Seindorf Arian Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sefydlwyd '''Seindorf Arian Dyffryn Nantlle''' ym 1865 o dan yr enw "Band Penyrorsedd", ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle". Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian ''Frenhinol'' Dyffryn Nantlle'". | Sefydlwyd '''Seindorf Arian Dyffryn Nantlle''' ym 1865 o dan yr enw "Band Penyrorsedd", ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle". Rywbryd tua 1887-1888 newidwyd offerynnau pres am rai arian, gan newid yr enw a oedd erbyn hynny'n "Band Pres Dyffryn nantlle" i "Fand Arian Dyffryn Nantlle".<ref>''Y Genedl Gymreig'', 13.6.1888, t.8</ref> | ||
Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian ''Frenhinol'' Dyffryn Nantlle'". | |||
Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill [[Dyffryn Nantlle]], yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band sawl gwaith mor bell â De Cymru i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl. Ym 1899 cafwyd un o'i lwyddiannau mwyaf wrtgh ennill yng nghystadleuaeth y bandiau pres yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.<ref>''South Wales Daily News'', 24.7.1899, t.4</ref> | Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill [[Dyffryn Nantlle]], yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band sawl gwaith mor bell â De Cymru i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl. Ym 1899 cafwyd un o'i lwyddiannau mwyaf wrtgh ennill yng nghystadleuaeth y bandiau pres yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.<ref>''South Wales Daily News'', 24.7.1899, t.4</ref> |
Fersiwn yn ôl 19:45, 24 Tachwedd 2022
Sefydlwyd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle ym 1865 o dan yr enw "Band Penyrorsedd", ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle". Rywbryd tua 1887-1888 newidwyd offerynnau pres am rai arian, gan newid yr enw a oedd erbyn hynny'n "Band Pres Dyffryn nantlle" i "Fand Arian Dyffryn Nantlle".[1]
Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian Frenhinol Dyffryn Nantlle'".
Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill Dyffryn Nantlle, yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band sawl gwaith mor bell â De Cymru i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl. Ym 1899 cafwyd un o'i lwyddiannau mwyaf wrtgh ennill yng nghystadleuaeth y bandiau pres yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.[2]
Ceir darlun o un o'i ddigwyddiadau mwyaf poblogadd yn Y Brython mewn erthygl ddyddiedig Ionawr 1910 gan ddynes ddi-enw:
Y mae o'n arferiad ers pan ydw i'n cofio yn y Dyffryn, i'r band (Nantlle Vale Silver Band), ddwad i orymdeithio a chanu bob nos Calan, a mawr fydd yr helynt gan fawr a bach wrth ei gwrando. Eleni, buont yn canu mewn Watchnight ym Mhenygroes, a gynhelid gan y Wesleaid, ac wedi hynny, canasant hyd y strydoedd, ac amryw o laslancia yn cario ffagla, iddyn nhw weld y miwsig. Mi rodd hi fel canol dydd ym Mhenygroes a'r Nant nos Wener, a hogia Nanlla yn croesawu'r flwyddyn newydd gan i bedyddio hi efo miwsig swynol, nes oedd hen greigiau'r Silyn 'ma a gwaelod y Nant yn diaspedain. Ymhen arall y Dyffryn, 'roedd |Seindorf Deulyn a'u holl egni yn gwneud yr un peth. Pwy fel hogia'r chwareli am fiwsig mewn rhyw ffurf neu gilydd, ynte?[3]
Arweinydd y band am bump ar hugain o flynyddoedd oedd Tom Sarah, ac ef a gododd y band i'w safle uchel ymysg bandiau Cymru. Ymysg aelodau'r band ar ddechrau'r 20g. oedd ei fab John Sarah (Pencerdd Cernyw), a aeth ymlaen i fod yn arweinydd Band Moeltryfan.
Roedd Band Arian Dyffryn Nantlle yn un o'r bandiau pres cyntaf i gael ystafell bwrpasol wedi ei adeiladu yn arbennig ar eu cyfer, a hynny yn Nhal-y-sarn. Diddorol yw sylwi ar ffurf yr adeilad: er ei fod wedi ei godi'n bwrpasol at ddefnydd band, mae'n ymdebygu i gapel. Yn Nhalysarn mae'r band yn ymarfer hyd heddiw.[4]
Erbyn heddiw, nid oes ond y band hwn a Seindorf Trefor ar ôl o'r nifer helaeth o fandiau pres a fu wrthi yn ystod y 19g.
{[eginyn}}