Marged Uch Ifan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Marged Uch Ivan''', neu Margaret ferch Evan ac hefyd Peggy Evans yn gymeriad unigryw a oedd yn byw yn Nhelyrnia, [[Nantlle]].  
Roedd '''Marged Uch Ivan''', neu Margaret ferch Evan, ac a elwid hefyd yn Peggy Evans, yn gymeriad unigryw a oedd yn byw yn Nhelyrnia, [[Nantlle]].  


Yn ei chyfnod, roedd nifer yn canu cerddi amdani ac yn adrodd ei hanesion ar draws Cymru. Yn ôl y Parch. W. R. Ambrose<ref>W.R. Ambrose, ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872). </ref>, yr oedd hi’n medru gwneud llawer gyda’i llaw ac yn medru adrodd a chanu alawon Cymreig a diddanu llawer o’i hymwelwyr. Yr oedd y teithiwr Thomas Pennant wedi mynd i’r Telyrniau i’w gweld, ond cafodd ei siomi gan nad oedd hi gartref y tro hwnnw. Yr oedd hi wedi gwneud enw iddi hi ei hun fel cymeriad yn yr ardal, ac ar ei marwolaeth yn 1788, cofnodwyd y bennill isod ar ei charreg fedd;
Yn ei chyfnod, roedd nifer yn canu cerddi amdani ac yn adrodd hanesion yn ymwneud â hi ar draws Cymru. Yn ôl y Parch. W. R. Ambrose<ref>W.R. Ambrose, ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872). </ref>, roedd hi’n fedrus iawn gyda'i dwylo ac yn medru adrodd a chanu alawon Cymreig a diddanu llawer o’i hymwelwyr. Roedd y teithiwr Thomas Pennant wedi mynd i’r Telyrniau i’w gweld, ond cafodd ei siomi gan nad oedd hi gartref y tro hwnnw. Gwnaeth enw iddi ei hun fel cymeriad yn yr ardal, ac ar ei marwolaeth yn 1788, cofnodwyd y pennill isod ar ei charreg fedd;


“''Here lies Peggy Evans who saw ninety-two'',
“''Here lies Peggy Evans who saw ninety-two'',

Fersiwn yn ôl 17:31, 14 Mawrth 2023

Roedd Marged Uch Ivan, neu Margaret ferch Evan, ac a elwid hefyd yn Peggy Evans, yn gymeriad unigryw a oedd yn byw yn Nhelyrnia, Nantlle.

Yn ei chyfnod, roedd nifer yn canu cerddi amdani ac yn adrodd hanesion yn ymwneud â hi ar draws Cymru. Yn ôl y Parch. W. R. Ambrose[1], roedd hi’n fedrus iawn gyda'i dwylo ac yn medru adrodd a chanu alawon Cymreig a diddanu llawer o’i hymwelwyr. Roedd y teithiwr Thomas Pennant wedi mynd i’r Telyrniau i’w gweld, ond cafodd ei siomi gan nad oedd hi gartref y tro hwnnw. Gwnaeth enw iddi ei hun fel cymeriad yn yr ardal, ac ar ei marwolaeth yn 1788, cofnodwyd y pennill isod ar ei charreg fedd;

Here lies Peggy Evans who saw ninety-two,

Could wrestle, row, fiddle and hunt and fox too

Could ring a sweet peal, as the neighbourhood tells

That would charm your two ears – had there been any bells!

Enjoyed rosy health, in a lodging of straw,

Commanded the saw-pit, and wielded the saw,

And though shes departed where you cannot find her

I know she has left a few sisters behind her.”

Ni ddylid cymysgu'r Marged Uch Ifan hon (marw 1788) gyda dynes arall a fu farw bron i ganrif ynghynt, sef Margaret ach Evan, Tal-y-mignedd Uchaf, nain Angharad James, a fu farw ym 1690.[2]

Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).
  2. LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B1690-72