Arwerthiant Ffermydd Elusen Dr William Lewis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ddydd Gwener 3 Rhagfyr 1920 am 2.30pm yn yr Assembly Room, Stryd y Farchnad, Caernarfon, cynhaliwyd arwerthiant nifer o ffermydd a thiroedd ym mhlwyf Llanaelhaearn yn unol â chyfarwyddiadau Ymddiriedolwyr Elusen Dr William Lewis. Yn gweithredu ar ran yr elusen fel Asiant roedd Mr J. Roberts Williams, 14 Stryd y Farchnad Caernarfon a'r Cyfreithiwr oedd Mr John Williams, 5 Stryd y Farchnad. Yr Arthwerthwyr oedd W.M Dew a'i Fab ac R. Arthur Jones, a oedd â swyddfeydd yn Caxton Buildings, Bangor, a hefyd yng Nghonwy.  
Ddydd Gwener 3 Rhagfyr 1920 am 2.30pm yn yr Assembly Room, Stryd y Farchnad, Caernarfon, cynhaliwyd arwerthiant nifer o ffermydd a thiroedd ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]] yn unol â chyfarwyddiadau Ymddiriedolwyr [[Elusen Dr Lewis|Elusen Dr William Lewis]]. Yn gweithredu ar ran yr elusen fel Asiant roedd Mr J. Roberts Williams, 14 Stryd y Farchnad, Caernarfon a'r Cyfreithiwr oedd Mr John Williams, 5 Stryd y Farchnad. Yr Arthwerthwyr oedd W.M. Dew a'i Fab ac R. Arthur Jones, a oedd â swyddfeydd yn Caxton Buildings, Bangor, a hefyd yng Nghonwy.  


Yn y catalog a argraffwyd ar gyfer yr arwerthiant disgrifir yr eiddo fel "Valuable Freehold Farms and Accommodation Lands". Roedd cyfanswm y tiroedd a oedd i'w gwerthu oddeutu 420 o erwau.  
Yn y catalog a argraffwyd ar gyfer yr arwerthiant disgrifir yr eiddo fel "Valuable Freehold Farms and Accommodation Lands". Roedd cyfanswm y tiroedd a oedd i'w gwerthu oddeutu 420 o erwau.  


Y fferm gyntaf i ddod o dan y morthwyl oedd '''Terfyndaublwyf'''. Fel yr awgryma ei henw mae'n sefyll ar y terfyn rhwng plwyfi Llanaelhaearn a Chlynnog, a bu achos Methodistaidd cynnar yn cyfarfod yno ddechrau'r 19g cyn agor capel Seion Gurn Goch. Nodir fod y fferm ym 1920 ychydig dros 37 erw, gyda'r tir o boptu'r briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Y tenant bryd hynny oedd Thomas Owen a thalai rent blynyddol o £25 16s 8d, degwm o £2 6s 8d (daeth y degwm i ben yn fuan wedyn pan ddatgysylltwyd yr Eglwys Wladol yng Nghymru oddi wrth y wladwriaeth a sefydlu'r Eglwys yng Nghymru) a threth tir o 8s 4. Nodwyd gan rywun mewn pensel ar y copi sydd gen i o'r catalog iddi gael ei gwerthu am £1,080 ond ni nodwyd enw'r prynwr gwaetha'r modd.  
Y fferm gyntaf i ddod o dan y morthwyl oedd '''Terfyndaublwyf'''. Fel yr awgryma ei henw mae'n sefyll ar y terfyn rhwng plwyfi Llanaelhaearn a [[Clynnog Fawr|Chlynnog]], a bu achos Methodistaidd cynnar yn cyfarfod yno ddechrau'r 19g cyn agor [[Capel Seion (MC), Gurn Goch]]. Nodir fod y fferm ym 1920 ychydig dros 37 erw, gyda'r tir o boptu'r briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Y tenant bryd hynny oedd Thomas Owen a thalai rent blynyddol o £25 16s 8c, degwm o £2 6s 8c (daeth y degwm i ben yn fuan wedyn pan ddatgysylltwyd yr Eglwys Wladol yng Nghymru oddi wrth y wladwriaeth a sefydlu'r Eglwys yng Nghymru) a threth tir o 8s 4c. Nodwyd gan rywun mewn pensel ar y copi sydd gen i o'r catalog iddi gael ei gwerthu am £1,080 ond ni nodwyd enw'r prynwr gwaetha'r modd.  


