Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bardd a oedd yn ei flodau ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Hugh Jones, neu Gwyndaf Ieuanc i roi iddo ei enw barddol. Dywedir iddo...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Hugh Jones - "Gwyndaf Ieuanc" i Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc) heb adael dolen ailgyfeirio |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 13:28, 29 Ionawr 2023
Bardd a oedd yn ei flodau ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Hugh Jones, neu Gwyndaf Ieuanc i roi iddo ei enw barddol. Dywedir iddo gael ei eni mewn tyddyn o'r enw Pen-y-groes ym mhlwyf Llanwnda. Saer coed oedd o ran ei grefft a Methodist Calfinaidd o ran ei ddaliadau crefyddol. Ychydig iawn o'i waith a gadwyd ond mae'r gwaith a ddiogelwyd yn dangos fod ganddo feistrolaeth dda ar y cynganeddion. Cyhoeddwyd ei awdl, "Arwyrain Amaethyddiaeth", a luniodd ar gyfer eisteddfod Tremadog ym 1812, yn y gyfrol Cell Callestr.Ymddangosodd peth o'i waith hefyd yn rhai o gyfnodolion Cymraeg ei gyfnod. Dywedir iddo symud i ardal Nantlle'n ddiweddarach yn ei oes, lle bu farw. Nid oes sicrwydd lle mae wedi'i gladdu - gallai fod yn Nantlle neu yn Llanwnda.
Cyfeiriadau
Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, t.438.