Alun Ffred Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Gwleidyddion]]
[[Categori:Gwleidyddion]]
[[Categeori:Awduron]]

Fersiwn yn ôl 17:54, 13 Awst 2023

Bu Alun Ffred Jones (ganed 1949 ym Mrynaman) yn aelod Cynulliad Cymru, 2003-2016, dros Arfon, ac yn Llywodraeth Cymru'n Un, fe wasanaethodd o 2008 fel y Gweinidog Treftadaeth. Cyn iddo fynd i'r Cynulliad, roedd yn cynrychioli Llanllyfni ar y Cyngor Sir ac yn arweinydd y Cyngor.

Mae wedi byw yn Llanllyfni ers blynyddoedd lawer, er iddo gael plentyndod braidd yn symudol a'i dad yn weinidog. Mae'n frawd i'r gwleidydd a'r canwr Dafydd Iwan ac i'r actor, y diweddar Huw Ceredig. Cyn ymroi'n llwyr i wleidyddiaeth bu'n athro Cymraeg ac yn newyddiadurwr gyda chwmni HTV, cyn datblygu gyrfa fel cynhyrchydd yn y byd teledu a gweithredu fel cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru. Ef oedd sylfaenydd Cwmni Nant ac yn gyfrifol am gynhyrchu ac, yn rhannol (gyda Mei Jones), am sgriptio C'mon Midffild, cyfres gomedi ymysg y goreuon yn y Gymraeg, a dynnodd hefyd ar hoffter Alun Ffred o'r gêm.[1]

Mae'n parhau i fod ynghlwm wrth y byd gwleidyddol, gan wasanaethu fel Cadeirydd Plaid Cymru.

Fo oedd enillydd Gwobr Daniel Owen 2023 am ei nofel gyntaf.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

Categeori:Awduron

  1. Erthygl Wicipedia [1] cyrchwyd 15.5.2020