Robert William Jones (Erfyl Fychan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Robert William Jones (Erfyl Fychan)''' (1899-1968) yn hanesydd, llenor, athro ac eisteddfodwr. Fe'i ganed ar Ddydd Calan 1899 ym Mrynllwyni, Pe...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Robert William Jones (Erfyl Fychan)''' (1899-1968) yn hanesydd, llenor, athro ac eisteddfodwr. | Roedd '''Robert William Jones (Erfyl Fychan)''' (1899-1968) yn hanesydd, llenor, athro ac eisteddfodwr. | ||
Fe'i ganed ar Ddydd Calan 1899 ym Mrynllwyni, Pen-y-groes, yn fab ieuengaf i Robert William Jones a Jane ei wraig. Chwarelwr a thyddynnwr oedd ei dad. Wedi addysg uwchradd yn Ysgol Sir Pen-y-groes a chyfnod yn gwasanaethu yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth Robert William Jones yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i'w hyfforddi'n athro. Wedi cyfnod byr yn athro yn Ysgol Trisant, Ceredigion, fe'i penodwyd ym 1924 yn brifathro ysgol waddoledig Llanerfyl ym Maldwyn. O'r pentref hwnnw y cafodd ei enw barddol diweddarach - Erfyl Fychan. Ym 1928 cafodd ysgoloriaeth ymchwil gan y Bwrdd Addysg i astudio hanes bywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif, gan gyfarwyddyd T. Gwynn Jones, ac aeth ymlaen wedyn i astudio yn Ysgol Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Lerpwl, dan gyfarwyddyd John Glyn Davies (awdur "Cerddi Portinllaen"), wedi iddo dderbyn Ysgoloriaeth Owen Templeman. Ar sail yr ymchwil hon, ym 1939 derbyniodd radd M.A. o Brifysgol Lerpwl am draethawd ar "The wayside entertainer in Wales in the ninteenth century". Yr un flwyddyn fe'i penodwyd yn brifathro ysgol Berriew Road yn Y Trallwng, swydd y bu ynddi nes iddo ymddeol ym 1961. | Fe'i ganed ar Ddydd Calan 1899 ym Mrynllwyni, [[Pen-y-groes]], yn fab ieuengaf i Robert William Jones a Jane ei wraig. Chwarelwr a thyddynnwr oedd ei dad. Wedi addysg uwchradd yn [[Ysgol Sir Pen-y-groes]] a chyfnod yn gwasanaethu yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth Robert William Jones yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i'w hyfforddi'n athro. Wedi cyfnod byr yn athro yn Ysgol Trisant, Ceredigion, fe'i penodwyd ym 1924 yn brifathro ysgol waddoledig Llanerfyl ym Maldwyn. O'r pentref hwnnw y cafodd ei enw barddol diweddarach - Erfyl Fychan. Ym 1928 cafodd ysgoloriaeth ymchwil gan y Bwrdd Addysg i astudio hanes bywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif, gan gyfarwyddyd T. Gwynn Jones, ac aeth ymlaen wedyn i astudio yn Ysgol Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Lerpwl, dan gyfarwyddyd John Glyn Davies (awdur "Cerddi Portinllaen"), wedi iddo dderbyn Ysgoloriaeth Owen Templeman. Ar sail yr ymchwil hon, ym 1939 derbyniodd radd M.A. o Brifysgol Lerpwl am draethawd ar "The wayside entertainer in Wales in the ninteenth century". Yr un flwyddyn fe'i penodwyd yn brifathro ysgol Berriew Road yn Y Trallwng, swydd y bu ynddi nes iddo ymddeol ym 1961. | ||
Ymddiddorodd yn fawr mewn cerdd dant ac fe'i hystyrir yn un o arloeswyr y maes hwnnw. Ym 1926 bu'n fuddugol am ganu unawd penillion yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, ac fe'i derbyniwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd yn yr un eisteddfod. Bu T. Gwynn Jones, | Ymddiddorodd yn fawr mewn cerdd dant ac fe'i hystyrir yn un o arloeswyr y maes hwnnw. Ym 1926 bu'n fuddugol am ganu unawd penillion yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, ac fe'i derbyniwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd yn yr un eisteddfod. Bu T. Gwynn Jones, [[Y Brodyr Francis]] o [[Nantlle]] a T.D. James (Iago Erfyl), rheithor amryddawn Llanerfyl yn y 1920au, yn ddylanwadau o bwys arno ym myd "y pethe". Sefydlodd Gymdeithas Cerdd Dant yn Y Bala ym 1934 a bu'n ysgrifennydd iddi tan 1949 pan etholwyd ef yn Gofiadur yr Orsedd. Bu'n gwasanaethu fel Arwyddfardd yr Orsedd er 1947 ac ef a drefnai'r arholiadau blynyddol i dderbyn aelodau iddi. Gwasanaethodd am flynyddoedd hefyd fel cofiadur a derwydd gweinyddol Gorsedd Talaith Powys. | ||
