Adar Drws-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
Mynnwch ddod i adnabod yr adar sydd yn eich hardal eich hun ac fe synnwch cymaint sydd yna ohonynt na fu i chwi erioed sylwi arnynt cynt.  Rhai bach eu maint, rhai mwy, a rhai mawr, a’r cwbl tu hwnt i’ch dychymyg o hardd. ’Rwy’n sicr bod cymaint amrywiaeth mewn adar o fôr i fynydd yn Nyffryn Nantlle nag odid unrhyw fan a cheisiaf ddweud ychydig am yr adar a welais yng nghwr uchaf y Dyffryn.

===
 
===== Aderyn Du =====
===== Aderyn Du =====
Aderyn o’r un maintioli â’r fronfraith: ei liw yn ddu a phig melyn ganddo, ond yr iâr yn oleuach ei lliw. Hoffaf gân hwn hefyd.  

===== Aderyn y To =====
===== Aderyn y To =====
Yn y flwyddyn 1916 yr oedd ugeiniau lawer o’r adar yma yn nythu yn y pileri cerrig a adeiladwyd i ddal cafnau oedd yn cario dŵr i droi olwynion y gwaith copr yn Nrws-y-coed. Yr un flwyddyn daeth peirianwyr o gwmni John Fowler o Leeds i wneud ychydig o waith ar dracsion y gwaith, a phob cyfle a gawsent byddent allan yn anelu am yr adar hyn gyda ffyn-taflu a cherrig.  Ac er yr adeg hynny ni welwyd yr un aderyn y to yn Nrws-y-coed.

===== Asgell Goch =====
Gwelais hwn am y tro cyntaf erioed yn Nhachwedd 1970. Nid dyma y tro cyntaf iddo ddod yma o bosibl, ond yr adeg hynny bu i mi brynu ysbienddrych newtydd a bu hon yn gymorth mawr i mi i ddod i adnabod llawer o’r adar hyn. Ymwelydd y gaeaf yw hwn a gwelais ef laweroedd o weithiau yn ystod y gaeaf, gan amlaf yn bwyta ffrwythau drain gwynion.  Ar ei ochrau y mae’r cochni, nid ar ei esgyll.
 
===== Asgell Fraith =====
Aderyn bychan hardd, yn enwedig y ceiliog. Un agos atoch, fel y byddem yn dweud, o’r braidd yn ddigywilydd weithiau. Ym misoedd y gaeaf bydd dwsin neu bymtheg ohonynt yn fy ngwylio yn paratoi bwyd i’r cŷn a deuant o fewn llai na dwylath i mi i fwyta ohono.  Ond, chwarae teg iddynt, byddant sicr o dalu amdano gyda chân fach bert.                                                                                                                                       
Cerddwn un diwrnod o Ddolserau sydd oddeutu tair milltir o Ddolgellau, i fyny llwybr cul trwy goedwig yn ystod haf 1972.  Tra’n cerdded trwy’r coed, o’m blaen ehedai un o’r adar hyn, o frigyn i frigyn rhyw ddegllath o’m blaen o hyd, a chanu yn soniarus. Gwnaeth felly hyd nes y deuthum allan o’r goedwig ar ffordd Dinas Mawddwy. Tybed a oeddwn yn rhy ddiniwed wrth feddwl ei fod yn fy adnabod, a’i fod yntau fel un arall o ‘adar’ Dyffryn Nantlle yno ar ei wyliau, a’i fod yn un o’r adar a oedd yn bwyta bwyd y cŷn yn y gaeaf? Pwy a ŷr ynte?  Gresynaf na fu i mi ddiolch iddo am ei gân y diwrnod hwnnw.
 