Nesaf ar y rhestr oedd fferm '''Tan-y-graig''', sy'n llechu yng nghysgod y mynydd o'r un enw. Roedd y fferm hon yn 17 erw a'r tenant ym 1920 oedd Humphrey Roberts a dalai £9 1s 6d o rent, degwm o 11s 6d a threth tir o 3s. Nodir fod y tir yn cynnwys cymysgedd o dir âr a thir pori, yn ogystal  â thiroedd amgaeëdig ar y llechweddau uwchlaw'r fferm ar gyfer pori defaid. Nodir hefyd fod gan berchnogion a deiliaid fferm Tyddyn Coch gerllaw yr hawl i fynd â defaid drwy fferm Tan-y-graig i'w tiroedd pori hwythau ar y llechweddau. Gwerthwyd Tan-y-graig am £600 gyda'r tenant yn ei phrynu.
Nesaf ar y rhestr oedd fferm '''Tan-y-graig''', sy'n llechu yng nghysgod y mynydd o'r un enw. Roedd y fferm hon yn 17 erw a'r tenant ym 1920 oedd Humphrey Roberts a dalai £9 1s 6d o rent, degwm o 11s 6d a threth tir o 3s. Nodir fod y tir yn cynnwys cymysgedd o dir âr a thir pori, yn ogystal  â thiroedd amgaeëdig ar y llechweddau uwchlaw'r fferm ar gyfer pori defaid. Nodir hefyd fod gan berchnogion a deiliaid fferm Tyddyn Coch gerllaw yr hawl i fynd â defaid drwy fferm Tan-y-graig i'w tiroedd pori hwythau ar y llechweddau. Gwerthwyd Tan-y-graig am £600 gyda'r tenant yn ei phrynu.


'''Tyddyn Coch''' ei hun a werthwyd nesaf. Mae'r fferm hon ar gyrion pentref Trefor gyda llawer o'i thir ar hyd ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon. Yn ôl y catalog roedd fymryn dros 62 erw ym 1920, gyda'r caeau yn gymysgedd o dir âr a thir pori "of fair quality", gyda 30 erw arall o dir pori garw. Y tenant adeg yr arwerthiant oedd Owen Pierce a dalai rent o £36 3s 8d, degwm o £2 9s 8d a threth tir o 11s. Gwerthwyd y fferm am £1,100 a hynny fel y nodir yn fy nghatalog i'r "Colonel" - tybiaf mai'r Cyrnol Darbishire oedd hwnnw.
'''Tyddyn Coch''' ei hun a werthwyd nesaf. Mae'r fferm hon ar gyrion pentref [[Trefor]] gyda llawer o'i thir ar hyd ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon. Yn ôl y catalog roedd fymryn dros 62 erw ym 1920, gyda'r caeau yn gymysgedd o dir âr a thir pori "of fair quality", gyda 30 erw arall o dir pori garw. Y tenant adeg yr arwerthiant oedd Owen Pierce a dalai rent o £36 3s 8c, degwm o £2 9s 8c a threth tir o 11s. Gwerthwyd y fferm am £1,100 a hynny fel y nodir yn fy nghatalog i'r "Colonel" - tybiaf mai'r Cyrnol Darbishire oedd hwnnw.


