Thomas Wynn Belasyse: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Thomas Edward Glynn Wynn''', a fabwysiadodd yr enw Thomas Wynn Belasyse (c.1770-1836) ar ôl iddo briodi, yn un o dri mab y Cyrnol Glynn Wynn...'
 
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Thomas Edward Glynn Wynn''', a fabwysiadodd yr enw Thomas Wynn Belasyse (c.1770-1836) ar ôl iddo briodi, yn un o dri mab y Cyrnol [[Glynn Wynn]], Tŷ’r Tŵr, Caernarfon, a fu’n aelod seneddol dros fwrdeistrefi Sir Gaernarfon, 1768-1781; ac yn ŵyr i [[Syr John Wynn]], yr ail farwnig o [[Glynllifon]]. Wedi i Glynn Wynn farw, cafodd Thomas swydd ei dad fel protonotari Gogledd Cymru am gyfnod.
Roedd '''Thomas Edward Glynn Wynn''', a fabwysiadodd yr enw Thomas Wynn Belasyse (c.1770-1836) ar ôl iddo briodi, yn un o dri mab y Cyrnol [[Glynn Wynn]], Tŷ’r Tŵr, Caernarfon, a fu’n aelod seneddol dros fwrdeistrefi Sir Gaernarfon, 1768-1781; ac yn ŵyr i [[Syr John Wynn]], yr ail farwnig o [[Glynllifon]]. Wedi i Glynn Wynn farw, cafodd Thomas swydd ei dad fel protonotari Gogledd Cymru am gyfnod.


Ym 1801, priododd Thomas y Fonesig Charlotte Belasyse, merch hynaf ail Iarll Fauconberg o Briordy Newburgh (neu Newborough) ger Coxwold yng Ngogledd Swydd Efrog, gan ddod yn breswylydd Newburgh nes i Charlotte farw ym 1825.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor, GB 222 BMSS CWB</ref> Mabwysiadodd ei chyfenw teuluol hi. Ym 1810-11, gwasanaethodd Thomas Wynn Belasyse fel uchel siryf Swydd Efrog, a dywedir iddo wario £40,000 yn ystod ei flwyddyn yn y swydd oherwydd y gofynion ohoni oedd arno.  
Ym 1801, priododd Thomas y Fonesig Charlotte Belasyse, merch hynaf ail Iarll Fauconberg o Briordy Newburgh (neu Newborough) ger Coxwold yng Ngogledd Swydd Efrog, gan ddod yn breswylydd Newburgh nes i Charlotte farw ym 1825.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor, GB 222 BMSS CWB</ref> Mabwysiadodd ei chyfenw teuluol hi. Ym 1810-11, gwasanaethodd Thomas Wynn Belasyse fel uchel siryf Swydd Efrog, a dywedir iddo wario £40,000 yn ystod ei flwyddyn yn y swydd oherwydd y gofynion trwm a oedd yn gysylltiedig â hi.  


Prif berthnasedd Thomas Wynn Belasyse i hanes Uwchgwyrfai yw’r ffaith y cafodd ei enwi’n un o ymddiriedolwyr [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]], ei ewyrth. Pan fu farw hwnnw ym 1807, daeth Wynn Belasyse yn brif warchodwr ei ddau fab, [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough|Thomas John]] a etifeddodd y teitl o Arglwydd Newborough, ac yntau ond yn bump oed, a [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough|Spencer Bulkeley]]. Yn sicr, wedi i’w mam, [[Maria Stella]] ail-briodi â bonheddwr o Estonia a symud i Tallinn, Wynn Belasyse oedd yn gweithredu bron fel rhiant, yn trefnu addysg y bechgyn a’u croesawu i Newburgh o bryd i’w gilydd. Serch i Maria Stella gael ei gwahanu oddi wrth ei meibion, arhosai’n ddraenen yn ystlys Wynn Belasyse wrth iddo geisio cadw’r bechgyn gan yr hyn a ystyriai'n ddylanwad drwg eu mam. Bu hefyd yn weithgar ym materion [[Ystad Glynllifon]].<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/passim</ref>
Prif berthnasedd Thomas Wynn Belasyse i hanes Uwchgwyrfai yw’r ffaith y cafodd ei enwi’n un o ymddiriedolwyr [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]], ei ewyrth. Pan fu farw hwnnw ym 1807, daeth Wynn Belasyse yn brif warchodwr ei ddau fab, [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough|Thomas John]] a etifeddodd y teitl Arglwydd Newborough, ac yntau ond yn bump oed, a [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough|Spencer Bulkeley]]. Yn sicr, wedi i’w mam, [[Maria Stella]], ail-briodi â bonheddwr o Estonia a symud i Tallinn, Wynn Belasyse oedd yn gweithredu bron fel rhiant iddynt, yn trefnu addysg y bechgyn a’u croesawu i Newburgh o bryd i’w gilydd. Serch i Maria Stella gael ei gwahanu oddi wrth ei meibion, arhosodd yn ddraenen yn ystlys Wynn Belasyse wrth iddo geisio cadw’r bechgyn oddi wrth yr hyn a ystyriai'n ddylanwad drwg eu mam. Bu hefyd yn weithgar ym materion [[Ystad Glynllifon]].<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/passim</ref>