===== Boda =====
Mae amryw ohonynt i’w gweld o gwmpas creigiau Drws-y-coed. Pan aiff boda yn hen ni chaiff aros gyda y rhai ieuanc a bydd eu hymddygiad tuag at yr oedranus yn greulon. Byddaf yn gweld hen foda yn ddyddiol yn llercian gyda gwaelodion y dyffryn. Mae cryn wahaniaeth yn lliw yr hen a’r ieuanc hefyd. Pan eheda yr hen foda drwy waelod y dyffryn yma gallaf weld ei gefn weithiau os digwydd i mi fod yn weddol uchel ar y llethrau. Byddaf yn ei weld yn debyg i liw côt frethyn cartref fy nhaid:  wedi cochi braidd ac ôl blynyddoedd o wisgo arni.
===== Brân Goesgoch =====
Pan oeddwn hogyn ysgol yr oedd rhai cannoedd o’r brain hyn yn nythu ar Glogwyn Barcud ac er bod saethu yn aml yn y gwaith copr a’r mwynwyr yn cerdded  ôl a blaen heibio iddynt ni chynhyrfai hynny ddim arnynt. Yr oedd yma ddigonedd o siafftiau wedi peidio â’u gweithio  yn lleoedd wrth fodd eu calon i nythu ynddynt. Cofiaf un digwyddiad diddorol gyda’r brain coesgoch hyn.  Llythyrgludydd o’r enw Dic, (Dic Tyddyn-bengam i bobl Drws-y-coed), yn dod ar ei feic yn ddyddiol o Ben-y-groes i Ddrws-y-coed ar bob tywydd. Dechreuai ddosbarthu llythyrau yn fferm Y Ffridd, Nantlle, ac yna i bob tŷ a fferm (os byddai llythyrau) hyd y dyffryn gan orffen yn y Tŷ Newydd oddeutu naw o’r gloch bob bore. Yna treuliai’r dydd mewn cwt bychan a wnaed ar ei gyfer yn Nrws-y-coed hyd bump o’r gloch, er cael mynd â’r llythyrau oedd yn cael eu hanfon o Ddrws-y-coed gydag ef. Un diwrnod aeth Dic gyda’i wn i dir y Gelli, yng nghefn Capel Drws-y-coed, lle yr arferai llawer o’r brain coesgoch ymgasglu yn ddyddiol. Saethodd i’w canol, ac er mor niferus oeddynt ni laddodd ond un ohonynt, ac aeth yno i’w chyrchu. Gydag iddo ei chodi, dyma weddill y brain yn bwrw eu hunain arno o’r awyr gan ei guro yn ei ben gyda’u hadenydd. Bu raid iddo roi ei gôt am ei ben a rhedeg i geisio cysgod.
 
===== Brân Dyddyn =====
Dyma, yn ddi-os, un o elynion mwyaf y ffermwr mynyddig, gan y gwna hon a’i chymheiriaid gymaint difrod ar dymor geni ŵyn.  Bob amser yn bâr, byddant yn gwylio dafad yn geni oen, ac os na bydd y ddafad yn eithaf sydyn i godi at yr oen byddant wedi tynnu ei lygaid a thorri ymaith ei dafod. A phe byddai digwydd i’r ddafad fod yn wael a methu codi, ni phetrusant ddim cyn gwneud yr un peth iddi hithau.
 
===== Brân Lwyd =====
Mae gwddf a bron y frân yma yn llwyd. Gwelais hi gyntaf ryw bedair blynedd yn ôl, yn agos i ben allt Drws-y-coed.  Bu ei hun am flwyddyn neu ddwy ac ni symudai fawr o’r lle. Ar ddiwedd 1970 gwelais iddi gael cymar ac yng ngwanwyn 1971 gwelais hwy yn nythu ar goeden fedw nepell o’r fan.
 
===== Bras yr ŷd =====
Aderyn hoff o’r wlad yw hwn.  Gwelir ef ar dir uchel yn ogystal ag ar lan y môr.
 
===== Brych y Cae =====
Mae yr aderyn yma gyda ni gydol y flwyddyn ac yn y gaeaf gwelir ef yn bwyta gyda’r ieir.
 
===== Bronfraith =====
Ei chefn yn llwyd-ddu a’i bron o liw golau gyda gwawr felyn, ysmotiog. Un o’r cantorion gorau.
 
===== Caseg y Ddrycin =====
Dyma aderyn y gaeaf eto. Yn yr un amser ag y bu i mi weld yr Asgell Goch y gwelais hwn gyntaf hefyd.  Safai ar ganol y cae gan wthio ei big i’r ddaear i chwilio am ei fwyd.
===== Cigfran =====
Mae y cigfrain wedi bod yn llawer mwy niferus nag ydynt heddiw.  Deuant yn y bore o gyfeiriad clogwyni Drws-y-coed gan roi digon o rybudd i’r holl adar eraill eu bod yn dod. Gwelais gigfran yn gwrthod i wylan y môr fynd yn agos at Glogwyn y Garreg un tro.  Bu herio maith cyn i’r wylan roi i fyny yr ymdrech.
 
