Hafod y Wern, Clynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Hafod y Wern''' yn fferm fynydd sylweddol ar y llechweddau oddeutu hanner milltir i'r de-ddwyrain o bentref Clynnog. Mae'r ffermdy ar gynllun si...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Mae'r ffermdy ar gynllun siâp L. Y darn, neu adain, ôl yw'r rhan hynaf. Fe'i hadeiladwyd mae'n debyg yn yr ail ganrif ar bymtheg, gyda lle tân a grisiau carreg tro o fewn y mur wrth y simnai. Ychwanegwyd darn, neu adain, flaen y ffermdy gan y perchnogion, ystâd Glynllifon, oddeutu 1860, gyda ffenestri sash wedi eu trefnu'n gymesurol o amgylch y drws ffrynt. Mae gan y fferm amrywiaeth o adeiladau, yn stablau, beudai ac ysguboriau wedi eu codi o amgylch iard sgwâr sylweddol. Ceir hefyd nifer o gytiau a ffoltiau moch wedi'u cysylltu â chegin foch sylweddol gyda simnai lle roedd boiler i gynhesu bwyd i'r moch.<sup>[1]</sup> | Mae'r ffermdy ar gynllun siâp L. Y darn, neu adain, ôl yw'r rhan hynaf. Fe'i hadeiladwyd mae'n debyg yn yr ail ganrif ar bymtheg, gyda lle tân a grisiau carreg tro o fewn y mur wrth y simnai. Ychwanegwyd darn, neu adain, flaen y ffermdy gan y perchnogion, ystâd Glynllifon, oddeutu 1860, gyda ffenestri sash wedi eu trefnu'n gymesurol o amgylch y drws ffrynt. Mae gan y fferm amrywiaeth o adeiladau, yn stablau, beudai ac ysguboriau wedi eu codi o amgylch iard sgwâr sylweddol. Ceir hefyd nifer o gytiau a ffoltiau moch wedi'u cysylltu â chegin foch sylweddol gyda simnai lle roedd boiler i gynhesu bwyd i'r moch.<sup>[1]</sup> | ||
Bu Hafod y Wern yn gartref am gyfnod i | Bu Hafod y Wern yn gartref am gyfnod i Howell Roberts (Hywel Tudur), gweinidog, ysgolfeistr a dyfeisydd, cyn iddo symud i'w gartref newydd, Bryn Eisteddfod, ar gyrion Clynnog. Yn Hafod y Wern hefyd y magwyd yr awdur a'r naturiaethwr Twm Elias a'i chwaer Marian Elias (Roberts yn ddiweddarach), sy'n Ysgrifennydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
1. Richard Haslam, Julian Orbach and Adam Voelcker, ''The Buildings of Wales: Gwynedd'', (Yale University Press, 2009), tt. 315-16. | 1. Richard Haslam, Julian Orbach and Adam Voelcker, ''The Buildings of Wales: Gwynedd'', (Yale University Press, 2009), tt. 315-16. |
Fersiwn yn ôl 10:07, 16 Ebrill 2023
Mae Hafod y Wern yn fferm fynydd sylweddol ar y llechweddau oddeutu hanner milltir i'r de-ddwyrain o bentref Clynnog.
Mae'r ffermdy ar gynllun siâp L. Y darn, neu adain, ôl yw'r rhan hynaf. Fe'i hadeiladwyd mae'n debyg yn yr ail ganrif ar bymtheg, gyda lle tân a grisiau carreg tro o fewn y mur wrth y simnai. Ychwanegwyd darn, neu adain, flaen y ffermdy gan y perchnogion, ystâd Glynllifon, oddeutu 1860, gyda ffenestri sash wedi eu trefnu'n gymesurol o amgylch y drws ffrynt. Mae gan y fferm amrywiaeth o adeiladau, yn stablau, beudai ac ysguboriau wedi eu codi o amgylch iard sgwâr sylweddol. Ceir hefyd nifer o gytiau a ffoltiau moch wedi'u cysylltu â chegin foch sylweddol gyda simnai lle roedd boiler i gynhesu bwyd i'r moch.[1]
Bu Hafod y Wern yn gartref am gyfnod i Howell Roberts (Hywel Tudur), gweinidog, ysgolfeistr a dyfeisydd, cyn iddo symud i'w gartref newydd, Bryn Eisteddfod, ar gyrion Clynnog. Yn Hafod y Wern hefyd y magwyd yr awdur a'r naturiaethwr Twm Elias a'i chwaer Marian Elias (Roberts yn ddiweddarach), sy'n Ysgrifennydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.
Cyfeiriadau
1. Richard Haslam, Julian Orbach and Adam Voelcker, The Buildings of Wales: Gwynedd, (Yale University Press, 2009), tt. 315-16.