Cwmni Bysiau Trefor Blue: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cwmni bysiau a sefydlwyd gan John Aled Thomas (1903-1949) oddeutu 1922-23 mewn cystadleuaeth â chwmni Clynnog a Trefor (y Moto Coch) oedd hwn. Roedd Ale...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Cwmni bysiau a sefydlwyd gan John Aled Thomas (1903-1949) oddeutu 1922-23 mewn cystadleuaeth â chwmni Clynnog a Trefor (y Moto Coch) oedd hwn.
Sefydlwyd '''Cwmni bysiau Trefor Blue''' gan John Aled Thomas (1903-1949) oddeutu 1922-23 mewn cystadleuaeth â chwmni [[Clynnog a Threfor]] (y Moto Coch).


Roedd Aled Thomas yn fab i John Thomas (1859-1921), Bryn Coch, Trefor, a fu â busnes cariwr gyda cheffyl a throl cyn dyfodiad oes y bysiau ac a wnaed yn gondyctor cyntaf y Moto Coch ym 1912. Ni fu hynny'n rhwystr, fodd bynnag, i'w fab sefydlu cwmni a fu'n cystadlu'n ffyrnig â'r Moto Coch am gwsmeriaid am rai blynyddoedd. Sefydlwyd y cwmni newydd - y Trefor Blue - neu Moto Aled fel y'i gelwid yn lleol - gan Aled Thomas oddeutu 1922-23 mae'n debyg (nid yw'r union ddyddiad yn hysbys). Un bws oedd ganddo i ddechrau ond buan aeth hynny'n ddau gan gyflogi dau yrrwr, Evan John Williams o'r Allt, Clynnog - a adwaenid yn rhinwedd ei swydd fel 'Ifan Aled' - a William Lloyd, 'Rynys, Llanaelhaearn. Gyda chynnydd y cwmni codwyd garej helaeth yn iard Bryn Coch i gadw'r cerbydau a'u trin. Bu honno ar ei thraed am flynyddoedd wedi diflaniad y cwmni. Tua dechrau'r 1930au prynodd cwmni'r Blue dri bws - dau ADC ac un Commer Invader. Fodd bynnag, roedd Aled wedi mentro gormod ac ehangu'n rhy gyflym a buan yr aeth y fenter i drafferthion. Roedd teyrngarwch pennaf pentrefi Clynnog a Threfor i'r Moto Coch gyda chysylltiadau rhwng llawer o deuluoedd â'r cwmni hwnnw. Erbyn 1934 dim ond un bws ADC oedd gan y 'Blue' a daeth y cyfan i ben y flwyddyn honno pan brynwyd y bws hwnnw gan y Moto Coch a rhoi swydd gyrrwr yn eironig iawn i Aled. Parhaodd yntau yn y swydd honno, a pharhau i drin ceir a gwerthu petrol o'r garej ym Mryn Coch, tan ei farwolaeth ar 13 Mai 1949 yn 46 oed. Bu ei weddw, Sarah Thomas (a adwaenid fel 'Nyrs Aled' - sef ei galwedigaeth), fyw tan 1976 pan fu farw'n 76 oed. Hyd o fewn ychydig flynyddoedd i'w marwolaeth daliodd ati ym mhob tywydd i werthu petrol ym Mryn Coch gan ddefnyddio'r hen bympiau llaw hen ffasiwn a llafurus a oedd yno.<sup>[1]</sup>
Roedd Aled Thomas yn fab i John Thomas (1859-1921), Bryn Coch, [[Trefor]], a fu â busnes cariwr gyda cheffyl a throl cyn dyfodiad oes y bysiau ac a wnaed yn gondyctor cyntaf y Moto Coch ym 1912. Ni fu hynny'n rhwystr, fodd bynnag, i'w fab sefydlu cwmni a fu'n cystadlu'n ffyrnig â'r Moto Coch am gwsmeriaid am rai blynyddoedd. Sefydlwyd y cwmni newydd - y Trefor Blue - neu Moto Aled fel y'i gelwid yn lleol - gan Aled Thomas oddeutu 1922-23 mae'n debyg (nid yw'r union ddyddiad yn hysbys). Un bws oedd ganddo i ddechrau ond buan aeth hynny'n ddau gan gyflogi dau yrrwr, Evan John Williams o'r Allt, [[Clynnog Fawr]] - a adwaenid yn rhinwedd ei swydd fel 'Ifan Aled' - a William Lloyd, 'Rynys, [[Llanaelhaearn]]. Gyda chynnydd y cwmni codwyd garej helaeth yn iard Bryn Coch i gadw'r cerbydau a'u trin. Bu honno ar ei thraed am flynyddoedd wedi diflaniad y cwmni. Tua dechrau'r 1930au prynodd cwmni'r Blue dri bws - dau ADC ac un Commer Invader. Fodd bynnag, roedd Aled wedi mentro gormod ac ehangu'n rhy gyflym a buan yr aeth y fenter i drafferthion. Roedd teyrngarwch pennaf pentrefi Clynnog a Threfor i'r Moto Coch gyda chysylltiadau rhwng llawer o deuluoedd â'r cwmni hwnnw. Erbyn 1934 dim ond un bws ADC oedd gan y 'Blue' a daeth y cyfan i ben y flwyddyn honno pan brynwyd y bws hwnnw gan y Moto Coch a rhoi swydd gyrrwr yn eironig iawn i Aled. Parhaodd yntau yn y swydd honno, a pharhau i drin ceir a gwerthu petrol o'r garej ym Mryn Coch, tan ei farwolaeth ar 13 Mai 1949 yn 46 oed. Bu ei weddw, Sarah Thomas (a adwaenid fel 'Nyrs Aled' - sef ei galwedigaeth), fyw tan 1976 pan fu farw'n 76 oed. Hyd o fewn ychydig flynyddoedd i'w marwolaeth daliodd ati ym mhob tywydd i werthu petrol ym Mryn Coch gan ddefnyddio'r hen bympiau llaw hen ffasiwn a llafurus a oedd yno.<ref>Geraint Jones, ''Moto Ni, Moto Coch'', (Gwasg Carreg Gwalch, 2012), tt.54-61.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Geraint Jones, ''Moto Ni, Moto Coch'', (Gwasg Carreg Gwalch, 2012), tt.54-61.
[[Categori:Bysiau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:59, 24 Tachwedd 2022

