, ond ni welais yr un yn 1972.

Cornchwiglen

Dyma aderyn eto na welir ond ychydig iawn ohonynt; Nytha’r aderyn ar lawr ynghanol gwellt hir mewn lle corsiog. Gedy y cywion y nyth ychydig oriau wedi deori.

Cotiar

Ei lliw yn ddu ac eithrio y talcen, sydd yn wyn. Hoffa lennydd llynnoedd.

Creyr Glas

Er na all nofio, mae wedi ei wneud i bysgota. Ei goesau hirion yn ei alluogi i gerdded i ddŵr dyfn llyn neu afon. Ei liw o liw dŵr, a’i allu i sefyll yn berffaith lonydd yn twyllo pysgod, a deuant yn ddiarwybod megis, o gwmpas ei draed. Dyma hefyd un o arwyddion sicraf o’r tywydd. Os gwelwch y creyr glas yn hedfan i’r gogledd bydd yn mynd i “agor y fflodiart”, sef arwydd sicr o law. Os hedfan i’r deau, croes i hynny.

Cudyll Coch

Aderyn ysglyfaethus ond aderyn hardd iawn er hynny. Gwelais ef yn ymlid colomen ddof ac âi honno i rywle oddi ar ei ffordd, i hen feudai neu gyffelyb gan aros yno ddyddiau cyn ailymddangos. Gwna ei nyth ar astell craig.

Cudyll Glas

Un llwydlas yw hwn. Beth amser yn ôl awn heibio i iâr a deg o gywion bach ganddi ar fuarth y fferm. Pan oeddwn oddeutu dwylath i’r iâr a’r cywion daeth un o’r adar yma i lawr o’r ffurfafen a gafael yn un o’r cywion. Cododd ef gryn deirllath o’r llawr cyn ei ollwng drachefn yn ddianaf. Rhaid bod ei lygaid ar yr un cyw hwnnw ar ei ffordd i’r ddaear ac iddo wedyn ei ollwng yn ei ddychryndod o fy ngweld.

Cyffylog

Un o’r adar anoddaf i’w weld yw hwn. Y tro olaf y gwelais un yr oedd gryn bellter i ffwrdd ar frigyn uchaf y goeden.

Dryw

Un o’r adar lleiaf ac fe’i gwelir ym mhob man. Mae gyda ni gydol y flwyddyn a champwaith yw ei nyth.

Ehedydd

Gwelais nyth hwn yn uchel iawn ar y mynydd.

Ehedydd y Coed

Mae hwn eto wrth ei fodd ar dir uchel.

Glas y Dorlan

Unwaith erioed y gwelais yr aderyn yma yn Nrws-y-coed.

Golfan y Mynydd

Aderyn bychan yw hwn gyda phig pur lydan.

Grugiar

Dywed ei henw lle y mae ei chynefin. Mae amryw ohonynt o gwmpas y ffriddoedd hyn.

Gwas y Gog

Nytha hwn ar lawr a chuddia ei nyth yn ddeheuig mewn gwellt neu wair hir. Er hynny mae y gog yn siŵr o ddod o hyd i’w nyth a dodwy ei ŵy ei hun ynddo.

Gwennol

Dyma i mi aderyn na all yr un aderyn arall gymharu â hi am ehedeg. Mae ychydig o gochni o gwmpas ei phig ac y mae iddi gynffon main, hir.

Gwennol Ddu

Collais gryn dipyn o amser yn gwylio hon hefyd yn hedfan o gwmpas yn ystod yr wythnosau braf hynny ddiwedd Awst a dechrau Medi 1972. Colled fawr i bobl y trefi yw nad ydynt yn gweld y gwenoliaid gan mai adar y wlad ydynt. Ac ymwelwyr yr haf hefyd.

Gwennol y Bondo

Dyma aderyn sydd yn feistr ar wneud nyth. Clai a gwellt yw’r defnyddiau crai, a glyn y cyfryw o dan y bondo heb na sgriw na hoelen. Rhyfeddol eu diwydrwydd yn cario cymaint o ddefnydd mewn pig mor fychan.

Gwyach Fach

Er bod hon yn ymddangos yn debyg i hwyaden, ni pherthyn ddim iddi ac mae ei phig yn wahanol. Mae ychydig o wyn ar ei phig ac nid oes ganddi ddim cynffon.

Gwylan Fach Benddu

Yn y flwyddyn 1968 daeth ychydig o’r gwylanod yma i’r ynys sydd ar Lyn y Dywarchen. Er yr adeg hynny deuant yn flynyddol ddechrau mis Mawrth a nythant yno, dodwy, deori yr wyau a magu eu cywion hyd nes byddant yn ddigon mawr i ehedeg.