Yna gwerthwyd Lot 4, a ddisgrifir fel "The Valuable Accommodation Grazing Land known as '''Tyddyn-y-felin''' otherwise Bryn Gwenith Land". Roedd y tir hwn bron yn 19 erw ac wedi'i leoli rhwng pentref Trefor a fferm Y Morfa, gyda hawl tramwy i'r fferm honno drwyddo. Gan fod y tir ar gyrion y pentref nodir fod un neu ddau o "Plots ripe for development as Building Sites" arno, ac fe adeiladwyd pedwar tŷ unllawr, a adwaenir fel Tai Bryn Gwenith, yno'n ddiweddarach. Yr enw gwreiddiol oedd Tyddyn-y-felin - ar un adeg roedd melin ddŵr gerllaw yng Nghors y Felin ar lan Afon Tâl ond nid yw ei safle'n hysbys bellach. Wedyn y daeth yr enw crandiach Bryn Gwenith, er nad oes tystiolaeth fod gwenith yn cael ei dyfu yno. Y cyd-denantiaid ym 1920 oedd Owen Owen ac Owen R. Evans - hen daid awdur y llith yma. Roeddent yn talu rhent o £31 14 4d, degwm o £1 14s 4d a threth tir o 9s 10d. Nid oedd ffermdy ar y tir, ond roedd yno "an excellent Cow House and Slaughter House the latter erected by the tenant". Owen Evans a adeiladodd y lladd-dy gan ei fod yn gweithredu fel cigydd yn Nhrefor - mae'r lladd-dy hwn a'r beudy yn sefyll o hyd. Gwerthwyd y tir am y pris sylweddol o £1575 ac er na nodir hynny ar y catalog, fe'i prynwyd gan berchnogion Chwarel yr Eifl, a oedd hefyd yn berchnogion y rhan fwyaf o'r tai yn Nhrefor bryd hynny. Bu ym meddiant cwmni'r chwarel nes ei phrynu gan ŵyr i Owen Evans flynyddoedd yn ddiweddarach.  
Yna gwerthwyd Lot 4, a ddisgrifir fel "The Valuable Accommodation Grazing Land known as '''Tyddyn-y-felin''' otherwise Bryn Gwenith Land". Roedd y tir hwn bron yn 19 erw ac wedi'i leoli rhwng pentref Trefor a [[Fferm Y Morfa]], gyda hawl tramwy i'r fferm honno drwyddo. Gan fod y tir ar gyrion y pentref nodir fod un neu ddau o "Plots ripe for development as Building Sites" arno, ac fe adeiladwyd pedwar tŷ unllawr, a adwaenir fel Tai Bryn Gwenith, yno'n ddiweddarach. Yr enw gwreiddiol oedd Tyddyn-y-felin - ar un adeg roedd melin ddŵr gerllaw yng Nghors y Felin ar lan Afon Tâl ond nid yw ei safle'n hysbys bellach. Wedyn y daeth yr enw crandiach Bryn Gwenith, er nad oes tystiolaeth fod gwenith yn cael ei dyfu yno. Y cyd-denantiaid ym 1920 oedd Owen Owen ac Owen R. Evans - hen daid awdur y llith yma. Roeddent yn talu rhent o £31 14 4d, degwm o £1 14s 4d a threth tir o 9s 10d. Nid oedd ffermdy ar y tir, ond roedd yno "an excellent Cow House and Slaughter House the latter erected by the tenant". Owen Evans a adeiladodd y lladd-dy gan ei fod yn gweithredu fel cigydd yn Nhrefor - mae'r lladd-dy hwn a'r beudy yn sefyll o hyd. Gwerthwyd y tir am y pris sylweddol o £1575 ac er na nodir hynny ar y catalog, fe'i prynwyd gan berchnogion Chwarel yr Eifl, a oedd hefyd yn berchnogion y rhan fwyaf o'r tai yn Nhrefor bryd hynny. Bu ym meddiant cwmni'r chwarel nes ei phrynu gan ŵyr i Owen Evans flynyddoedd yn ddiweddarach.  


Symudodd yr ocsiwn o Drefor i Lanaelhaearn ar gyfer y gwerthiant nesaf, sef fferm '''Tynllan''', a oedd, fel yr awgryma'r enw, yn gysylltiedig ag Eglwys Aelhaearn gerllaw. Roedd y fferm yn 36 erw gyda'r tir o ansawdd da ac wedi ei rannu'n gaeau trefnus o dir âr a thir pori, gyda'r mwyafrif ohonynt â mynediad uniongyrchol i'r ffordd fawr. Tenant y fferm bryd hynny oedd rheithor y plwyf, y Parchedig Thomas Jones, a thalai rent o £37 9s 8d, degwm o £3 9s 8d a threth tir o 11s 8d. Roedd y tir hwn wedi cael ei amaethu gan reithoriaid y plwyf am genedlaethau, a nodir bod y tir ym 1920 yn cael ei is-osod yn hytrach na'i ffermio gan y rheithor ei hun. Y ffermdy oedd y rheithordy hefyd a nodir fod y tŷ "of a superior type" yn cynnwys tair ystafell eistedd, cegin, pantri a phedair llofft. Roedd wedi ei gysylltu â chyflenwad dŵr hefyd. Ar y tir hefyd roedd dau fwthyn, sef Dafarn Newydd a Beudy Lôn a oedd wedi'u cynnwys yn y gwerthiant. Hon oedd y fferm ddrutaf i'w gwerthu y diwrnod hwnnw, gyda'r rheithor ei hun yn ei phrynu am £2,125.
Symudodd yr ocsiwn o Drefor i Lanaelhaearn ar gyfer y gwerthiant nesaf, sef fferm '''Tynllan''', a oedd, fel yr awgryma'r enw, yn gysylltiedig ag Eglwys Aelhaearn gerllaw. Roedd y fferm yn 36 erw gyda'r tir o ansawdd da ac wedi ei rannu'n gaeau trefnus o dir âr a thir pori, gyda'r mwyafrif ohonynt â mynediad uniongyrchol i'r ffordd fawr. Tenant y fferm bryd hynny oedd rheithor y plwyf, y Parchedig Thomas Jones, a thalai rent o £37 9s 8d, degwm o £3 9s 8d a threth tir o 11s 8d. Roedd y tir hwn wedi cael ei amaethu gan reithoriaid y plwyf am genedlaethau, a nodir bod y tir ym 1920 yn cael ei is-osod yn hytrach na'i ffermio gan y rheithor ei hun. Y ffermdy oedd y rheithordy hefyd a nodir fod y tŷ "of a superior type" yn cynnwys tair ystafell eistedd, cegin, pantri a phedair llofft. Roedd wedi ei gysylltu â chyflenwad dŵr hefyd. Ar y tir hefyd roedd dau fwthyn, sef Dafarn Newydd a Beudy Lôn a oedd wedi'u cynnwys yn y gwerthiant. Hon oedd y fferm ddrutaf i'w gwerthu y diwrnod hwnnw, gyda'r rheithor ei hun yn ei phrynu am £2,125.