===== Clegr y Garreg =====
Un arall o adar bychan. Ychydig o liw gwyn o gwmpas ei ben, a’i gynffon yn wyn. Gweddill ei gorff yn gochddu.
 
===== Cnocell y Cnau =====
Cynffon fer sydd gan hwn a phig miniog. Ei liw yn llwydlas ac oddi tano yn wyn gyda gwawr felyn. Pan oeddwn blentyn gwyddwn am nyth y gnocell mewn twll yn y wal gerrig a pharhaodd ei epil i nythu yn yr un lle am drigain mlynedd a mwy.
 
===== Cnocell y Coed =====
Dyma aderyn hardd:  ei gefn y felynwyrdd a bôn ei gynffon yn felyn golau; ychydig o ddu o gwmpas ei lygaid a’i gorun yn goch. Tylla yn aml gyda’ibig cryf i bolion trydan a pholion teligraff yn ogystal â choed i chwilio am bryfetach.
 
===== Coch y Berllan =====
Gwelir hwn yn yr ardd ym mysg coed a llwyni.
 
===== Cog =====
Dyma, yn sicr, yr aderyn mwyaf poblogaidd, hwyrach am fod ei thymor gyda ni mor fyr, a’i chân mor soniarus.  Pan ddaw’r gwanwyn, ychydig o bobl a ofyn: “A welsoch chi wennol?” o gymharu â’r nifer a ofyn “A glywsoch chi’r gog?”  A llawenydd i lawer yw cael byw i glywed y gog.
 
===== Corfran =====
Aderyn mawr.  Mae iddo big hir a thro at i lawr yn ei flaen. Ei liw yn ddu, ac eithrio mymryn o wyn o bobtu ei ben.
 
===== Corhwyaden =====
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma gwelais amryw o’r rhai hyn ar Lyn y Dywarchen ac ar Lyn Bryn Meirch, a dyma yr hwyaden leiaf yn Iwrop.  Ni wn y rheswm paham, ond ni welais yr un yn 1972.
 
===== Cornchwiglen =====
Dyma aderyn eto na welir ond ychydig iawn ohonynt; Nytha’r aderyn ar lawr ynghanol gwellt hir mewn lle corsiog. Gedy y cywion y nyth ychydig oriau wedi deori.
 
===== Cotiar =====
Ei lliw yn ddu ac eithrio y talcen, sydd yn wyn.  Hoffa lennydd llynnoedd.
 
===== Creyr Glas =====
Er na all nofio, mae wedi ei wneud i bysgota.  Ei goesau hirion yn ei alluogi i gerdded i ddŵr dyfn llyn neu afon. Ei liw o liw dŵr, a’i allu i sefyll yn berffaith lonydd yn twyllo pysgod, a deuant yn ddiarwybod megis, o gwmpas ei draed.  Dyma hefyd un o arwyddion sicraf o’r tywydd.  Os gwelwch y creyr glas yn hedfan i’r gogledd bydd yn mynd i “agor y fflodiart”, sef arwydd sicr o law.  Os hedfan i’r deau, croes i hynny.
 
===== Cudyll Coch =====
Aderyn ysglyfaethus ond aderyn hardd iawn er hynny.  Gwelais ef yn ymlid colomen ddof ac âi honno i rywle oddi ar ei ffordd, i hen feudai neu gyffelyb gan aros yno ddyddiau cyn ailymddangos. Gwna ei nyth ar astell craig.
 
===== Cudyll Glas =====
Un llwydlas yw hwn. Beth amser yn ôl awn heibio i iâr a deg o gywion bach ganddi ar fuarth y fferm.  Pan oeddwn oddeutu dwylath i’r iâr a’r cywion daeth un o’r adar yma i lawr o’r ffurfafen a gafael yn un o’r cywion.  Cododd ef gryn deirllath o’r llawr cyn ei ollwng drachefn yn ddianaf. Rhaid bod ei lygaid ar yr un cyw hwnnw ar ei ffordd i’r ddaear ac iddo wedyn ei ollwng yn ei ddychryndod o fy ngweld.
 
===== Cyffylog =====
Un o’r adar anoddaf i’w weld yw hwn.  Y tro olaf y gwelais un yr oedd gryn bellter i ffwrdd ar frigyn uchaf y goeden.

Fersiwn yn ôl 21:39, 3 Ionawr 2024

Adar Drws-y-coed

gan William Lloyd Williams yn 1972.

