Ffatri Gaws Pontlyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Ffatri Gaws Pontllyfni i Ffatri Gaws Pontlyfni |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Yn rhifyn 70, Calan Gaeaf 2022, o'r cylchgrawn ''Fferm a Thyddyn'' ceir erthygl fer yn ymwneud â ffatri gynhyrchu caws a sefydlwyd ger Pont y Cim, ger | Yn rhifyn 70, Calan Gaeaf 2022, o'r cylchgrawn ''Fferm a Thyddyn'' ceir erthygl fer yn ymwneud â '''ffatri gynhyrchu caws''' a sefydlwyd ger [[Pont y Cim]], ger [[Pontlyfni]], yn fuan wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.<ref>H. Hughes, "Ffatri gaws Pontllyfni", erthygl yn ''Fferm a Thyddyn'', Rhif 70 Calan Gaeaf 2022, t.24.</ref> | ||
Mae'r darn byr yn ''Fferm a Thyddyn'' yn rhan o draethawd hwy a ysgrifennwyd gan H. Hughes (ni cheir mwy o fanylion pwy ydoedd) o'i atgofion am fywyd yn yr ardal oddeutu diwedd y Rhyfel Mawr a'r 1920au. Roedd yn gyfnod drwg i ffermwyr wedi'r rhyfel enbyd hwnnw a phenderfynodd tri o ffermwyr amlwg yn ardal Clynnog/ | Mae'r darn byr yn ''Fferm a Thyddyn'' yn rhan o draethawd hwy a ysgrifennwyd gan H. Hughes (ni cheir mwy o fanylion pwy ydoedd) o'i atgofion am fywyd yn yr ardal oddeutu diwedd y Rhyfel Mawr a'r 1920au. Roedd yn gyfnod drwg i ffermwyr wedi'r rhyfel enbyd hwnnw a phenderfynodd tri o ffermwyr amlwg yn ardal [[Clynnog]]/Pontlyfni, geisio rhoi hwb i'r economi leol drwy sefydlu ffatri gynhyrchu caws yn y gymdogaeth. Y tri hyn oedd Mr Owen, [[Pennarth]] ; Mr Jones, Tŷ'n Coed a thad H. Hughes, awdur yr atgofion (nas enwir). Cafwyd safle ar gyfer y ffatri ar lecyn o dir ar ochr Caernarfon i Bont y Cim, ar y groes lle mae'r ffordd yn fforchi, gydag un yn mynd ymlaen i gyfeiriad [[Glynllifon]] a'r llall i fyny'r allt am [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]]. Cafwyd cyflenwad o ddŵr o [[Afon Llyfni]] gerllaw i weithio'r peiriannau, gyda chafn yn ei gludo dros y ffordd. | ||
Dywedir mai merch ffarm ifanc o Foduan (nas enwir gwaetha'r modd), ac a oedd newydd orffen ei chwrs yn y brifysgol yn Aberystwyth, a benodwyd yn rheolwr y ffatri gaws gyda merch leol, Lily Brythonfa, yn gynorthwywr iddi. Penodwyd John Parry, Ysgubor Fawr, i gadw'r cyfrifon a hybu'r gwerthiant. Cafwyd gwasanaeth Owen Williams, | Dywedir mai merch ffarm ifanc o Foduan (nas enwir gwaetha'r modd), ac a oedd newydd orffen ei chwrs yn y brifysgol yn Aberystwyth, a benodwyd yn rheolwr y ffatri gaws gyda merch leol, Lily Brythonfa, yn gynorthwywr iddi. Penodwyd John Parry, Ysgubor Fawr, i gadw'r cyfrifon a hybu'r gwerthiant. Cafwyd gwasanaeth Owen Williams, [[Melin y Cim]] gerllaw, a oedd yn berchen ar lori fechan, i gludo llefrith o ffermydd cyfagos i'r ffatri a chludo'r caws wedyn oddi yno at y prynwyr. Dywedir yn yr erthygl y bu gwerthiant da ar y caws yn y gaeaf, ond nid cystal o bell ffordd yn ystod misoedd poeth yr haf. | ||
Ni pharhaodd y ffatri i weithredu'n hir a bu'n rhaid ei chau a gwerthu'r offer. Fodd bynnag, ni bu'n fethiant llwyr oherwydd cafwyd grant drwy'r Swyddfa Amaeth i gynhyrchu'r caws ar rai ffermydd. Dywedir ymhellach yn yr erthygl y daeth holl ferched y fro i'w ddefnyddio ac y cafwyd benthyg ystafell ym Mhennarth i hybu'r fasnach mae'n debyg. Gellid ystyried y ffatri gaws ger Pont y Cim fel rhagflaenydd i'r ffatri laeth lewyrchus a sefydlwyd yn Rhyd-y-gwystl ger Y Ffôr rai blynyddoedd yn ddiweddarach (Hufenfa De Arfon). | Ni pharhaodd y ffatri i weithredu'n hir a bu'n rhaid ei chau a gwerthu'r offer. Fodd bynnag, ni bu'n fethiant llwyr oherwydd cafwyd grant drwy'r Swyddfa Amaeth i gynhyrchu'r caws ar rai ffermydd. Dywedir ymhellach yn yr erthygl y daeth holl ferched y fro i'w ddefnyddio ac y cafwyd benthyg ystafell ym Mhennarth i hybu'r fasnach mae'n debyg. Gellid ystyried y ffatri gaws ger Pont y Cim fel rhagflaenydd i'r ffatri laeth lewyrchus a sefydlwyd yn Rhyd-y-gwystl ger Y Ffôr rai blynyddoedd yn ddiweddarach (Hufenfa De Arfon). | ||