Roedd gan Wynn Belasyse uchelgais i fod yn aelod seneddol, a gobeithiai y byddai’n cael ei enwebu fel yr aelod dros Fiwmares gan deulu Bulkeley ym 1807 ar farwolaeth ei ewyrth, yr Arglwydd Newborough, a oedd cyn hynny’n cynrychioli’r sedd. Gwrthododd yr Arglwydd Bulkeley gydsynio fodd bynnag, ac achosodd hyn rwyg rhwng y ddau deulu’n wleidyddol.<ref>Gwefan History of Parliament, [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1790-1820/constituencies/beaumaris], cyrchwyd 14.11.2022</ref>
Roedd gan Wynn Belasyse uchelgais i fod yn aelod seneddol, a gobeithiai y byddai’n cael ei enwebu fel yr aelod dros Fiwmares gan deulu Bulkeley ym 1807 ar farwolaeth ei ewyrth, yr Arglwydd Newborough, a oedd wedi dal y sedd cyn hynny. Gwrthododd yr Arglwydd Bulkeley gydsynio fodd bynnag, ac achosodd hyn rwyg rhwng y ddau deulu’n wleidyddol.<ref>Gwefan History of Parliament, [https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1790-1820/constituencies/beaumaris], cyrchwyd 14.11.2022</ref>


Rhaid oedd iddo symud o Newburgh pan fu farw Charlotte ym 1825, gan mai etifedd yr ystâd oedd Syr George Wombwell, barwnig, brawd-yng-nghyfraith Charlotte. O hynny allan, mae’n debyg i Wynn Belasyse fyw yn Llundain.<ref>Erthygl Wikipedia ar Newburgh Priory, [https://en.wikipedia.org/wiki/Newburgh_Priory], cyrchwyd 14.11.2022</ref> Nid oedd hyn yn creu trafferth ar y dechrau, gan fod ganddo yn Stryd George, Sgwâr Hanover, Westminster.<ref>Llyfrau Treth Dinas Westminster, 1801-1822</ref> Dichon iddo fyw mewn sawl tŷ rhent wedi hynny. Mae yna awgrym mewn llythyrau rhwng asiantwyr a chyfreithwyr Ystad Glynllifon ar ran Thomas John, yr ail Arglwydd Newborough wedi iddo gyrraedd 21 oed, fod rhaid i arian, a oedd i gael ei dalu i Wynn Belasyse fel blwydd-dâl dan ewyllys ei ewyrth, i’w dargyfeirio i’w gredydwyr. Erbyn 1827, roedd yn byw ym Mharis, allan o afael ei gredydwyr, a rhoddodd hysbyseb yn y ''London Gazette'' yn cyhoeddi ei fod wedi trosglwyddo ei holl eiddo i ymddiriedolwyr a fyddai’n defnyddio’r cyfryw i fodloni’r rhai yr oedd mewn dyled iddynt.<ref>''London Gazette'', 1827, t.2612</ref>
Bu'n rhaid iddo symud o Newburgh pan fu farw Charlotte ym 1825, gan mai etifedd yr ystâd oedd Syr George Wombwell, barwnig, brawd-yng-nghyfraith Charlotte. O hynny allan, mae’n debyg i Wynn Belasyse fyw yn Llundain.<ref>Erthygl Wikipedia ar Newburgh Priory, [https://en.wikipedia.org/wiki/Newburgh_Priory], cyrchwyd 14.11.2022</ref> Nid oedd hyn yn creu trafferth ar y dechrau, gan fod ganddo yn Stryd George, Sgwâr Hanover, Westminster.<ref>Llyfrau Treth Dinas Westminster, 1801-1822</ref> Dichon iddo fyw mewn sawl tŷ rhent wedi hynny. Mae yna awgrym mewn llythyrau rhwng asiantwyr a chyfreithwyr Ystad Glynllifon ar ran Thomas John, yr ail Arglwydd Newborough wedi iddo gyrraedd 21 oed, fod rhaid i arian, a oedd i gael ei dalu i Wynn Belasyse fel blwydd-dâl dan ewyllys ei ewyrth, gael ei ddargyfeirio i’w gredydwyr. Erbyn 1827, roedd yn byw ym Mharis, allan o afael ei gredydwyr, a rhoddodd hysbyseb yn y ''London Gazette'' yn cyhoeddi ei fod wedi trosglwyddo ei holl eiddo i ymddiriedolwyr a fyddai’n defnyddio’r cyfryw i fodloni’r rhai yr oedd mewn dyled iddynt.<ref>''London Gazette'', 1827, t.2612</ref>