Ar fferm o’r enw Drws-y-coed Isaf y treuliais fy oes o’r bron. Hon yw y fferm uchaf yn Nyffryn Nantlle, a naw mlynedd yn ôl fe’i dewiswyd gan y Weinyddiaethy Amaeth (ac eraill yma ac acw ledled y sir), er iddynt gael rhyw amcan am luosogrwydd y pla yn y sir, a’u cynefin. Yr oedd amryw o gwestiynau ar ffurflen a rhai o’r cwestiynau hynny yn ymwneud ag adar. Daeth peth gwrid i’m hwyneb pan sylweddolais cyn lleied a wyddwn am fywyd oedd o’m cwmpas yn ddyddiol ond cododd hyn ddiddordeb mawr ynof ......

Mynnwch ddod i adnabod yr adar sydd yn eich hardal eich hun ac fe synnwch cymaint sydd yna ohonynt na fu i chwi erioed sylwi arnynt cynt. Rhai bach eu maint, rhai mwy, a rhai mawr, a’r cwbl tu hwnt i’ch dychymyg o hardd. ’Rwy’n sicr bod cymaint amrywiaeth mewn adar o fôr i fynydd yn Nyffryn Nantlle nag odid unrhyw fan a cheisiaf ddweud ychydig am yr adar a welais yng nghwr uchaf y Dyffryn.

Aderyn Du

Aderyn o’r un maintioli â’r fronfraith: ei liw yn ddu a phig melyn ganddo, ond yr iâr yn oleuach ei lliw. Hoffaf gân hwn hefyd.

Aderyn y To

Yn y flwyddyn 1916 yr oedd ugeiniau lawer o’r adar yma yn nythu yn y pileri cerrig a adeiladwyd i ddal cafnau oedd yn cario dŵr i droi olwynion y gwaith copr yn Nrws-y-coed. Yr un flwyddyn daeth peirianwyr o gwmni John Fowler o Leeds i wneud ychydig o waith ar dracsion y gwaith, a phob cyfle a gawsent byddent allan yn anelu am yr adar hyn gyda ffyn-taflu a cherrig. Ac er yr adeg hynny ni welwyd yr un aderyn y to yn Nrws-y-coed.

Asgell Goch

Gwelais hwn am y tro cyntaf erioed yn Nhachwedd 1970. Nid dyma y tro cyntaf iddo ddod yma o bosibl, ond yr adeg hynny bu i mi brynu ysbienddrych newtydd a bu hon yn gymorth mawr i mi i ddod i adnabod llawer o’r adar hyn. Ymwelydd y gaeaf yw hwn a gwelais ef laweroedd o weithiau yn ystod y gaeaf, gan amlaf yn bwyta ffrwythau drain gwynion. Ar ei ochrau y mae’r cochni, nid ar ei esgyll.

Asgell Fraith

Aderyn bychan hardd, yn enwedig y ceiliog. Un agos atoch, fel y byddem yn dweud, o’r braidd yn ddigywilydd weithiau. Ym misoedd y gaeaf bydd dwsin neu bymtheg ohonynt yn fy ngwylio yn paratoi bwyd i’r cŷn a deuant o fewn llai na dwylath i mi i fwyta ohono. Ond, chwarae teg iddynt, byddant sicr o dalu amdano gyda chân fach bert. Cerddwn un diwrnod o Ddolserau sydd oddeutu tair milltir o Ddolgellau, i fyny llwybr cul trwy goedwig yn ystod haf 1972. Tra’n cerdded trwy’r coed, o’m blaen ehedai un o’r adar hyn, o frigyn i frigyn rhyw ddegllath o’m blaen o hyd, a chanu yn soniarus. Gwnaeth felly hyd nes y deuthum allan o’r goedwig ar ffordd Dinas Mawddwy. Tybed a oeddwn yn rhy ddiniwed wrth feddwl ei fod yn fy adnabod, a’i fod yntau fel un arall o ‘adar’ Dyffryn Nantlle yno ar ei wyliau, a’i fod yn un o’r adar a oedd yn bwyta bwyd y cŷn yn y gaeaf? Pwy a ŷr ynte? Gresynaf na fu i mi ddiolch iddo am ei gân y diwrnod hwnnw.