Gwylan Fôr

Dyma aderyn ysglyfaethus iawn. Ei lliw yn ei blwyddyn gyntaf yn fudr-frown. Yn ei hail flwyddyn bydd wedi newid yn hollol: ei chefn a’i hadenydd erbyn hyn yn llwydlas ac ychydig o ddu ar flaen ei hadain, ei chynffon yn wyn yn ogystal â’i phen a’i gwddf, a’i phig a’i choesau yn felyngoch.

Gylfinir

Ychydig sydd o gwmpas erbyn hyn. Mae iddynt big hir er iddynt allu hel eu bwyd o waelodion hen ffosydd neu gyffelyb. Gwnant eu nyth yn bur ddi-lun ar y llawr, heb fawr o gysgod iddo. Cofiaf ddod ar draws eu nyth un tro a phedwar o wyau ynddo. Er ceisio cadw gwyliadwriaeth arno diflannodd yr wyau. Hwyrach mai dyna’r rheswm pennaf eu bod yn lleihau mewn nifer.

Hwyaden Wyllt

Dyma un o gyfeillion gorau amaethwyr. Maent yn difa cymaint o falwod a’r rheiny yw lloches ar gylch bywyd y pryfyn bach a gynhyrchai “ffliwc” ar ddefaid a gwartheg. Mae eu gelynion yn lluosog a dyn yw eu gelyn pennaf er eu cael fel danteithfwyd. Mae y ceiliog yn aderyn hardd odiaeth: ei ben yn wyrdd ac ychydig ddu yn gymysg; cylch gwyn cul o gylch ei wddf, ei fron yn lasgoch gydag ychydig o frown ac o gwmpas bôn ei gynffon yn ddu.

Iar Ddwr

Aderyn a ddaw yma yn yr haf yw hwn a gwna ei nyth heb fod ymhell oddi wrth lyn neu afon.

Ieir Mynydd

Maent yn lluosog iawn ar y Mynydd Mawr.

Jac-y-do

Aderyn lleol yw Jac-y-do, er na welais yr un erioed yn Nrws-y-coed. Ond ychydig is i lawr y dyffryn mae llawer ohonynt.

Llinos

Hoffa yr aderyn bychan hwn y grug, corsdiroedd a thir garw.

Llinos Benfelyn

Mae’r aderyn yma yn aros gyda ni gydol y flwyddyn.

Llinos y Mynydd

Aderyn bychan, a’i gynefin ar ochrau y mynyddoedd.

Llwydfron Fach

Aderyn eto sydd yn caru’r mynydd-dir uchel. Ymwelydd dros dymor haf.

Mwyalchen Mynydd

Fel yr awgryma yr enw, ar fynydd-dir y mae eu cynefin ac yn ystod yr haf maent yn lluosog iawn ar lethrau Mynydd Mawr. Mae o faintioli y ‘ ‘ Deryn Du ‘ ‘ a’i liw yn ddu gydag ychydig o ysmtiau cochddu trwyddo, a’i fron yn wyn.

Nico

Gofidiais lawer am nad oedd yr ysbienddrych gennyf er cael golwg iawn ar hwn.

Pela’r Helyg

Aderyn bychan ac iddo gynffon hir.

Pia Bach

Aderyn bychan eto, ei gefn yn llwydlas, ei frest yn laswyn, a llinell ddu ar draws ei lygaid. Aderyn yr haf.

Pibydd y Coed

Ymwelydd misoedd y haf.

===== Pibydd y Dŵr ===== a

Pibydd y Graig

Mae y ddau aderyn yma yn debyg iawn i’w gilydd ac yn fwy na Pibydd y Coed a’r Ehedydd. Gwelais un ohonynt ar lan Llyn Bryn Meirch y dydd o’r blaen.

Pioden

Aderyn lluosog iawn tua’r un maintioli â’r frân. Gorffen ei nyth ar goed drain gan amlaf, a hynny cyn i’r goeden ddeilio. Wedi iddi ddeilio ni ddichon gweld y nyth. Mae’n rhaid gwylio hon hefyd ar dymor geni ŵyn: mae yn un o’u prif ladron.

Robin Goch

Dyma, mae’n debyg, anwylyd pob teulu.

Siglen Las

Bu ceiliog un gaeaf yn pigo ar ffenestr ein tŷy ni am rai dyddiau ac yn y gwanwyn gwelais ef ar asgell y car yn ymladd â’i lun yn y drych.

Sigl-i-gwt

Byddaf yn hoff iawn o’r aderyn yma a daw ar riniog y drws i ymofyn bwyd.

