Jane Roberts (Shan Fwyn), Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:


   Nid oes ond rhinwedd gwaed yr Oen
   Nid oes ond rhinwedd gwaed yr Oen
A dal i son amdano;
  A dal i son amdano;
Rwyf wedi penderfynu nghred,
  Rwyf wedi penderfynu nghred,
Y rhof f'ymddiried ynddo.
  Y rhof f'ymddiried ynddo.


Mae achos canu nos a dydd,
  Mae achos canu nos a dydd,
Gan bawb fedd ffydd yn Iesu;
  Gan bawb fedd ffydd yn Iesu;
Er bod gorthrymder yn eu rhan,
  Er bod gorthrymder yn eu rhan,
Hwy allant orfoleddu.
  Hwy allant orfoleddu.


O! ddedwydd deulu'r nefol wlad,
  O! ddedwydd deulu'r nefol wlad,
A gan am waed y cymod,
  A gân am waed y cymod,
Cant fyw mewn byd o fythol hedd,
  Cânt fyw mewn byd o fythol hedd,
A'u llygredd wedi darfod.
  A'u llygredd wedi darfod.
J.RS.
  J.RS.


Mae emyn rhif 362, sydd â'r teitl "Rhinweddau gwaed Crist", hefyd yn ymddangos yn y ''Llawlyfr Moliant Newydd'' ond erbyn hynny priodolir yr emyn hwn i un arall o grefyddwyr amlwg Uwchgwyrfai, sef John Roberts, Llanllyfni (Llangwm yn ddiweddarach). Roedd ef yn enedigol o fferm Ffridd Baladeulyn ac yn frawd i'r pregethwr nodedig, Robert Roberts, Clynnog.  
Mae emyn rhif 362, sydd â'r teitl "Rhinweddau gwaed Crist", hefyd yn ymddangos yn y ''Llawlyfr Moliant Newydd'' ond erbyn hynny priodolir yr emyn hwn i un arall o grefyddwyr amlwg Uwchgwyrfai, sef John Roberts, Llanllyfni (Llangwm yn ddiweddarach). Roedd ef yn enedigol o fferm Ffridd Baladeulyn ac yn frawd i'r pregethwr nodedig, Robert Roberts, Clynnog.  

Fersiwn yn ôl 11:24, 21 Tachwedd 2022

Emynyddes a oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr oedd Jane Roberts, a elwid hefyd yn Shân Fwyn.

Prin iawn yw gwybodaeth amdani, a dywed Cybi iddi fyw yn rhan olaf y ddeunawfed a rhan gyntaf y ganrif ddilynol. Mewn ymddiddan â Cybi, dywedodd Richard Williams, Central Stores, Pen-y-groes wrtho fod Jane yn perthyn mewn rhyw ffordd i'r gweinidog amlwg gyda'r Bedyddwyr, Robert Jones, Llanllyfni, a oedd hefyd yn emynydd. (Roedd Richard Williams yn nai i Robert Jones.) Bedyddwraig o argyhoeddiadau cryfion oedd Jane ac roedd pwnc y bedydd yn bwysig iawn iddi ac yn cael lle amlwg yn ei hemynau. Fodd bynnag, roedd yn anllythrennog a dywedir fod ei hemynau wedi cael eu hysgrifennu gan John Jones, Tal-y-sarn a Robert Jones ar ôl cael eu trosglwyddo ar dafod leferydd. Dywedir bod ei gwaith wedi cael ei ddiogelu mewn tri o lyfrynnau a honnir gan Cybi fod un yn "yr Amgueddfa yn Llundain" (tybed ai'r Llyfrgell Brydeinig sydd dan sylw ganddo), y llall yn "Llyfrfa Bangor" (ai Llyfrgell y Brifysgol?) a'r trydydd ym meddiant Richard Williams, Central Stores. Roedd Robert Jones wedi mynd mor bell â dweud fod ei dawn fel emynydd yn gyffelyb i un Ann Griffiths, ond prin y gellir credu hynny. Yn ôl Cybi ymddangosodd peth o'i gwaith yn llyfr emynau'r Bedyddwyr, y Llawlyfr Moliant ac ambell un mewn casgliadau cynnar o emynau.[1]

Yn y Llawlyfr Moliant (1890) ceir 5 emyn a briodolir i Jane Roberts, sef rhifau 171, 362, 439, 461 a 462. Yn y Llawlyfr Moliant Newydd (1955), ceir un emyn o'i gwaith, a ymddangosodd fel rhif 171 (gyda rhai mân wahaniaethau) yn Llawlyfr Moliant 1890. Dyma'r emyn hwnnw:

 Gwaed yr Oen
 Nid oes ond rhinwedd gwaed yr Oen
 A dal i son amdano;
 Rwyf wedi penderfynu nghred,
 Y rhof f'ymddiried ynddo.
 Mae achos canu nos a dydd,
 Gan bawb fedd ffydd yn Iesu;
 Er bod gorthrymder yn eu rhan,
 Hwy allant orfoleddu.
 O! ddedwydd deulu'r nefol wlad,
 A gân am waed y cymod,
 Cânt fyw mewn byd o fythol hedd,
 A'u llygredd wedi darfod.
 J.RS.

Mae emyn rhif 362, sydd â'r teitl "Rhinweddau gwaed Crist", hefyd yn ymddangos yn y Llawlyfr Moliant Newydd ond erbyn hynny priodolir yr emyn hwn i un arall o grefyddwyr amlwg Uwchgwyrfai, sef John Roberts, Llanllyfni (Llangwm yn ddiweddarach). Roedd ef yn enedigol o fferm Ffridd Baladeulyn ac yn frawd i'r pregethwr nodedig, Robert Roberts, Clynnog.

Cyfeiriadau

  1. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), t.9.