Dyna swm a sylwedd yr erthygl a geir yn ''Fferm a Thyddyn'' i bob pwrpas. Mae'n brin o ran manylion, megis enwau rhai pobl cysylltiedig â'r fenter, ac yn y blaen. Byddai'n hynod ddiddorol cael rhagor o fanylion am y fenter yma. Tybed a oes gan rai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd ragor o wybodaeth amdani, a thybed a oes lluniau o'r ffatri ar gael yn rhywle? | Dyna swm a sylwedd yr erthygl a geir yn ''Fferm a Thyddyn'' i bob pwrpas. Mae'n brin o ran manylion, megis enwau rhai pobl cysylltiedig â'r fenter, ac yn y blaen. Byddai'n hynod ddiddorol cael rhagor o fanylion am y fenter yma. Tybed a oes gan rai o ddarllenwyr '''Cof y Cwmwd''' ragor o wybodaeth amdani, a thybed a oes lluniau o'r ffatri ar gael yn rhywle? | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Amaethyddiaeth]] | |||
[[Categori:Diwydiant a Masnach]] |
Fersiwn yn ôl 16:41, 6 Rhagfyr 2022
Yn rhifyn 70, Calan Gaeaf 2022, o'r cylchgrawn Fferm a Thyddyn ceir erthygl fer yn ymwneud â ffatri gynhyrchu caws a sefydlwyd ger Pont y Cim, ger Pontlyfni, yn fuan wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.[1]
Mae'r darn byr yn Fferm a Thyddyn yn rhan o draethawd hwy a ysgrifennwyd gan H. Hughes (ni cheir mwy o fanylion pwy ydoedd) o'i atgofion am fywyd yn yr ardal oddeutu diwedd y Rhyfel Mawr a'r 1920au. Roedd yn gyfnod drwg i ffermwyr wedi'r rhyfel enbyd hwnnw a phenderfynodd tri o ffermwyr amlwg yn ardal Clynnog/Pontlyfni, geisio rhoi hwb i'r economi leol drwy sefydlu ffatri gynhyrchu caws yn y gymdogaeth. Y tri hyn oedd Mr Owen, Pennarth ; Mr Jones, Tŷ'n Coed a thad H. Hughes, awdur yr atgofion (nas enwir). Cafwyd safle ar gyfer y ffatri ar lecyn o dir ar ochr Caernarfon i Bont y Cim, ar y groes lle mae'r ffordd yn fforchi, gydag un yn mynd ymlaen i gyfeiriad Glynllifon a'r llall i fyny'r allt am Ben-y-groes. Cafwyd cyflenwad o ddŵr o Afon Llyfni gerllaw i weithio'r peiriannau, gyda chafn yn ei gludo dros y ffordd.
Dywedir mai merch ffarm ifanc o Foduan (nas enwir gwaetha'r modd), ac a oedd newydd orffen ei chwrs yn y brifysgol yn Aberystwyth, a benodwyd yn rheolwr y ffatri gaws gyda merch leol, Lily Brythonfa, yn gynorthwywr iddi. Penodwyd John Parry, Ysgubor Fawr, i gadw'r cyfrifon a hybu'r gwerthiant. Cafwyd gwasanaeth Owen Williams, Melin y Cim gerllaw, a oedd yn berchen ar lori fechan, i gludo llefrith o ffermydd cyfagos i'r ffatri a chludo'r caws wedyn oddi yno at y prynwyr. Dywedir yn yr erthygl y bu gwerthiant da ar y caws yn y gaeaf, ond nid cystal o bell ffordd yn ystod misoedd poeth yr haf.
Ni pharhaodd y ffatri i weithredu'n hir a bu'n rhaid ei chau a gwerthu'r offer. Fodd bynnag, ni bu'n fethiant llwyr oherwydd cafwyd grant drwy'r Swyddfa Amaeth i gynhyrchu'r caws ar rai ffermydd. Dywedir ymhellach yn yr erthygl y daeth holl ferched y fro i'w ddefnyddio ac y cafwyd benthyg ystafell ym Mhennarth i hybu'r fasnach mae'n debyg. Gellid ystyried y ffatri gaws ger Pont y Cim fel rhagflaenydd i'r ffatri laeth lewyrchus a sefydlwyd yn Rhyd-y-gwystl ger Y Ffôr rai blynyddoedd yn ddiweddarach (Hufenfa De Arfon).
Dyna swm a sylwedd yr erthygl a geir yn Fferm a Thyddyn i bob pwrpas. Mae'n brin o ran manylion, megis enwau rhai pobl cysylltiedig â'r fenter, ac yn y blaen. Byddai'n hynod ddiddorol cael rhagor o fanylion am y fenter yma. Tybed a oes gan rai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd ragor o wybodaeth amdani, a thybed a oes lluniau o'r ffatri ar gael yn rhywle?
Cyfeiriadau
- ↑ H. Hughes, "Ffatri gaws Pontllyfni", erthygl yn Fferm a Thyddyn, Rhif 70 Calan Gaeaf 2022, t.24.