Seindorf Arian Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sefydlwyd '''Seindorf Arian Dyffryn Nantlle''' ym 1865 o dan yr enw ''Band Penyrorsedd'', ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle"". Ym 1894 chwar...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sefydlwyd '''Seindorf Arian Dyffryn Nantlle''' ym 1865 o dan yr enw | Sefydlwyd '''Seindorf Arian Dyffryn Nantlle''' ym 1865 o dan yr enw "Band Penyrorsedd", ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle". Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian ''Frenhinol'' Dyffryn Nantlle'". | ||
Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill [[Dyffryn Nantlle]] yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn | Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill [[Dyffryn Nantlle]], yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band sawl gwaith mor bell â De Cymru i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl. Ym 1899 cafwyd un o'i lwyddiannau mwyaf wrtgh ennill yng nghystadleuaeth y bandiau pres yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.<ref>''South Wales Daily News'', 24.7.1899, t.4</ref> | ||
Y mae o'n arferiad ers pan ydw i'n cofio yn y Dyffryn, i'r band (Nantlle Vale Silver Band), ddwad i orymdeithio a chanu bob nos Calan, a mawr fydd yr helynt gan fawr a bach wrth ei gwrando. Eleni, buont yn canu mewn Watchnight ym Mhenygroes, a gynhelid gan y Wesleaid, ac wedi hynny, | Ceir darlun o un o'i ddigwyddiadau mwyaf poblogadd yn ''Y Brython'' mewn erthygl ddyddiedig Ionawr 1910 gan ddynes ddi-enw: | ||
Y mae o'n arferiad ers pan ydw i'n cofio yn y Dyffryn, i'r band (Nantlle Vale Silver Band), ddwad i orymdeithio a chanu bob nos Calan, a mawr fydd yr helynt gan fawr a bach wrth ei gwrando. Eleni, buont yn canu mewn Watchnight ym [[Pen-y-groes|Mhenygroes]], a gynhelid gan y Wesleaid, ac wedi hynny, canasant hyd y strydoedd, ac amryw o laslancia yn cario ffagla, iddyn nhw weld y miwsig. Mi rodd hi fel canol dydd ym Mhenygroes a'r Nant nos Wener, a hogia Nanlla yn croesawu'r flwyddyn newydd gan i bedyddio hi efo miwsig swynol, nes oedd hen greigiau'r Silyn 'ma a gwaelod y Nant yn diaspedain. Ymhen arall y Dyffryn, 'roedd [[Band Deulyn||Seindorf Deulyn]] a'u holl egni yn gwneud yr un peth. Pwy fel hogia'r chwareli am fiwsig mewn rhyw ffurf neu gilydd, ynte?<ref>''Y Brython Cymreig'', 6.1.1910, t.5</ref> | |||
Arweinydd y band am bump ar hugain o flynyddoedd oedd [[Tom Sarah]], ac ef a gododd y band i'w safle uchel ymysg bandiau Cymru. Ymysg aelodau'r band ar ddechrau'r 20g. oedd ei fab [[John Sarah (Pencerdd Cernyw)]], a aeth ymlaen i fod yn arweinydd [[Band Moeltryfan]]. | |||
Erbyn heddiw, nid oes ond y band hwn a Seindorf Trefor ar | Roedd Band Arian Dyffryn Nantlle yn un o'r bandiau pres cyntaf i gael ystafell bwrpasol wedi ei adeiladu yn arbennig ar eu cyfer, a hynny yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Diddorol yw sylwi ar ffurf yr adeilad: er ei fod wedi ei godi'n bwrpasol at ddefnydd band, mae'n ymdebygu i gapel. Yn Nhalysarn mae'r band yn ymarfer hyd heddiw.<ref>Gwefan Nantlle.com, [http://www.nantlle.com/band-dyffryn-nantlle-cymraeg.htm], cyrchwyd 25..11.2022</ref> | ||
Erbyn heddiw, nid oes ond y band hwn a [[Seindorf Trefor]] ar ôl o'r nifer helaeth o fandiau pres a fu wrthi yn ystod y 19g. | |||
{[eginyn}} | {[eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 19:37, 24 Tachwedd 2022
Sefydlwyd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle ym 1865 o dan yr enw "Band Penyrorsedd", ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle". Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian Frenhinol Dyffryn Nantlle'".
Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill Dyffryn Nantlle, yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band sawl gwaith mor bell â De Cymru i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl. Ym 1899 cafwyd un o'i lwyddiannau mwyaf wrtgh ennill yng nghystadleuaeth y bandiau pres yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.[1]
Ceir darlun o un o'i ddigwyddiadau mwyaf poblogadd yn Y Brython mewn erthygl ddyddiedig Ionawr 1910 gan ddynes ddi-enw:
Y mae o'n arferiad ers pan ydw i'n cofio yn y Dyffryn, i'r band (Nantlle Vale Silver Band), ddwad i orymdeithio a chanu bob nos Calan, a mawr fydd yr helynt gan fawr a bach wrth ei gwrando. Eleni, buont yn canu mewn Watchnight ym Mhenygroes, a gynhelid gan y Wesleaid, ac wedi hynny, canasant hyd y strydoedd, ac amryw o laslancia yn cario ffagla, iddyn nhw weld y miwsig. Mi rodd hi fel canol dydd ym Mhenygroes a'r Nant nos Wener, a hogia Nanlla yn croesawu'r flwyddyn newydd gan i bedyddio hi efo miwsig swynol, nes oedd hen greigiau'r Silyn 'ma a gwaelod y Nant yn diaspedain. Ymhen arall y Dyffryn, 'roedd |Seindorf Deulyn a'u holl egni yn gwneud yr un peth. Pwy fel hogia'r chwareli am fiwsig mewn rhyw ffurf neu gilydd, ynte?[2]
Arweinydd y band am bump ar hugain o flynyddoedd oedd Tom Sarah, ac ef a gododd y band i'w safle uchel ymysg bandiau Cymru. Ymysg aelodau'r band ar ddechrau'r 20g. oedd ei fab John Sarah (Pencerdd Cernyw), a aeth ymlaen i fod yn arweinydd Band Moeltryfan.
Roedd Band Arian Dyffryn Nantlle yn un o'r bandiau pres cyntaf i gael ystafell bwrpasol wedi ei adeiladu yn arbennig ar eu cyfer, a hynny yn Nhal-y-sarn. Diddorol yw sylwi ar ffurf yr adeilad: er ei fod wedi ei godi'n bwrpasol at ddefnydd band, mae'n ymdebygu i gapel. Yn Nhalysarn mae'r band yn ymarfer hyd heddiw.[3]
Erbyn heddiw, nid oes ond y band hwn a Seindorf Trefor ar ôl o'r nifer helaeth o fandiau pres a fu wrthi yn ystod y 19g.
{[eginyn}}