Ellis Evans, Cedar Grove, Lerpwl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Ellis Evans''', a aned ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1842 , yn un o'r Cymry niferus a ddaeth yn adeiladwyr o fri yn Lerpwl yn yr 19g a dechrau'r 20g....'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Ellis Evans''', a aned ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1842 , yn un o'r Cymry niferus a ddaeth yn adeiladwyr o fri yn Lerpwl yn yr 19g a dechrau'r 20g.  
Roedd '''Ellis Evans''', a aned ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] ym 1842, yn un o'r Cymry niferus a ddaeth yn adeiladwyr o fri yn Lerpwl yn yr 19g a dechrau'r 20g.  


Cafodd addysg gynnar yn ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog cyn cael ei brentisio'n saer coed gyda chontractwr o Gaernarfon. Daeth i Lerpwl yn ddyn ifanc 21 oed ym 1863. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd dinas a phorthladd Lerpwl yn tyfu'n eithriadol gyflym ac roedd galw mawr am weithwyr profiadol a chymwys yn y diwydiant adeiladu. Daeth nifer helaeth o Gymry i'r amlwg yn y fasnach adeiladu yno bryd hynny, llawer ohonynt yn hanu o siroedd Caernarfon a Môn yn arbennig. Ar ôl gweithio fel saer yn Lerpwl am gyfnod, mentrodd Ellis Evans i adeiladu tai ar ei fenter ei hun yn Princes Park (ardal a oedd yn ehangu ac ymgyfoethogi'n gyflym bryd hynny) a hefyd, mewn partneriaeth ag eraill, yn Parliament Fields; yn Cedar Grove (lle'r ymgartrefodd), ac yn Anfield ac Aigburth. Bu'n aelod o gapel urddasol y Methodistiaid Calfinaidd, Princes Road, am rai blynyddoedd. Bu adeilad ysblennydd eglwys Princes Road, a agorwyd ym 1865, yn cael ei ystyried fel "eglwys gadeiriol Cymry Lerpwl", ond erbyn hyn mae'n adfeilion gwaetha'r modd.<sup>[1]</sup>
Cafodd addysg gynnar yn [[Ysgol Eben Fardd]] yng Nghlynnog cyn cael ei brentisio'n saer coed gyda chontractwr o Gaernarfon. Daeth i Lerpwl yn ddyn ifanc 21 oed ym 1863. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd dinas a phorthladd Lerpwl yn tyfu'n eithriadol gyflym ac roedd galw mawr am weithwyr profiadol a chymwys yn y diwydiant adeiladu. Daeth nifer helaeth o Gymry i'r amlwg yn y fasnach adeiladu yno bryd hynny, llawer ohonynt yn hanu o siroedd Caernarfon a Môn yn arbennig. Ar ôl gweithio fel saer yn Lerpwl am gyfnod, mentrodd Ellis Evans i adeiladu tai ar ei fenter ei hun yn Princes Park (ardal a oedd yn ehangu ac ymgyfoethogi'n gyflym bryd hynny) a hefyd, mewn partneriaeth ag eraill, yn Parliament Fields; yn Cedar Grove (lle'r ymgartrefodd), ac yn Anfield ac Aigburth. Bu'n aelod o gapel urddasol y Methodistiaid Calfinaidd, Princes Road, am rai blynyddoedd. Bu adeilad ysblennydd eglwys Princes Road, a agorwyd ym 1865, yn cael ei ystyried fel "eglwys gadeiriol Cymry Lerpwl", ond erbyn hyn mae'n adfeilion gwaetha'r modd.<ref> J.R. Jones, ''The Welsh Builder on Merseyside'', (Liverpool, 1946), tt.35-6.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. J.R. Jones, ''The Welsh Builder on Merseyside'', (Liverpool, 1946), tt.35-6.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Adeiladwyr]]

Fersiwn yn ôl 13:14, 16 Rhagfyr 2022

Roedd Ellis Evans, a aned ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1842, yn un o'r Cymry niferus a ddaeth yn adeiladwyr o fri yn Lerpwl yn yr 19g a dechrau'r 20g.

Cafodd addysg gynnar yn Ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog cyn cael ei brentisio'n saer coed gyda chontractwr o Gaernarfon. Daeth i Lerpwl yn ddyn ifanc 21 oed ym 1863. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd dinas a phorthladd Lerpwl yn tyfu'n eithriadol gyflym ac roedd galw mawr am weithwyr profiadol a chymwys yn y diwydiant adeiladu. Daeth nifer helaeth o Gymry i'r amlwg yn y fasnach adeiladu yno bryd hynny, llawer ohonynt yn hanu o siroedd Caernarfon a Môn yn arbennig. Ar ôl gweithio fel saer yn Lerpwl am gyfnod, mentrodd Ellis Evans i adeiladu tai ar ei fenter ei hun yn Princes Park (ardal a oedd yn ehangu ac ymgyfoethogi'n gyflym bryd hynny) a hefyd, mewn partneriaeth ag eraill, yn Parliament Fields; yn Cedar Grove (lle'r ymgartrefodd), ac yn Anfield ac Aigburth. Bu'n aelod o gapel urddasol y Methodistiaid Calfinaidd, Princes Road, am rai blynyddoedd. Bu adeilad ysblennydd eglwys Princes Road, a agorwyd ym 1865, yn cael ei ystyried fel "eglwys gadeiriol Cymry Lerpwl", ond erbyn hyn mae'n adfeilion gwaetha'r modd.[1]

Cyfeiriadau

  1. J.R. Jones, The Welsh Builder on Merseyside, (Liverpool, 1946), tt.35-6.