Tyrpaig Llanaelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Tyrpaig Llanaelhaearn''' yn un o sawl tyrpaig a agorwyd y lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllheli. Roedd yn eiddo i Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon a ffurfiwyd trwy ddeddf seneddol ym 1768. | Roedd '''Tyrpaig Llanaelhaearn''' yn un o sawl tyrpaig a agorwyd y lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllheli. Roedd yn eiddo i [[Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon]] a ffurfiwyd trwy ddeddf seneddol ym 1768. | ||
Safai'r hen dŷ tyrpaig ar ochr chwith y ffordd wrth deithio am Bwllheli, rhwng Penlôn Trefor a Phont Tyddyn-drain a chwta filltir o bentref Llanaelhaearn ei hun. Nid oedd yn dyrpaig prysur iawn mae'n debyg gan mai symiau gweddol fychan o arian a gesglid wrth y giât a oedd ar draws y ffordd yno. Ym 1824, er enghraifft, £54 a gasglwyd wrth giât Llanaelhaearn, sef rhyw ychydig dros bunt yr wythnos ar gyfartaledd. Roedd hyn yn cymharu â'r swm llawer uwch o £168 a gasglwyd wrth giât tyrpaig Pont Saint ar gyrion Caernarfon ym 1832. | Safai'r hen dŷ tyrpaig ar ochr chwith y ffordd wrth deithio am Bwllheli, rhwng [[Pen Lôn Trefor|Penlôn Trefor]] a [[Pont Tyddyn Drain|Phont Tyddyn-drain]] a chwta filltir o bentref [[Llanaelhaearn]] ei hun. Nid oedd yn dyrpaig prysur iawn mae'n debyg gan mai symiau gweddol fychan o arian a gesglid wrth y giât a oedd ar draws y ffordd yno. Ym 1824, er enghraifft, £54 a gasglwyd wrth giât Llanaelhaearn, sef rhyw ychydig dros bunt yr wythnos ar gyfartaledd. Roedd hyn yn cymharu â'r swm llawer uwch o £168 a gasglwyd wrth giât tyrpaig Pont Saint ar gyrion Caernarfon ym 1832. | ||
Un o'r teuluoedd a fu'n cadw tyrpaig Llanaelhaearn am flynyddoedd oedd y teulu Watkin. Bu mab y tyrpaig, Philip Watkin, yn ysgolfeistr yn Llanystumdwy am gyfnod a chanodd un o feirdd amlycaf Eifionydd, Robert ap Gwilym Ddu (1766-1850), gywydd o fawl iddo; fe'i cyhoeddwyd yn ''Seren Gomer'' ym 1819. Yn ddiweddarach bu Philip Watkin a'i wraig yn Feistr a Metron Wyrcws Pwllheli o 1856 tan 1869. Un arall a fagwyd yn yr hen Dyrpaig beth amser yn ddiweddarach oedd Griffith Williams (1883-1972). Brawd iddo oedd Daniel Williams (1889-1947), a fu farw wrth ei waith yn Chwarel yr Eifl - roedd ef yn un o selogion capel Bethania y Bedyddwyr yn Nhrefor. Roeddent yn feibion i Dafydd a Winifred (Gwen) Williams, Y Tyrpaig. Gyferbyn â'r Tyrpaig roedd carreg filltir bur fawr ac, i wahaniaethu rhyngddo â sawl Griffith Williams arall yn yr ardal, dechreuwyd galw Griffith y Tyrpaig yn Griffith ''Mile''. Glynodd yr enw hwn wrtho fel gelan, i'r fath raddau nes iddo ei fabwysiadu fel ei enw swyddogol a Griffith Mile Williams, 15 New Street, Trefor sydd ar ei garreg fedd ym mynwent Llanaelhaearn. | Un o'r teuluoedd a fu'n cadw tyrpaig Llanaelhaearn am flynyddoedd oedd y teulu Watkin. Bu mab y tyrpaig, Philip Watkin, yn ysgolfeistr yn Llanystumdwy am gyfnod a chanodd un o feirdd amlycaf Eifionydd, Robert ap Gwilym Ddu (1766-1850), gywydd o fawl iddo; fe'i cyhoeddwyd yn ''Seren Gomer'' ym 1819. Yn ddiweddarach bu Philip Watkin a'i wraig yn Feistr a Metron Wyrcws Pwllheli o 1856 tan 1869. Un arall a fagwyd yn yr hen