Bu farw fis Awst 1836, ac mewn llythyr at y trydydd Arglwydd, torrodd Capten Perceval (cefnder o bell i deulu Newborough trwy briodas) y newyddion am ei farwolaeth. Mae’n amlwg fod y diwedd wedi bod yn drist os nad yn boenus, gan i Wynn Belasyse farw mewn carchar i ddyledwyr. Cafodd ei gladdu’n amharchus o sydyn, yn ôl y Capten, gan fod rhaid symud y corff yn syth rhag gorfod talu rhent am wythnos arall. Fe’i claddwyd ym medd ei fodryb er mwyn arbed y gost o fedd newydd, a hynny gyda chyn lleied o wario ag oedd yn ymarferol. “Cafodd ei gladdu mewn modd oedd yn nes at gladdu ci na chladdu bod dynol – felly mae dyn pan fydd arian yn y cwestiwn” meddai.<ref>Archifdy Glynllifon, XD2/18317</ref>
Bu farw fis Awst 1836, ac mewn llythyr at y trydydd Arglwydd Newborough, torrodd Capten Perceval (cefnder o bell i deulu Newborough trwy briodas) y newyddion am ei farwolaeth. Mae’n amlwg fod y diwedd wedi bod yn drist os nad yn boenus, gan i Wynn Belasyse farw mewn carchar i ddyledwyr. Cafodd ei gladdu’n amharchus o sydyn, yn ôl y Capten, gan fod rhaid symud y corff yn syth rhag gorfod talu rhent am wythnos arall. Fe’i claddwyd ym medd ei fodryb er mwyn arbed y gost o fedd newydd, a hynny gyda chyn lleied o wario ag oedd yn ymarferol. “Cafodd ei gladdu mewn modd oedd yn nes at gladdu ci na chladdu bod dynol – felly mae dyn pan fydd arian yn y cwestiwn” meddai.<ref>Archifdy Glynllifon, XD2/18317</ref>


'' '''Sylwer''' '': Cyd-ddigwyddiad llwyr yw’r tebygrwydd rhwng teitl ei daid, sef “Arglwydd Newborough” ac enw Priordy Newburgh neu Newborough yn Coxwold.  
'' '''Sylwer''' '': Cyd-ddigwyddiad llwyr yw’r tebygrwydd rhwng teitl ei daid, sef “Arglwydd Newborough”, ac enw Priordy Newburgh neu Newborough yn Coxwold.  


==cyfeiriadau==
==cyfeiriadau==


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:53, 15 Tachwedd 2022

Roedd Thomas Edward Glynn Wynn, a fabwysiadodd yr enw Thomas Wynn Belasyse (c.1770-1836) ar ôl iddo briodi, yn un o dri mab y Cyrnol Glynn Wynn, Tŷ’r Tŵr, Caernarfon, a fu’n aelod seneddol dros fwrdeistrefi Sir Gaernarfon, 1768-1781; ac yn ŵyr i Syr John Wynn, yr ail farwnig o Glynllifon. Wedi i Glynn Wynn farw, cafodd Thomas swydd ei dad fel protonotari Gogledd Cymru am gyfnod.

Ym 1801, priododd Thomas y Fonesig Charlotte Belasyse, merch hynaf ail Iarll Fauconberg o Briordy Newburgh (neu Newborough) ger Coxwold yng Ngogledd Swydd Efrog, gan ddod yn breswylydd Newburgh nes i Charlotte farw ym 1825.[1] Mabwysiadodd ei chyfenw teuluol hi. Ym 1810-11, gwasanaethodd Thomas Wynn Belasyse fel uchel siryf Swydd Efrog, a dywedir iddo wario £40,000 yn ystod ei flwyddyn yn y swydd oherwydd y gofynion trwm a oedd yn gysylltiedig â hi.