[anorffenedig - i'w barhau a'i olygu].
[anorffenedig - i'w barhau a'i olygu].

Fersiwn yn ôl 12:33, 26 Medi 2023

Ddydd Gwener 3 Rhagfyr 1920 am 2.30pm yn yr Assembly Room, Stryd y Farchnad, Caernarfon, cynhaliwyd arwerthiant nifer o ffermydd a thiroedd ym mhlwyf Llanaelhaearn yn unol â chyfarwyddiadau Ymddiriedolwyr Elusen Dr William Lewis. Yn gweithredu ar ran yr elusen fel Asiant roedd Mr J. Roberts Williams, 14 Stryd y Farchnad, Caernarfon a'r Cyfreithiwr oedd Mr John Williams, 5 Stryd y Farchnad. Yr Arthwerthwyr oedd W.M. Dew a'i Fab ac R. Arthur Jones, a oedd â swyddfeydd yn Caxton Buildings, Bangor, a hefyd yng Nghonwy.

Yn y catalog a argraffwyd ar gyfer yr arwerthiant disgrifir yr eiddo fel "Valuable Freehold Farms and Accommodation Lands". Roedd cyfanswm y tiroedd a oedd i'w gwerthu oddeutu 420 o erwau.

Y fferm gyntaf i ddod o dan y morthwyl oedd Terfyndaublwyf. Fel yr awgryma ei henw mae'n sefyll ar y terfyn rhwng plwyfi Llanaelhaearn a Chlynnog, a bu achos Methodistaidd cynnar yn cyfarfod yno ddechrau'r 19g cyn agor Capel Seion (MC), Gurn Goch. Nodir fod y fferm ym 1920 ychydig dros 37 erw, gyda'r tir o boptu'r briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Y tenant bryd hynny oedd Thomas Owen a thalai rent blynyddol o £25 16s 8c, degwm o £2 6s 8c (daeth y degwm i ben yn fuan wedyn pan ddatgysylltwyd yr Eglwys Wladol yng Nghymru oddi wrth y wladwriaeth a sefydlu'r Eglwys yng Nghymru) a threth tir o 8s 4c. Nodwyd gan rywun mewn pensel ar y copi sydd gen i o'r catalog iddi gael ei gwerthu am £1,080 ond ni nodwyd enw'r prynwr gwaetha'r modd.

Nesaf ar y rhestr oedd fferm Tan-y-graig, sy'n llechu yng nghysgod y mynydd o'r un enw. Roedd y fferm hon yn 17 erw a'r tenant ym 1920 oedd Humphrey Roberts a dalai £9 1s 6d o rent, degwm o 11s 6d a threth tir o 3s. Nodir fod y tir yn cynnwys cymysgedd o dir âr a thir pori, yn ogystal â thiroedd amgaeëdig ar y llechweddau uwchlaw'r fferm ar gyfer pori defaid. Nodir hefyd fod gan berchnogion a deiliaid fferm Tyddyn Coch gerllaw yr hawl i fynd â defaid drwy fferm Tan-y-graig i'w tiroedd pori hwythau ar y llechweddau. Gwerthwyd Tan-y-graig am £600 gyda'r tenant yn ei phrynu.