Cynhaliodd lu o ddosbarthiadau nos ar hanes a llên Cymru a chyfrannodd lawer o raglenni i wasanaeth ysgolion y BBC yng Nghymru. Cyhoeddodd lawer o erthyglau hefyd mewn cylchgronau megis ''Allwedd y Tannau'', ''Y Ford Gron'' a ''Journal of the Gypsy Lore Society'', ynghyd â'r gyfrol ''Bywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif'' ym 1931 a chyfol o farddoniaeth, ''Rhigwm i'r hogiau'' ym 1949. | Cynhaliodd lu o ddosbarthiadau nos ar hanes a llên Cymru a chyfrannodd lawer o raglenni i wasanaeth ysgolion y BBC yng Nghymru. Cyhoeddodd lawer o erthyglau hefyd mewn cylchgronau megis ''Allwedd y Tannau'', ''Y Ford Gron'' a ''Journal of the Gypsy Lore Society'', ynghyd â'r gyfrol ''Bywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif'' ym 1931 a chyfol o farddoniaeth, ''Rhigwm i'r hogiau'' ym 1949. | ||
Yn ystod ei flynyddoedd olaf symudodd ef a'i briod - Gwendolen Jones, yn wreiddiol o Aberystwyth - i fyw i Fynytho yn Llŷn. Yno y bu farw 7 Ionawr 1968 ac fe'i claddwyd ym | Yn ystod ei flynyddoedd olaf symudodd ef a'i briod - Gwendolen Jones, yn wreiddiol o Aberystwyth - i fyw i Fynytho yn Llŷn. Yno y bu farw 7 Ionawr 1968 ac fe'i claddwyd ym [[Mynwent Macpelah]], Pen-y-groes.<ref>Gweler erthygl yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970'', (Llundain, 1997), tt. 110-11.</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Athrawon]] | |||
[[Categori:Haneswyr]] | |||
[[Categori:Beirdd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:55, 7 Ionawr 2023
Roedd Robert William Jones (Erfyl Fychan) (1899-1968) yn hanesydd, llenor, athro ac eisteddfodwr.
Fe'i ganed ar Ddydd Calan 1899 ym Mrynllwyni, Pen-y-groes, yn fab ieuengaf i Robert William Jones a Jane ei wraig. Chwarelwr a thyddynnwr oedd ei dad. Wedi addysg uwchradd yn Ysgol Sir Pen-y-groes a chyfnod yn gwasanaethu yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth Robert William Jones yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i'w hyfforddi'n athro. Wedi cyfnod byr yn athro yn Ysgol Trisant, Ceredigion, fe'i penodwyd ym 1924 yn brifathro ysgol waddoledig Llanerfyl ym Maldwyn. O'r pentref hwnnw y cafodd ei enw barddol diweddarach - Erfyl Fychan. Ym 1928 cafodd ysgoloriaeth ymchwil gan y Bwrdd Addysg i astudio hanes bywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif, gan gyfarwyddyd T. Gwynn Jones, ac aeth ymlaen wedyn i astudio yn Ysgol Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Lerpwl, dan gyfarwyddyd John Glyn Davies (awdur "Cerddi Portinllaen"), wedi iddo dderbyn Ysgoloriaeth Owen Templeman. Ar sail yr ymchwil hon, ym 1939 derbyniodd radd M.A. o Brifysgol Lerpwl am draethawd ar "The wayside entertainer in Wales in the ninteenth century". Yr un flwyddyn fe'i penodwyd yn brifathro ysgol Berriew Road yn Y Trallwng, swydd y bu ynddi nes iddo ymddeol ym 1961.
Ymddiddorodd yn fawr mewn cerdd dant ac fe'i hystyrir yn un o arloeswyr y maes hwnnw. Ym 1926 bu'n fuddugol am ganu unawd penillion yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, ac fe'i derbyniwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd yn yr un eisteddfod. Bu T. Gwynn Jones, Y Brodyr Francis o Nantlle a T.D. James (Iago Erfyl), rheithor amryddawn Llanerfyl yn y 1920au, yn ddylanwadau o bwys arno ym myd "y pethe". Sefydlodd Gymdeithas Cerdd Dant yn Y Bala ym 1934 a bu'n ysgrifennydd iddi tan 1949 pan etholwyd ef yn Gofiadur yr Orsedd. Bu'n gwasanaethu fel Arwyddfardd yr Orsedd er 1947 ac ef a drefnai'r arholiadau blynyddol i dderbyn aelodau iddi. Gwasanaethodd am flynyddoedd hefyd fel cofiadur a derwydd gweinyddol Gorsedd Talaith Powys.
Cynhaliodd lu o ddosbarthiadau nos ar hanes a llên Cymru a chyfrannodd lawer o raglenni i wasanaeth ysgolion y BBC yng Nghymru. Cyhoeddodd lawer o erthyglau hefyd mewn cylchgronau megis Allwedd y Tannau, Y Ford Gron a Journal of the Gypsy Lore Society, ynghyd â'r gyfrol Bywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif ym 1931 a chyfol o farddoniaeth, Rhigwm i'r hogiau ym 1949.
Yn ystod ei flynyddoedd olaf symudodd ef a'i briod - Gwendolen Jones, yn wreiddiol o Aberystwyth - i fyw i Fynytho yn Llŷn. Yno y bu farw 7 Ionawr 1968 ac fe'i claddwyd ym Mynwent Macpelah, Pen-y-groes.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gweler erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, (Llundain, 1997), tt. 110-11.