Capten Robert Thomas, Llandwrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Robert Thomas''' (1843-1903) yn forwr ac yn gapten ar longau mawr ddiwedd yr oes hwylio. Hanai o bentref [[Llandwrog]], o deulu digon ddistadl, yn fab i saer coed, William Thomas a'i wraig Ruth, Tanlan. Cychwynodd ei yrfa ar y môr fel bachgen cabin ar un longau'r teulu Davies, Porthaethwy. Aeth ymlaen i fod yn un o gapteiniaid llongau hwylio mawr mwyaf llwyddiannus. Fo oedd yn dal y record am hwylio o Brydain i San Francisco ac yn ôl yn ei long y ''Merioneth''. Bu'n gapten hefyd ar un arall o longau enwocaf y cyfnod yng Ngogledd Cymru, yr ''Afon Alaw''.<ref>Emrys Hughes ac Aled Eames, ''Porthmadog Ships'', (Caernarfon, 1975),  t.122</ref> Llongau mawr oedd y rhain, ac er eu bod yn perthyn i Ogledd Cymru, hwylient fel arfer o ddociau Lerpwl, ac i'r ddinas honno aeth Robert Thomas i fyw. Diweddodd ei oes yn San Francisco yn 60 oed wedi capteinio ei long o gwmpas yr Horn.<ref>Lewis Lloys, ''The Port of Caernarfon, 1793-1900'',(Caernarfon, 1989), t.122</ref>  
Roedd '''Robert Thomas''' (1843-1903) yn forwr ac yn gapten ar longau mawr ddiwedd yr oes hwylio. Hanai o bentref [[Llandwrog]], o deulu digon distadl, yn fab i saer coed, William Thomas a'i wraig Ruth, Tanlan. Cychwynnodd ei yrfa ar y môr fel bachgen caban ar un longau'r teulu Davies, Porthaethwy (Treborth). Aeth ymlaen i fod yn un o'r capteiniaid mwyaf llwyddiannus ar longau hwylio mawr. Ef oedd yn dal y record am hwylio o Brydain i San Francisco ac yn ôl yn ei long y ''Merioneth''. Bu'n gapten hefyd ar un arall o longau enwocaf y cyfnod yng Ngogledd Cymru, yr ''Afon Alaw''.<ref>Emrys Hughes ac Aled Eames, ''Porthmadog Ships'', (Caernarfon, 1975),  t.122</ref> Llongau mawr oedd y rhain, ac er eu bod yn perthyn i Ogledd Cymru, hwylient fel rheol o ddociau Lerpwl, ac i'r ddinas honno yr aeth Robert Thomas i fyw. Diweddodd ei oes yn San Francisco yn 60 oed wedi capteinio ei long o gwmpas yr Horn.<ref>Lewis Lloyd, ''The Port of Caernarfon, 1793-1900'',(Caernarfon, 1989), t.122</ref>  


Mae cofiant iddo wedi ei gyhoeddi, sef Aled Eames, ''Ship Master'', (Caernarfon, 1980).  
Cyhoeddwyd cofiant iddo, sef Aled Eames, ''Ship Master'', (Caernarfon, 1980).  


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:56, 4 Rhagfyr 2023

Roedd Robert Thomas (1843-1903) yn forwr ac yn gapten ar longau mawr ddiwedd yr oes hwylio. Hanai o bentref Llandwrog, o deulu digon distadl, yn fab i saer coed, William Thomas a'i wraig Ruth, Tanlan. Cychwynnodd ei yrfa ar y môr fel bachgen caban ar un longau'r teulu Davies, Porthaethwy (Treborth). Aeth ymlaen i fod yn un o'r capteiniaid mwyaf llwyddiannus ar longau hwylio mawr. Ef oedd yn dal y record am hwylio o Brydain i San Francisco ac yn ôl yn ei long y Merioneth. Bu'n gapten hefyd ar un arall o longau enwocaf y cyfnod yng Ngogledd Cymru, yr Afon Alaw.[1] Llongau mawr oedd y rhain, ac er eu bod yn perthyn i Ogledd Cymru, hwylient fel rheol o ddociau Lerpwl, ac i'r ddinas honno yr aeth Robert Thomas i fyw. Diweddodd ei oes yn San Francisco yn 60 oed wedi capteinio ei long o gwmpas yr Horn.[2]

Cyhoeddwyd cofiant iddo, sef Aled Eames, Ship Master, (Caernarfon, 1980).

Cyfeiriadau

  1. Emrys Hughes ac Aled Eames, Porthmadog Ships, (Caernarfon, 1975), t.122
  2. Lewis Lloyd, The Port of Caernarfon, 1793-1900,(Caernarfon, 1989), t.122