Sefydlwyd Cwmni bysiau Trefor Blue gan John Aled Thomas (1903-1949) oddeutu 1922-23 mewn cystadleuaeth â chwmni Clynnog a Threfor (y Moto Coch).

Roedd Aled Thomas yn fab i John Thomas (1859-1921), Bryn Coch, Trefor, a fu â busnes cariwr gyda cheffyl a throl cyn dyfodiad oes y bysiau ac a wnaed yn gondyctor cyntaf y Moto Coch ym 1912. Ni fu hynny'n rhwystr, fodd bynnag, i'w fab sefydlu cwmni a fu'n cystadlu'n ffyrnig â'r Moto Coch am gwsmeriaid am rai blynyddoedd. Sefydlwyd y cwmni newydd - y Trefor Blue - neu Moto Aled fel y'i gelwid yn lleol - gan Aled Thomas oddeutu 1922-23 mae'n debyg (nid yw'r union ddyddiad yn hysbys). Un bws oedd ganddo i ddechrau ond buan aeth hynny'n ddau gan gyflogi dau yrrwr, Evan John Williams o'r Allt, Clynnog Fawr - a adwaenid yn rhinwedd ei swydd fel 'Ifan Aled' - a William Lloyd, 'Rynys, Llanaelhaearn. Gyda chynnydd y cwmni codwyd garej helaeth yn iard Bryn Coch i gadw'r cerbydau a'u trin. Bu honno ar ei thraed am flynyddoedd wedi diflaniad y cwmni. Tua dechrau'r 1930au prynodd cwmni'r Blue dri bws - dau ADC ac un Commer Invader. Fodd bynnag, roedd Aled wedi mentro gormod ac ehangu'n rhy gyflym a buan yr aeth y fenter i drafferthion. Roedd teyrngarwch pennaf pentrefi Clynnog a Threfor i'r Moto Coch gyda chysylltiadau rhwng llawer o deuluoedd â'r cwmni hwnnw. Erbyn 1934 dim ond un bws ADC oedd gan y 'Blue' a daeth y cyfan i ben y flwyddyn honno pan brynwyd y bws hwnnw gan y Moto Coch a rhoi swydd gyrrwr yn eironig iawn i Aled. Parhaodd yntau yn y swydd honno, a pharhau i drin ceir a gwerthu petrol o'r garej ym Mryn Coch, tan ei farwolaeth ar 13 Mai 1949 yn 46 oed. Bu ei weddw, Sarah Thomas (a adwaenid fel 'Nyrs Aled' - sef ei galwedigaeth), fyw tan 1976 pan fu farw'n 76 oed. Hyd o fewn ychydig flynyddoedd i'w marwolaeth daliodd ati ym mhob tywydd i werthu petrol ym Mryn Coch gan ddefnyddio'r hen bympiau llaw hen ffasiwn a llafurus a oedd yno.[1]

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Moto Ni, Moto Coch, (Gwasg Carreg Gwalch, 2012), tt.54-61.