Tafarn y Prince Llewelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Safai '''Tafarn y Prince Llewelyn''' ar ochr y lôn sydd yn arwain at bentref [[Tal-y-sarn]] o ganol [[Pen-y-groes]], nid nepell o'r hen dŷ tyrpeg. Fe'i hadeiladwyd ym 1867 gan J. Thomas y Parc. Erbyn 1869, roedd gan y Prince Llewelyn enw o fod yn lle a ganiateid i ddynion yfed gormod er eu lles eu hunain. Y flwyddyn honno, dirwywyd y trwyddedai, John Jones, am ganiatáu medd-dod yn y dafarn.<ref>''North Wales Chronicle'', 7.6.1879, t.7 | Safai '''Tafarn y Prince Llewelyn''' ar ochr y lôn sydd yn arwain at bentref [[Tal-y-sarn]] o ganol [[Pen-y-groes]], nid nepell o'r hen dŷ tyrpeg. Fe'i hadeiladwyd ym 1867 gan J. Thomas y Parc ar dir a brydleswyd gan [[Ystad Bryncir]]. Erbyn 1869, roedd gan y Prince Llewelyn enw o fod yn lle a ganiateid i ddynion yfed gormod er eu lles eu hunain. Y flwyddyn honno, dirwywyd y trwyddedai, John Jones, am ganiatáu medd-dod yn y dafarn.<ref>''North Wales Chronicle'', 7.6.1879, t.7</ref> | ||
Nid syndod oedd i'r ynadon fynnu cau'r dafarn - roedd hynny yng nghanol cyfnod mwyaf llewyrchus y mudiad dirwest, ac ar ben hynny, roedd y trwyddedai, William Hughes, yn cael trafferth efo'r diod gadarn. Fe'i dirwywyd gan ynadon Pwllheli, er | Oes fer oedd ganddi, gan i'r ynadon dynnu ei thrwydded yn ôl ym 1903. Erbyn hynny, roedd wedi mynd yn eiddo i'r bragwyr Greenall Whitley.<ref>''Gwalia'', 10.3.1903, t.8</ref> Nid syndod oedd i'r ynadon fynnu cau'r dafarn - roedd hynny yng nghanol cyfnod mwyaf llewyrchus y mudiad dirwest, ac ar ben hynny, roedd y trwyddedai, William Hughes, yn cael trafferth efo'r diod gadarn. Fe'i dirwywyd gan ynadon Pwllheli, er enghraifft, ym 1900 am fod yn chwil ac yn afreolus yn y dref honno.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 4.9.1900, t.8</ref> Digwyddodd yr un peth fis Tachwedd yr un flwyddyn, a hynny yn yr un dref.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 23.11.1900, t.8</ref> Dyddiau cyn i'r Llys Drwyddedu gael ei chynnal, dirwyodd ynadon Caernarfon William Hughes am fod yn chwil yn un o dafarnau'r dref.<ref>''Yr Herald Cynmraeg'', 3.3.1903, t.5</ref> Prin bod rhaid i'r ynadon feddwl ddwywaith am ei addasrwydd ar gyfer cadw tŷ cwrw! Ac wedi cau'r dafarn, roedd William Hughes yn dal i lychu ei big; ym 1908, fe'i cafwyd yn chwil ac yn afreolus yng Nghaernarfon.<ref>''Yr Herald Cymraeg, 1.12.1908, t.5</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Tafarndai]] | [[Categori:Tafarndai]] | ||
Fersiwn yn ôl 13:36, 10 Tachwedd 2023
Safai Tafarn y Prince Llewelyn ar ochr y lôn sydd yn arwain at bentref Tal-y-sarn o ganol Pen-y-groes, nid nepell o'r hen dŷ tyrpeg. Fe'i hadeiladwyd ym 1867 gan J. Thomas y Parc ar dir a brydleswyd gan Ystad Bryncir. Erbyn 1869, roedd gan y Prince Llewelyn enw o fod yn lle a ganiateid i ddynion yfed gormod er eu lles eu hunain. Y flwyddyn honno, dirwywyd y trwyddedai, John Jones, am ganiatáu medd-dod yn y dafarn.[1]
Oes fer oedd ganddi, gan i'r ynadon dynnu ei thrwydded yn ôl ym 1903. Erbyn hynny, roedd wedi mynd yn eiddo i'r bragwyr Greenall Whitley.[2] Nid syndod oedd i'r ynadon fynnu cau'r dafarn - roedd hynny yng nghanol cyfnod mwyaf llewyrchus y mudiad dirwest, ac ar ben hynny, roedd y trwyddedai, William Hughes, yn cael trafferth efo'r diod gadarn. Fe'i dirwywyd gan ynadon Pwllheli, er enghraifft, ym 1900 am fod yn chwil ac yn afreolus yn y dref honno.[3] Digwyddodd yr un peth fis Tachwedd yr un flwyddyn, a hynny yn yr un dref.[4] Dyddiau cyn i'r Llys Drwyddedu gael ei chynnal, dirwyodd ynadon Caernarfon William Hughes am fod yn chwil yn un o dafarnau'r dref.[5] Prin bod rhaid i'r ynadon feddwl ddwywaith am ei addasrwydd ar gyfer cadw tŷ cwrw! Ac wedi cau'r dafarn, roedd William Hughes yn dal i lychu ei big; ym 1908, fe'i cafwyd yn chwil ac yn afreolus yng Nghaernarfon.[6]