Prif berthnasedd Thomas Wynn Belasyse i hanes Uwchgwyrfai yw’r ffaith y cafodd ei enwi’n un o ymddiriedolwyr Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough, ei ewyrth. Pan fu farw hwnnw ym 1807, daeth Wynn Belasyse yn brif warchodwr ei ddau fab, Thomas John a etifeddodd y teitl Arglwydd Newborough, ac yntau ond yn bump oed, a Spencer Bulkeley. Yn sicr, wedi i’w mam, Maria Stella, ail-briodi â bonheddwr o Estonia a symud i Tallinn, Wynn Belasyse oedd yn gweithredu bron fel rhiant iddynt, yn trefnu addysg y bechgyn a’u croesawu i Newburgh o bryd i’w gilydd. Serch i Maria Stella gael ei gwahanu oddi wrth ei meibion, arhosodd yn ddraenen yn ystlys Wynn Belasyse wrth iddo geisio cadw’r bechgyn oddi wrth yr hyn a ystyriai'n ddylanwad drwg eu mam. Bu hefyd yn weithgar ym materion Ystad Glynllifon.[2]

Roedd gan Wynn Belasyse uchelgais i fod yn aelod seneddol, a gobeithiai y byddai’n cael ei enwebu fel yr aelod dros Fiwmares gan deulu Bulkeley ym 1807 ar farwolaeth ei ewyrth, yr Arglwydd Newborough, a oedd wedi dal y sedd cyn hynny. Gwrthododd yr Arglwydd Bulkeley gydsynio fodd bynnag, ac achosodd hyn rwyg rhwng y ddau deulu’n wleidyddol.[3]

Bu'n rhaid iddo symud o Newburgh pan fu farw Charlotte ym 1825, gan mai etifedd yr ystâd oedd Syr George Wombwell, barwnig, brawd-yng-nghyfraith Charlotte. O hynny allan, mae’n debyg i Wynn Belasyse fyw yn Llundain.[4] Nid oedd hyn yn creu trafferth ar y dechrau, gan fod tŷ ganddo yn Stryd George, Sgwâr Hanover, Westminster.[5] Dichon iddo fyw mewn sawl tŷ rhent wedi hynny. Mae yna awgrym mewn llythyrau rhwng asiantwyr a chyfreithwyr Ystad Glynllifon ar ran Thomas John, yr ail Arglwydd Newborough wedi iddo gyrraedd 21 oed, fod rhaid i arian, a oedd i gael ei dalu i Wynn Belasyse fel blwydd-dâl dan ewyllys ei ewyrth, gael ei ddargyfeirio i’w gredydwyr. Erbyn 1827, roedd yn byw ym Mharis, allan o afael ei gredydwyr, a rhoddodd hysbyseb yn y London Gazette yn cyhoeddi ei fod wedi trosglwyddo ei holl eiddo i ymddiriedolwyr a fyddai’n defnyddio’r cyfryw i fodloni’r rhai yr oedd mewn dyled iddynt.[6]

Bu farw fis Awst 1836, ac mewn llythyr at y trydydd Arglwydd Newborough, torrodd Capten Perceval (cefnder o bell i deulu Newborough trwy briodas) y newyddion am ei farwolaeth. Mae’n amlwg fod y diwedd wedi bod yn drist os nad yn boenus, gan i Wynn Belasyse farw mewn carchar i ddyledwyr. Cafodd ei gladdu’n amharchus o sydyn, yn ôl y Capten, gan fod rhaid symud y corff yn syth rhag gorfod talu rhent am wythnos arall. Fe’i claddwyd ym medd ei fodryb er mwyn arbed y gost o fedd newydd, a hynny gyda chyn lleied o wario ag oedd yn ymarferol. “Cafodd ei gladdu mewn modd oedd yn nes at gladdu ci na chladdu bod dynol – felly mae dyn pan fydd arian yn y cwestiwn” meddai.[7]

Sylwer : Cyd-ddigwyddiad llwyr yw’r tebygrwydd rhwng teitl ei daid, sef “Arglwydd Newborough”, ac enw Priordy Newburgh neu Newborough yn Coxwold.

cyfeiriadau

  1. Archifdy Prifysgol Bangor, GB 222 BMSS CWB
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/passim
  3. Gwefan History of Parliament, [1], cyrchwyd 14.11.2022
  4. Erthygl Wikipedia ar Newburgh Priory, [2], cyrchwyd 14.11.2022
  5. Llyfrau Treth Dinas Westminster, 1801-1822
  6. London Gazette, 1827, t.2612
  7. Archifdy Glynllifon, XD2/18317