Dyrpaig beth amser yn ddiweddarach oedd Griffith Williams (1883-1972). Brawd iddo oedd Daniel Williams (1889-1947), a fu farw wrth ei waith yn [[Chwarel yr Eifl]] - roedd ef yn un o selogion [[Capel Bethania (B), Trefor|capel Bethania]] y Bedyddwyr yn Nhrefor. Roeddent yn feibion i Dafydd a Winifred (Gwen) Williams, Y Tyrpaig. Gyferbyn â'r Tyrpaig roedd carreg filltir bur fawr ac, i wahaniaethu rhyngddo â sawl Griffith Williams arall yn yr ardal, dechreuwyd galw Griffith y Tyrpaig yn Griffith ''Mile''. Glynodd yr enw hwn wrtho fel gelan, i'r fath raddau nes iddo ei fabwysiadu fel ei enw swyddogol a Griffith Mile Williams, 15 New Street, [[Trefor]] sydd ar ei garreg fedd ym mynwent Llanaelhaearn. | ||
Dymchwelwyd yr hen dŷ pan gafodd y ffordd rhwng Penlôn a Llanaelhaearn ei gwella a'i lledu ganol yr 20g.< | Dymchwelwyd yr hen dŷ pan gafodd y ffordd rhwng Penlôn a Llanaelhaearn ei gwella a'i lledu ganol yr 20g.<ref> Geraint Jones, ''Moto Ni, Moto Coch'', (Gwasg Carreg Gwalch, 2012), tt.9-11.</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Ffyrdd]] |
Fersiwn yn ôl 10:14, 19 Rhagfyr 2022
Roedd Tyrpaig Llanaelhaearn yn un o sawl tyrpaig a agorwyd y lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllheli. Roedd yn eiddo i Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon a ffurfiwyd trwy ddeddf seneddol ym 1768.
Safai'r hen dŷ tyrpaig ar ochr chwith y ffordd wrth deithio am Bwllheli, rhwng Penlôn Trefor a Phont Tyddyn-drain a chwta filltir o bentref Llanaelhaearn ei hun. Nid oedd yn dyrpaig prysur iawn mae'n debyg gan mai symiau gweddol fychan o arian a gesglid wrth y giât a oedd ar draws y ffordd yno. Ym 1824, er enghraifft, £54 a gasglwyd wrth giât Llanaelhaearn, sef rhyw ychydig dros bunt yr wythnos ar gyfartaledd. Roedd hyn yn cymharu â'r swm llawer uwch o £168 a gasglwyd wrth giât tyrpaig Pont Saint ar gyrion Caernarfon ym 1832.
Un o'r teuluoedd a fu'n cadw tyrpaig Llanaelhaearn am flynyddoedd oedd y teulu Watkin. Bu mab y tyrpaig, Philip Watkin, yn ysgolfeistr yn Llanystumdwy am gyfnod a chanodd un o feirdd amlycaf Eifionydd, Robert ap Gwilym Ddu (1766-1850), gywydd o fawl iddo; fe'i cyhoeddwyd yn Seren Gomer ym 1819. Yn ddiweddarach bu Philip Watkin a'i wraig yn Feistr a Metron Wyrcws Pwllheli o 1856 tan 1869. Un arall a fagwyd yn yr hen Dyrpaig beth amser yn ddiweddarach oedd Griffith Williams (1883-1972). Brawd iddo oedd Daniel Williams (1889-1947), a fu farw wrth ei waith yn Chwarel yr Eifl - roedd ef yn un o selogion capel Bethania y Bedyddwyr yn Nhrefor. Roeddent yn feibion i Dafydd a Winifred (Gwen) Williams, Y Tyrpaig. Gyferbyn â'r Tyrpaig roedd carreg filltir bur fawr ac, i wahaniaethu rhyngddo â sawl Griffith Williams arall yn yr ardal, dechreuwyd galw Griffith y Tyrpaig yn Griffith Mile. Glynodd yr enw hwn wrtho fel gelan, i'r fath raddau nes iddo ei fabwysiadu fel ei enw swyddogol a Griffith Mile Williams, 15 New Street, Trefor sydd ar ei garreg fedd ym mynwent Llanaelhaearn.
Dymchwelwyd yr hen dŷ pan gafodd y ffordd rhwng Penlôn a Llanaelhaearn ei gwella a'i lledu ganol yr 20g.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Geraint Jones, Moto Ni, Moto Coch, (Gwasg Carreg Gwalch, 2012), tt.9-11.