William Parry (Gwilym Droed-ddu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganed William Parry (1836-1864) - a fabwysiadodd yr enw barddol Gwilym Droed-ddu - yn Llwyn Angharad, Rhostryfan. Bu'n ddisgybl-athro yn Y Bontnewydd ac y...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ganed William Parry (1836-1864) - a fabwysiadodd yr enw barddol Gwilym Droed-ddu - yn Llwyn Angharad, Rhostryfan. Bu'n ddisgybl-athro yn Y Bontnewydd ac yna'n athro cynorthwyol yn Llandwrog. Oddi yno aeth i'r coleg hyfforddi athrawon yng Nghaernarfon ym 1855, gan dreulio cyfnodau byr wedyn yn athro yn Y Gaerwen, Môn; Clarach, Sir Aberteifi; Llaniestyn yn Llŷn ac yna Ysgol Penlleiniau ym Mhwllheli. Fel amryw yn ei gyfnod, dioddefai o'r dicïau a bu farw'n 28 oed.  
Ganed '''William Parry''' (1836-1864) - a fabwysiadodd yr enw barddol '''Gwilym Droed-ddu''' - yn Llwyn Angharad, Rhostryfan. Bu'n ddisgybl-athro yn Y Bontnewydd ac yna'n athro cynorthwyol yn Llandwrog. Oddi yno aeth i'r coleg hyfforddi athrawon yng Nghaernarfon ym 1855, gan dreulio cyfnodau byr wedyn yn athro yn Y Gaerwen, Môn; Clarach, Sir Aberteifi; Llaniestyn yn Llŷn ac yna Ysgol Penlleiniau ym Mhwllheli. Fel amryw yn ei gyfnod, dioddefai o'r dicïau a bu farw'n 28 oed.  

Yn ôl Cybi roedd yn ieithydd dawnus a gyfieithodd swm da o farddoniaeth o'r Almaeneg, y Ffrangeg a'r Saesneg (yn arbennig gwaith ei hoff fardd, Longfellow), a chyhoeddwyd rhai o'r darnau hyn yn ''Baner ac Amserau Cymru''. Fodd bynnag, heb ymchwilio ymhellach i'r mater, mae'n amhosibl dweud i ba raddau mae'r wybodaeth hon yn ddilys. Cyfansoddodd waith gwreiddiol yn y mesurau rhydd, ar ffurf telynegion gan mwyaf. Roedd y rhain fel y gellid disgwyl ar bynciau crefyddol a rhamantaidd, megis Rhieingerdd "Angharad", a geiriau cantawd "Cuddiad a Darganfyddiad Moses". Cyhoeddodd lyfryn o'i waith dan y teitl ''Hirnos Gauaf'' ac ymddangosodd bywgraffiad byr iddo a detholiad o'i waith yn rhifynnau Mawrth ac Ebrill 1903 o'r cylchgrawn ''Cymru''.<sup>[1]</sup>

Fersiwn yn ôl 11:03, 5 Tachwedd 2022

Ganed William Parry (1836-1864) - a fabwysiadodd yr enw barddol Gwilym Droed-ddu - yn Llwyn Angharad, Rhostryfan. Bu'n ddisgybl-athro yn Y Bontnewydd ac yna'n athro cynorthwyol yn Llandwrog. Oddi yno aeth i'r coleg hyfforddi athrawon yng Nghaernarfon ym 1855, gan dreulio cyfnodau byr wedyn yn athro yn Y Gaerwen, Môn; Clarach, Sir Aberteifi; Llaniestyn yn Llŷn ac yna Ysgol Penlleiniau ym Mhwllheli. Fel amryw yn ei gyfnod, dioddefai o'r dicïau a bu farw'n 28 oed.

Yn ôl Cybi roedd yn ieithydd dawnus a gyfieithodd swm da o farddoniaeth o'r Almaeneg, y Ffrangeg a'r Saesneg (yn arbennig gwaith ei hoff fardd, Longfellow), a chyhoeddwyd rhai o'r darnau hyn yn Baner ac Amserau Cymru. Fodd bynnag, heb ymchwilio ymhellach i'r mater, mae'n amhosibl dweud i ba raddau mae'r wybodaeth hon yn ddilys. Cyfansoddodd waith gwreiddiol yn y mesurau rhydd, ar ffurf telynegion gan mwyaf. Roedd y rhain fel y gellid disgwyl ar bynciau crefyddol a rhamantaidd, megis Rhieingerdd "Angharad", a geiriau cantawd "Cuddiad a Darganfyddiad Moses". Cyhoeddodd lyfryn o'i waith dan y teitl Hirnos Gauaf ac ymddangosodd bywgraffiad byr iddo a detholiad o'i waith yn rhifynnau Mawrth ac Ebrill 1903 o'r cylchgrawn Cymru.[1]

Cyfeiriadau

1. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), t.15.