Sgrech

Dyma’r enw a glywais i erioed am yr aderyn yma, ond gelwir ef yn Dresglen gan rai. Mae ychydig yn fwy na’r aderyn du a’i big ychydig yn fwy er iddo allu ei wthio i’r ddaear i chwilio am ei fwyd. Gwyliwn un ar ddeg ohonynt un diwrnod yn niwedd Awst 1972, yn y cae nepell o ben allt Drws-y-coed. Hawdd canfod eu bod hwythau yn fy ngwylio innau. Trannoeth, yn yr un fan, yr oedd o leiaf hanner cant ohonynt. Cofiaf nyth Sgrech ar goeden yn ymyl Capel Drws-y-coed, a dringodd un o’r bechgyn i fyny ato. Pan oedd bron â’i gyrraedd daeth yr aderyn o gyfeiriad y graig gyferbyn, aeth heibio ei ben yn beryglus o agos, ac amlwg iddo gael dychryn.

Siglen Lwyd

Aderyn tebyg iawn i Sigl-i-Gwt a Brith y Fuches.

Tingoch

Gwelaf yr aderyn yma bob gwanwyn yn prysur gasglu deunydd i wneud ei nyth o gwmpas adfeilion y gwaith copr.

Tinwen y Garreg

Bydd y rhai hyn yn uchel hyd lethrau’r ffriddoedd a’r mynydd. Ei ben yn ddu gyda smotyn gwyn a’i fron yn wyn a gwawr goch drwyddi, a phen ei gynffon yn wyn.

Titw Tomos Las

Aderyn bychan eto. Ei adenydd, ei gynffon a chopa ei ben o liw glas a gweddill ei gorff yn llwyd a gwyn.

Titw Tomos Las Mawr

Bydd hwn gyda ni drwy’r flwyddyn. Mae yn aderyn hardd a hoff yw o fod o gwmpas y tŷy.

Trochwr

Fel y dynoda ei enw, aderyn y dŵr yw ac ni chrwydra ymhell oddi wrth afon. Aderyn o liw du gyda brest wen a chynffon fer ganddo.

Troellwr

Pan oeddwn yn hogyn, clywn hwn yn canu yn nhir y Gelli, yng nghefn Capel Drws-y-coed. Canai ei g&#acirc;n undonog am oriau gyda’r nos yn ystod yr haf. Ni chlywais ef byth er hynny.

Tylluan Fach

Gwelais hon gyntaf erioed yn clwydo ar goeden griafol. Ei lliw yn unlliw bron â lliw rhisgl y goeden lle y clwydai. Clwyda yn aml ar wifren drydan ac fe’i gwelir allan yn aml yn ystod y dydd.

Ydfran

Credaf mai nid celwydd yw dweud y byddai miloedd o ydfrain i’w cael yn y coed uchel o gwmpas Plas Tal-y-sarn gynt. Gresyn bod lliw hon yn ddu, oherwydd yr wyf yn sicr ei bod o werth mawr i amaethwyr ond gan ei bod yn anodd ei hadnabod rhagor na brân dyddyn y mae cannoedd ohonynt wedi cael eu saethu yn flynyddol. A brain coesgoch hefyd o ran hynny. Cofiaf weld cannoedd o ydfrain yn dod yn rheolaidd o gyfeiriad Nantlle yn foreol, ac yn mynd ar dir garw ar ochr y mynydd i grafu am fwyd, ac o’r herwydd yn llacio tir caled y mynydd cyn dychwelyd drachefn gyda’r nos yn drefnus. Gwrandewais droeon ar drwst eu clebran o goed Plas Tal-y-sarn, a’r rheswm pennaf am y twrw oedd na all ydfran (mwy nag unrhyw aderyn arall o ran hynny), pan a fydd yn clwydo, oddef pen y frân agosaf ati i edrych yr un ffordd â hi. Felly, cyn y ceir tawelwch rhaid i’r brain fod yn edrych i gyfeiriad gwahanol bob yn ail o hyd. Un gyda’r nos, ychydig amser yn ôl, euthum draw ar dro heibio i goed yr hen Blas. Erys y coed o hyd i warchod yr adfeilion, ond nid oes yno mwyach ddim trwst ydfrain. Ac ni welais yr un nyth ychwaith. Gofynnais i mi fy hun i ba le yr aethant, tybed? Credaf, am eu bod mor hoff o gwmni pobl, iddynt ddiflannu o goed y Plas pan fu i’r chwareli llechi beidio gweithio. A gwelaf beunydd ddarnau o fynydd-dir sydd wedi tystio i weithgarwch yr ydfrain gynt. Bron na fu iddynt godi “daear las ar wyneb anial dir”. Colled ar eu holau oherwydd gwnaent lawer iawn mwy o les na llanastr.

Ysguthan