Tyddyn Coch ei hun a werthwyd nesaf. Mae'r fferm hon ar gyrion pentref Trefor gyda llawer o'i thir ar hyd ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon. Yn ôl y catalog roedd fymryn dros 62 erw ym 1920, gyda'r caeau yn gymysgedd o dir âr a thir pori "of fair quality", gyda 30 erw arall o dir pori garw. Y tenant adeg yr arwerthiant oedd Owen Pierce a dalai rent o £36 3s 8c, degwm o £2 9s 8c a threth tir o 11s. Gwerthwyd y fferm am £1,100 a hynny fel y nodir yn fy nghatalog i'r "Colonel" - tybiaf mai'r Cyrnol Darbishire oedd hwnnw.

Yna gwerthwyd Lot 4, a ddisgrifir fel "The Valuable Accommodation Grazing Land known as Tyddyn-y-felin otherwise Bryn Gwenith Land". Roedd y tir hwn bron yn 19 erw ac wedi'i leoli rhwng pentref Trefor a Fferm Y Morfa, gyda hawl tramwy i'r fferm honno drwyddo. Gan fod y tir ar gyrion y pentref nodir fod un neu ddau o "Plots ripe for development as Building Sites" arno, ac fe adeiladwyd pedwar tŷ unllawr, a adwaenir fel Tai Bryn Gwenith, yno'n ddiweddarach. Yr enw gwreiddiol oedd Tyddyn-y-felin - ar un adeg roedd melin ddŵr gerllaw yng Nghors y Felin ar lan Afon Tâl ond nid yw ei safle'n hysbys bellach. Wedyn y daeth yr enw crandiach Bryn Gwenith, er nad oes tystiolaeth fod gwenith yn cael ei dyfu yno. Y cyd-denantiaid ym 1920 oedd Owen Owen ac Owen R. Evans - hen daid awdur y llith yma. Roeddent yn talu rhent o £31 14 4d, degwm o £1 14s 4d a threth tir o 9s 10d. Nid oedd ffermdy ar y tir, ond roedd yno "an excellent Cow House and Slaughter House the latter erected by the tenant". Owen Evans a adeiladodd y lladd-dy gan ei fod yn gweithredu fel cigydd yn Nhrefor - mae'r lladd-dy hwn a'r beudy yn sefyll o hyd. Gwerthwyd y tir am y pris sylweddol o £1575 ac er na nodir hynny ar y catalog, fe'i prynwyd gan berchnogion Chwarel yr Eifl, a oedd hefyd yn berchnogion y rhan fwyaf o'r tai yn Nhrefor bryd hynny. Bu ym meddiant cwmni'r chwarel nes ei phrynu gan ŵyr i Owen Evans flynyddoedd yn ddiweddarach.

Symudodd yr ocsiwn o Drefor i Lanaelhaearn ar gyfer y gwerthiant nesaf, sef fferm Tynllan, a oedd, fel yr awgryma'r enw, yn gysylltiedig ag Eglwys Aelhaearn gerllaw. Roedd y fferm yn 36 erw gyda'r tir o ansawdd da ac wedi ei rannu'n gaeau trefnus o dir âr a thir pori, gyda'r mwyafrif ohonynt â mynediad uniongyrchol i'r ffordd fawr. Tenant y fferm bryd hynny oedd rheithor y plwyf, y Parchedig Thomas Jones, a thalai rent o £37 9s 8d, degwm o £3 9s 8d a threth tir o 11s 8d. Roedd y tir hwn wedi cael ei amaethu gan reithoriaid y plwyf am genedlaethau, a nodir bod y tir ym 1920 yn cael ei is-osod yn hytrach na'i ffermio gan y rheithor ei hun. Y ffermdy oedd y rheithordy hefyd a nodir fod y tŷ "of a superior type" yn cynnwys tair ystafell eistedd, cegin, pantri a phedair llofft. Roedd wedi ei gysylltu â chyflenwad dŵr hefyd. Ar y tir hefyd roedd dau fwthyn, sef Dafarn Newydd a Beudy Lôn a oedd wedi'u cynnwys yn y gwerthiant. Hon oedd y fferm ddrutaf i'w gwerthu y diwrnod hwnnw, gyda'r rheithor ei hun yn ei phrynu am £2,125.

[anorffenedig - i'w barhau a'i olygu].