Boda

Mae amryw ohonynt i’w gweld o gwmpas creigiau Drws-y-coed. Pan aiff boda yn hen ni chaiff aros gyda y rhai ieuanc a bydd eu hymddygiad tuag at yr oedranus yn greulon. Byddaf yn gweld hen foda yn ddyddiol yn llercian gyda gwaelodion y dyffryn. Mae cryn wahaniaeth yn lliw yr hen a’r ieuanc hefyd. Pan eheda yr hen foda drwy waelod y dyffryn yma gallaf weld ei gefn weithiau os digwydd i mi fod yn weddol uchel ar y llethrau. Byddaf yn ei weld yn debyg i liw côt frethyn cartref fy nhaid: wedi cochi braidd ac ôl blynyddoedd o wisgo arni.

Brân Goesgoch

Pan oeddwn hogyn ysgol yr oedd rhai cannoedd o’r brain hyn yn nythu ar Glogwyn Barcud ac er bod saethu yn aml yn y gwaith copr a’r mwynwyr yn cerdded ôl a blaen heibio iddynt ni chynhyrfai hynny ddim arnynt. Yr oedd yma ddigonedd o siafftiau wedi peidio â’u gweithio yn lleoedd wrth fodd eu calon i nythu ynddynt. Cofiaf un digwyddiad diddorol gyda’r brain coesgoch hyn. Llythyrgludydd o’r enw Dic, (Dic Tyddyn-bengam i bobl Drws-y-coed), yn dod ar ei feic yn ddyddiol o Ben-y-groes i Ddrws-y-coed ar bob tywydd. Dechreuai ddosbarthu llythyrau yn fferm Y Ffridd, Nantlle, ac yna i bob tŷ a fferm (os byddai llythyrau) hyd y dyffryn gan orffen yn y Tŷ Newydd oddeutu naw o’r gloch bob bore. Yna treuliai’r dydd mewn cwt bychan a wnaed ar ei gyfer yn Nrws-y-coed hyd bump o’r gloch, er cael mynd â’r llythyrau oedd yn cael eu hanfon o Ddrws-y-coed gydag ef. Un diwrnod aeth Dic gyda’i wn i dir y Gelli, yng nghefn Capel Drws-y-coed, lle yr arferai llawer o’r brain coesgoch ymgasglu yn ddyddiol. Saethodd i’w canol, ac er mor niferus oeddynt ni laddodd ond un ohonynt, ac aeth yno i’w chyrchu. Gydag iddo ei chodi, dyma weddill y brain yn bwrw eu hunain arno o’r awyr gan ei guro yn ei ben gyda’u hadenydd. Bu raid iddo roi ei gôt am ei ben a rhedeg i geisio cysgod.

Brân Dyddyn

Dyma, yn ddi-os, un o elynion mwyaf y ffermwr mynyddig, gan y gwna hon a’i chymheiriaid gymaint difrod ar dymor geni ŵyn. Bob amser yn bâr, byddant yn gwylio dafad yn geni oen, ac os na bydd y ddafad yn eithaf sydyn i godi at yr oen byddant wedi tynnu ei lygaid a thorri ymaith ei dafod. A phe byddai digwydd i’r ddafad fod yn wael a methu codi, ni phetrusant ddim cyn gwneud yr un peth iddi hithau.

Brân Lwyd

Mae gwddf a bron y frân yma yn llwyd. Gwelais hi gyntaf ryw bedair blynedd yn ôl, yn agos i ben allt Drws-y-coed. Bu ei hun am flwyddyn neu ddwy ac ni symudai fawr o’r lle. Ar ddiwedd 1970 gwelais iddi gael cymar ac yng ngwanwyn 1971 gwelais hwy yn nythu ar goeden fedw nepell o’r fan.

Bras yr ŷd

Aderyn hoff o’r wlad yw hwn. Gwelir ef ar dir uchel yn ogystal ag ar lan y môr.

Brych y Cae

Mae yr aderyn yma gyda ni gydol y flwyddyn ac yn y gaeaf gwelir ef yn bwyta gyda’r ieir.

Bronfraith

Ei chefn yn llwyd-ddu a’i bron o liw golau gyda gwawr felyn, ysmotiog. Un o’r cantorion gorau.

Caseg y Ddrycin

Dyma aderyn y gaeaf eto. Yn yr un amser ag y bu i mi weld yr Asgell Goch y gwelais hwn gyntaf hefyd. Safai ar ganol y cae gan wthio ei big i’r ddaear i chwilio am ei fwyd.

