Band Ceidwadwyr Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ychydig iawn o hanes '''Band Ceidwadwyr Pen-y-groes''' sydd ar gael. Mae'n eitha tebygol mai rhyw fand bychan o bigion adar Toriaidd gwahanol fandiau'r ardal oedd hwn, yn rhoi ei wasanaeth ar adegau neilltuol megis etholiadau neu ymweliadau gwleidyddion Toriaidd pwysig â'r fro.
Ychydig iawn o hanes '''Band Ceidwadwyr Pen-y-groes''' sydd ar gael. Mae'n eitha tebygol mai rhyw fand bychan o bigion adar Toriaidd gwahanol fandiau'r ardal oedd hwn, yn rhoi ei wasanaeth ar adegau neilltuol megis etholiadau neu ymweliadau gwleidyddion Toriaidd pwysig â'r fro. Dichon mai dyma'r band a alwyd weithiau'n [[Band Pres Pen-y-groes|Band Pres neu Seindorf Bres Pen-y-groes]], gan i'r band hwnnw chwarae mewn ffair wen Eglwys Crist ym 1889.<ref>''Y Llan'', 28.6.1889, t.5</ref>


Meddai un gohebydd o'r cyfnod amdano : ''Wnaeth y seindorf na'r blaid fawr o gynnydd yn yr ardal oedd yn enwog y pryd hynny fel cadarnle Rhyddfrydiaeth.''
Meddai un gohebydd o'r cyfnod amdano : ''Wnaeth y seindorf na'r blaid fawr o gynnydd yn yr ardal oedd yn enwog y pryd hynny fel cadarnle Rhyddfrydiaeth.''

Fersiwn yn ôl 18:59, 8 Ionawr 2023

Ychydig iawn o hanes Band Ceidwadwyr Pen-y-groes sydd ar gael. Mae'n eitha tebygol mai rhyw fand bychan o bigion adar Toriaidd gwahanol fandiau'r ardal oedd hwn, yn rhoi ei wasanaeth ar adegau neilltuol megis etholiadau neu ymweliadau gwleidyddion Toriaidd pwysig â'r fro. Dichon mai dyma'r band a alwyd weithiau'n Band Pres neu Seindorf Bres Pen-y-groes, gan i'r band hwnnw chwarae mewn ffair wen Eglwys Crist ym 1889.[1]

Meddai un gohebydd o'r cyfnod amdano : Wnaeth y seindorf na'r blaid fawr o gynnydd yn yr ardal oedd yn enwog y pryd hynny fel cadarnle Rhyddfrydiaeth.

Dyma'r band a arweiniodd yr orymdaith fawr yng Nghaernarfon adeg ymweliad yr Arglwydd Salisbury â'r dref yn rhan olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Arferai'r band chwarae hyd strydoedd Pen-y-groes ar nos Galan. Yr arweinydd bryd hynny oedd J.E.Jones, Y Gors, fu hefyd yn arweinydd Band Nebo am gyfnod. Bu ef farw ym Mhontypridd, Morgannwg, ac yno y'i claddwyd.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Llan, 28.6.1889, t.5
  2. Geraint Jones, Cyrn y Diafol, (2004) t.46