Cigfran

Mae y cigfrain wedi bod yn llawer mwy niferus nag ydynt heddiw. Deuant yn y bore o gyfeiriad clogwyni Drws-y-coed gan roi digon o rybudd i’r holl adar eraill eu bod yn dod. Gwelais gigfran yn gwrthod i wylan y môr fynd yn agos at Glogwyn y Garreg un tro. Bu herio maith cyn i’r wylan roi i fyny yr ymdrech.

Clegr y Garreg

Un arall o adar bychan. Ychydig o liw gwyn o gwmpas ei ben, a’i gynffon yn wyn. Gweddill ei gorff yn gochddu.

Cnocell y Cnau

Cynffon fer sydd gan hwn a phig miniog. Ei liw yn llwydlas ac oddi tano yn wyn gyda gwawr felyn. Pan oeddwn blentyn gwyddwn am nyth y gnocell mewn twll yn y wal gerrig a pharhaodd ei epil i nythu yn yr un lle am drigain mlynedd a mwy.

Cnocell y Coed

Dyma aderyn hardd: ei gefn y felynwyrdd a bôn ei gynffon yn felyn golau; ychydig o ddu o gwmpas ei lygaid a’i gorun yn goch. Tylla yn aml gyda’ibig cryf i bolion trydan a pholion teligraff yn ogystal â choed i chwilio am bryfetach.

Coch y Berllan

Gwelir hwn yn yr ardd ym mysg coed a llwyni.

Cog

Dyma, yn sicr, yr aderyn mwyaf poblogaidd, hwyrach am fod ei thymor gyda ni mor fyr, a’i chân mor soniarus. Pan ddaw’r gwanwyn, ychydig o bobl a ofyn: “A welsoch chi wennol?” o gymharu â’r nifer a ofyn “A glywsoch chi’r gog?” A llawenydd i lawer yw cael byw i glywed y gog.

Corfran

Aderyn mawr. Mae iddo big hir a thro at i lawr yn ei flaen. Ei liw yn ddu, ac eithrio mymryn o wyn o bobtu ei ben.

Corhwyaden

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma gwelais amryw o’r rhai hyn ar Lyn y Dywarchen ac ar Lyn Bryn Meirch, a dyma yr hwyaden leiaf yn Iwrop. Ni wn y rheswm paham, ond ni welais yr un yn 1972.

Cornchwiglen

Dyma aderyn eto na welir ond ychydig iawn ohonynt; Nytha’r aderyn ar lawr ynghanol gwellt hir mewn lle corsiog. Gedy y cywion y nyth ychydig oriau wedi deori.

Cotiar

Ei lliw yn ddu ac eithrio y talcen, sydd yn wyn. Hoffa lennydd llynnoedd.

Creyr Glas

Er na all nofio, mae wedi ei wneud i bysgota. Ei goesau hirion yn ei alluogi i gerdded i ddŵr dyfn llyn neu afon. Ei liw o liw dŵr, a’i allu i sefyll yn berffaith lonydd yn twyllo pysgod, a deuant yn ddiarwybod megis, o gwmpas ei draed. Dyma hefyd un o arwyddion sicraf o’r tywydd. Os gwelwch y creyr glas yn hedfan i’r gogledd bydd yn mynd i “agor y fflodiart”, sef arwydd sicr o law. Os hedfan i’r deau, croes i hynny.

Cudyll Coch

Aderyn ysglyfaethus ond aderyn hardd iawn er hynny. Gwelais ef yn ymlid colomen ddof ac âi honno i rywle oddi ar ei ffordd, i hen feudai neu gyffelyb gan aros yno ddyddiau cyn ailymddangos. Gwna ei nyth ar astell craig.

Cudyll Glas

Un llwydlas yw hwn. Beth amser yn ôl awn heibio i iâr a deg o gywion bach ganddi ar fuarth y fferm. Pan oeddwn oddeutu dwylath i’r iâr a’r cywion daeth un o’r adar yma i lawr o’r ffurfafen a gafael yn un o’r cywion. Cododd ef gryn deirllath o’r llawr cyn ei ollwng drachefn yn ddianaf. Rhaid bod ei lygaid ar yr un cyw hwnnw ar ei ffordd i’r ddaear ac iddo wedyn ei ollwng yn ei ddychryndod o fy ngweld.

Cyffylog